Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Beth yw'r cynllun nanis?

Mae’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 presennol (y byddwn yn cyfeirio ato yn yr asesiad effaith integredig hwn fel "Cynllun Nanis 2007") yn gynllun gwirfoddol ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant yn y cartref ("nanis") sy'n bodloni meini prawf sylfaenol penodol. Cyflwynwyd y cynllun i gyflawni'r ymrwymiad yn Strategaeth Gofal Plant Cymru (Tachwedd 2005) i sicrhau bod gan rieni sy'n defnyddio ymarferwyr gofal plant yn eu cartrefi yr opsiwn o ddefnyddio nanis sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth wirfoddol.

Un o'r rhesymau gwreiddiol dros sefydlu Cynllun Nanis 2007 oedd darparu ar gyfer proses lle gellid cymeradwyo nanis a gallai rhieni sy'n defnyddio gwasanaethau'r nanis cymeradwy hyn hawlio cymorth ariannol perthnasol gan Lywodraeth y DU gyda chostau gofal plant. O dan y telerau a bennir gan Lywodraeth y DU, dim ond mewn perthynas â darparwyr gofal plant 'cymeradwy' y gellir hawlio arian o rai o'r cronfeydd hyn. Gan nad yw nanis o fewn y categorïau o ddarparwyr gofal plant y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yng Nghymru, dyfeisiwyd Cynllun Nanis 2007 yn rhannol i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw drwy ddarparu mecanwaith ar gyfer cymeradwyo, er y cydnabyddir yn gyffredinol fod y dull o gymeradwyo nanis yn ddull llai beichus o'i gymharu â'r broses ar gyfer cofrestru, rheoleiddio ac arolygu darparwyr gofal dydd a gwarchodwyr plant.

Ar hyn o bryd, AGC sy'n rheoli cymeradwyaethau ar gyfer Cynllun Nanis 2007 fel y corff cymeradwyo ar ran Gweinidogion Cymru ac nid oes unrhyw gynlluniau i hynny newid o dan y cynllun newydd. Ar hyn o bryd mae tua 75 o nanis cymeradwy yng Nghymru.

Pam fod angen newid?

Ym mis Chwefror 2019, cyflwynodd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU Orchymyn Deddf Diwygio Lles 2012 (Cychwyn Rhif 32 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019 ac roedd y newidiadau hyn i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU yn effeithio ar y sail gyfreithiol y dibynnai cynllun nanis 2007 arni.

Mae hyn yn golygu bod angen cynllun newydd yn lle Cynllun Nanis 2007 er mwyn sicrhau y gellir parhau i gymeradwyo nanis sy'n gweithredu yng Nghymru ac y gall teuluoedd yng Nghymru sy'n defnyddio gwasanaethau nanis cymeradwy barhau i elwa ar gymorth ariannol Llywodraeth y DU tuag at eu costau gofal plant.

Dyna pam mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu cynllun o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 o'r enw Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 (y cyfeirir ato yn yr asesiad effaith hwn fel Cynllun Nanis 2021).

Beth sy'n cyfrif fel gofal plant cymwys at ddibenion y cynllun?

At ddibenion Cynllun Nanis 2021, diffinnir gofal plant a ddarperir gan "nani" fel a ganlyn:

Ystyr gofal plant cymhwysol yw gofal a ddarperir gan berson am gydnabyddiaeth ar gyfer:

(a) plentyn neu blant i rieni penodol yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y rhieni, neu
(b) plentyn neu blant i rieni penodol (“y rhieni cyntaf”), ac yn ychwanegol ar gyfer plentyn neu blant i rieni gwahanol (“yr ail rieni”), yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref y rhieni cyntaf neu’r ail rieni, neu yn y ddau gartref.

Nid yw gofal plant cymhwysol yn cynnwys:

(a) gwarchod plant sy’n ddarostyngedig i gofrestriad yn unol â Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(11)
(b) gofal a ddarperir gan berson am gydnabyddiaeth ar gyfer plentyn sy’n 12 oed neu’n hŷn, ac eithrio yn unol ag is-baragraff (1)(a) neu (b)
(c) gofal plant a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref rhiant y plentyn, gan riant neu berthynas i’r plentyn, neu
(d) gofal plant a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng nghartref perthynas i’r plentyn pan na fo’r gofal hwnnw fel arfer yn cael ei ddarparu ond mewn cysylltiad ag un neu ragor o blant gan riant neu berthynas.

Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng cynllun nanis 2007 a Chynllun Nanis 2021?

Mae Cynllun Nanis 2021 yn debyg yn fras i'r cynllun presennol ond mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i wneud rhai newidiadau.

Mae'r prif newidiadau'n ymwneud â:

(i) Meini prawf cymeradwyo: mae angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
(ii) Eglurder ynghylch pryd y dylai person wneud cais i adnewyddu ei gymeradwyaeth: mae angen i nani wneud cais i’w hadnewyddu 42 diwrnod cyn i'w chymeradwyaeth ddod i ben
(iii) Darparu gwybodaeth i'r corff cymeradwyo: mae angen i nani hysbysu'r corff cymeradwyo am unrhyw rybuddion neu euogfarnau
(iv) Gwrthod neu dynnu'n ôl gymeradwyaeth a’r broses gynrychioli; bydd proses gynrychioli a reolir gan y corff cymeradwyo yn disodli'r llwybr apêl presennol i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Yng ngoleuni'r ymarfer ymgynghori ar y Cynllun Nanis 2021 drafft, bydd canllawiau sy'n ymwneud â'r cynllun yn cael eu hadolygu i egluro ychydig o bwyntiau o'i ddyddiad "dod i rym" ar 1 Ebrill 2021 a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio goblygiadau cyflwyno gofyniad i nanis fod wedi dilyn hyfforddiant diogelu. Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma.

Adran 7: Casgliad

7.1 Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Agorodd yr ymgynghoriad ar Gynllun Nanis 2021 ym mis Medi 2020 a daeth i ben ar 4 Rhagfyr 2020. I sicrhau bod y bobl hynny y bydd y newidiadau'n effeithio anynt yn ymwybodol o'r newidiadau, gwnaethom gysylltu â phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, PACEY Cymru a chyrff rhanddeiliaid. Yn ogystal, gwnaethom gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ein gwefan a chynhaliwyd ymgyrch o anfon negeseuon e-bost wedi'u targedu er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Trefnwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru gysylltu â'r holl nanis ar Gynllun Nanis 2007 i ofyn am eu barn ar y newidiadau ac anogwyd y nanis hynny i rannu manylion y newidiadau i'r cynllun gyda'r teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu. Yn ogystal, hwylusodd PACEY Cymru ddau ddigwyddiad ymgynghori rhithwir ynghylch y cynllun newydd arfaethedig, un gydag awdurdodau lleol ac un gyda nanis, lle trafodwyd y newidiadau arfaethedig yn fanwl. Mae PACEY Cymru yn un o bum corff ambarél sy’n cynrychioli’r sector gofal plant yng Nghymru, ac mae’n cefnogi gwarchodwyr plant a nanis yn benodol.

Dylid nodi nad cynllun newydd sbon yw hwn ac mai'r prif sbardun ar gyfer y cynllun newydd hwn yw newidiadau sydd wedi'u gwneud i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Blaenoriaeth allweddol Llywodraeth Cymru a'i nod wrth wneud y cynllun newydd hwn yw sicrhau bod rhieni sy'n defnyddio nanis cymeradwy yng Nghymru yn gallu parhau i fanteisio ar gynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU.

7.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

O safbwynt y nanis, mae effeithiau cadarnhaol y cynllun fel a ganlyn:

  • mae bod ar y cynllun cymeradwyo yn rhoi mwy o ddewisiadau o ran cyflogadaeth iddynt. Mae rhieni'n fwy tebygol o fod eisiau cyflogi nanis cymeradwy os yw'n golygu y gallant elwa ar gymorth ariannol Llywodraeth y DU gyda chostau gofal plant a hefyd gael sicrwydd bod y darparwr gofal plant wedi cael ei wirio ac wedi cael hyfforddiant sylfaenol sy'n ei wneud yn fwy addas a chymwys ar gyfer y rôl;
  • mae’n rhoi hygrededd ychwanegol i nanis fel darparwyr gofal plant proffesiynol oherwydd y gofynion y mae'n rhaid eu bodloni ar gyfer cael cymeradwyaeth, heb fod y broses yn rhy feichus o ran amser nac ymrwymiad ariannol.

O safbwynt teuluoedd, mae effeithiau cadarnhaol y cynllun fel a ganlyn:

  • mae defnyddio nani gymeradwy yn golygu y gallant elwa ar gymorth ariannol Llywodraeth y DU gyda chostau gofal plant a hefyd gael sicrwydd bod y darparwr gofal plant wedi cael ei wirio ac wedi cael hyfforddiant sylfaenol sy'n ei wneud yn fwy addas a chymwys ar gyfer y rôl;
  • mae cael mwy o nanis cymeradwy yng Nghymru yn golygu bod gan rieni fwy o ddewis o ran y gofal plant sydd ar gael iddynt, sy'n aml o fudd i rieni sy'n gweithio oriau anarferol e.e. rhai o'n gweithwyr hanfodol (staff y GIG) a rhieni mewn ardaloedd mwy gwledig lle mae opsiynau gofal plant ffurfiol yn fwy

cyfyngedig. Mae hefyd yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu dyletswyddau digonolrwydd i sicrhau bod sbectrwm eang o wasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion amrywiol rhieni sy'n gweithio yn eu hardaloedd;

  • mae nanis yn darparu gofal yng nghartref y teulu a allai fod o fudd i les plant gan eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd cyfarwydd a diogel ac mae'n cyfyngu ar nifer y lleoliadau/teithiau sydd eu hangen. Gall trefniadau o'r fath hefyd arwain weithiau at gysylltiad agos a pharhaol rhwng y nani a'r plant/teulu;
  • Un o'r effeithiau negyddol a nodwyd gan rai nanis sydd wedi ymateb i'r ymgynghoriad yw'r gofyniad newydd i nanis gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae'r newid hwn yn sicrhau bod gofynion y cynllun yn cyd-fynd yn well â'r gofynion ar gyfer nanis yn Lloegr a Gogledd Iwerddon a gofynion Llywodraeth Cymru ei hun mewn perthynas â gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd. Mae hyn yn cynnig amddiffyniad i'r nani os bydd rhywun yn ei gofal yn dioddef anaf neu os oes difrod i eiddo a hithau’n ei chael ar fai. Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a'r nanis a gymerodd ran yn y digwyddiad ymgynghori yn gwbl gefnogol i'r gofyniad newydd hwn, er eu bod yn cydnabod y gost ychwanegol y mae'n ei golygu. Gellir cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am gost resymol, er enghraifft drwy PACEY Cymru, y corff ymbarél sy'n cynrychioli buddiannau nanis yng Nghymru.

7.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • Yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
  • Yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r cynllun yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi egwyddor gyffredinol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n ymwneud âg ymyrryd yn gadarnhaol nawr er budd pobl sy'n byw yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r polisi'n cyfrannu at nodau Llesiant y Ddeddf, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â Chymru lewyrchus ac iachach.

Mae'r polisi'n helpu i gefnogi amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran:

  • Cefnogi pobl a busnesau i ysgogi ffyniant
  • Hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb
  • Helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o'u potensial
  • Datblygu uchelgais ac annog dysgu i fyw

Bydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar nanis a'r rhieni dan sylw, gan eu cefnogi i gael gwaith a rhoi mwy o ddewis o gyflogaeth iddynt.

Mae'r cynllun yn cefnogi pum ffordd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o weithio fel a ganlyn:

Hirdymor: gall buddsoddi mewn gofal plant a chwarae o safon helpu plant ifanc i ddatblygu'n oedolion iach a gweithgar. Mae'n datblygu eu lles gwybyddol a chymdeithasol ac emosiynol ac yn lliniaru effeithiau andwyol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gall gofal plant hefyd ei gwneud yn bosibl i rieni weithio a hyfforddi ac mae’n helpu i godi teuluoedd allan o dlodi.

Atal: Gall profiadau o safon yn y blynyddoedd cynnar ddatblygu gwydnwch plant ac mae'n helpu i atal problemau iechyd corfforol a meddyliol diweddarach. Gall gofal plant o ansawdd da hefyd helpu o ran ymlyniad a datblygu perthnasoedd iach a lleihau tlodi i deuluoedd.

Integreiddio: Mae'r cynllun yn integreiddio ag amcanion polisi eraill Llywodraeth Cymru a dyletswyddau cyffredinol awdurdodau lleol o ran gofal plant, sef datblygu a chyflwyno polisïau sy'n sicrhau bod yr angen/galw am ofal plant ar lefel leol yn cael ei ddeall yn llawn a bod camau'n cael eu cymryd i ddarparu gofal plant o safon sy'n diwallu anghenion rhieni sy'n gweithio ac sy'n cefnogi datblygiad plant.

Cydweithio: Wrth gyflwyno'r cynllun, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol sydd â dyletswyddau statudol ynghylch digonolrwydd gofal plant a dealltwriaeth gadarn o anghenion teuluoedd yn eu hardaloedd. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff ymbarél sy'n cynrychioli barn darparwyr gofal plant; adrannau perthnasol Llywodraeth y DU a'r corff cymeradwyo, AGC.

Cynnwys: Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chyrff ymbarél y sector ac yn uniongyrchol gyda darparwyr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y gwaith o lunio a gweithredu'r cynllun. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori a chyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion.

7.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?

Y bwriad yw i Gynllun Nanis 2021 ddod i rym ar 1 Ebrill 2021 o dan bwerau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, cyrff ymbarél a chyda'r corff cymeradwyo i fonitro’r broses o roi Cynllun nanis 2021 ar waith. Bydd hyn yn cynnwys ymdrechion i edrych ar ffyrdd o leihau'r baich costau sy'n gysylltiedig â chymeradwyo, ac ail-gymeradwyo. Bydd cynllun 2007 a chynllun 2021 yn rhedeg ochr yn ochr am gyfnod o flwyddyn nes i'r holl nanis a gymeradwywyd o dan gynllun 2007 drosglwyddo i gynllun 2021.

Mae nanis yng Nghymru yn dod o dan ddarpariaeth wedi’i hesemptio fel y'i diffinnir gan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, fel y'i diwygiwyd. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu ymgynghori ar y Gorchymyn Eithriadau yn ystod 2020 ond o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, mae'r gwaith hwnnw wedi'i ohirio. Bydd cyfle i adolygu'r ffordd y caiff nanis eu cymeradwyo, a'r cynllun newydd, fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 112 KB.

Maint Ffeil 112 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.