Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion y cynlluniau grant addysg bellach canlynol, sy'n seiliedig ar incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025:

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (GDLlC(AB)).

Nid oes unrhyw newidiadau i'r trothwyon incwm cymwys ar gyfer LCA a GDLlC(AB) a lefelau'r grant.

Mae'r cynlluniau ar gael i'w gweld ar y dudalen cyllid i fyfyrwyr.

Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl staff a chydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.

Lansio gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais

Agorodd gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 ar 8 Ebrill 2024.

Sut i wneud cais

Myfyrwyr newydd

Cais papur: gall myfyrwyr newydd gasglu ffurflen bapur o'u hysgol neu goleg. Gellir hefyd lawrlwytho ceisiadau i'w hargraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cais electronig: disgwylir i'r gwasanaeth cyflwyno electronig agor ym mis Medi 2024. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr newydd yn gallu cyflwyno eu cais a lanlwytho tystiolaeth ategol trwy greu cyfrif ar-lein. Ceir gwybodaeth a chanllawiau pellach ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Myfyrwyr sy'n dychwelyd

Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur neu electronig. Mae eu Cytundeb LCA neu GDLlC(AB) wedi'i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ailymgeisio am gymorth am flwyddyn arall. Ysgrifennodd Cyllid Myfyrwyr Cymru at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod gwanwyn 2024 i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025.

I gael gwybodaeth a chyngor cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

Meini prawf cymhwystra

Aelodau teulu cymwys o gynlluniau Wcráin neu Dinasyddion Afghanistan

Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau'n darparu darpariaeth i berson fod yn gymwys i gael LCA neu GDLlC(AB) os ydynt wedi cael caniatâd i aros yn y DU o dan y Cynlluniau Wcráin perthnasol neu Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARPA) neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan (ACRS). 

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 mae'r cynlluniau wedi'u hymestyn i alluogi aelodau teulu perthnasol person sydd wedi cael caniatâd o dan y llwybrau mewnfudo Wcráin neu Afghanistan perthnasol uchod i fod yn gymwys i gael cyllid. 

Bydd aelod o'r teulu hefyd yn gymwys o dan y ddarpariaeth ddigwyddiadau.

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant

Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau'n darparu darpariaeth i wneud yn gymwys personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel dioddefwr cam-drin domestig neu drais domestig, a phartneriaid mewn profedigaeth, yn unol â darpariaethau o fewn y Rheolau Mewnfudo. Mae'r cynlluniau hefyd yn darparu i blentyn person o'r fath fod yn gymwys.

Yn dilyn newidiadau'r Swyddfa Gartref i'w Rheolau Mewnfudo ym mis Ionawr 2024, mae'r cynlluniau wedi'u diwygio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 i ganiatáu i bersonau cymwys wneud cais am gyllid os cânt ganiatâd i aros neu i ddod i mewn o dan yr Atodiadau newydd ar gyfer Dioddefwr Cam-drin Domestig a Phartner mewn Profedigaeth, yn amodol ar fodloni pob maen prawf arall.

Mae'r categori hwn hefyd yn gymwys o dan y ddarpariaeth ddigwyddiadau.

Nid yw'r newidiadau i'r Rheolau Mewnfudo yn effeithio ar y rhai sy'n cael cyllid ar hyn o bryd ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Mae'r newidiadau uchod yn sicrhau meini prawf cyson ar gyfer y trefniadau cymorth cynhaliaeth ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, e-bostiwch: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.

Gellir gofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.