Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd, rhanddeiliaid a'r gymuned ffermio am y gwaith a’r cynnydd parhaus sy'n cael ei wneud ar ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) terfynol drwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Ers cyhoeddi Amlinelliad o'r Cynllun fis Tachwedd diwethaf, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda'r Ford Gron Weinidogol, y Grwpiau Swyddogion a Grŵp Rhanddeiliaid newydd i Gyflawni ar Goed a Gwrychoedd sy'n helpu i lunio dyluniad y Cynllun cyn i'r penderfyniadau terfynol gael eu gwneud yr haf hwn a dechrau'r Cynllun ym mis Ionawr 2026.   

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein ffermwyr gyda Thaliad Sylfaenol Cyffredinol sy'n cydnabod ymagwedd gyfannol tuag at y manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y mae busnesau ffermio cynaliadwy yn cyfrannu atynt. Drwy'r dull hwn gallwn adeiladu ar arferion ffermio cynaliadwy i gyflawni safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid, ymateb i heriau'r argyfwng hinsawdd a natur a sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu'n gynaliadwy.

Yn gyfnewid am gyflawni'r Camau Gweithredu Cyffredinol arfaethedig, byddwn yn darparu Taliad Sylfaenol Cyffredinol i ffermwyr a fydd yn deillio o faint y fferm gyfan. Bydd hyn yn darparu lefel o sicrwydd i ffermwyr a fydd yn cael ei groesawu. Rydym yn gweithio'n gyflym gydag aelodau’r Ford Gron Weinidogol i fireinio manylion y Camau Gweithredu Cyffredinol a gofynion y Cynllun. Bydd angen i ffermwyr fod yn ymwybodol ohonynt cyn ymuno â'r Cynllun. Rydym yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â’r materion sy’n weddill.

Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r Camau Gweithredu Opsiynol a Chydweithredol, y bydd nifer ohonynt ar gael o 2026 ymlaen, i gefnogi'r ffermwyr hynny sydd am fynd ymhellach ac adeiladu ar sylfeini'r Haen Gyffredinol i sicrhau canlyniadau sydd wedi'u targedu'n fwy i'w busnes, eu hinsawdd, eu natur a phobl Cymru. 

Yn seiliedig ar yr Amlinelliad diweddaraf o'r Cynllun, mae sylfaen dystiolaeth yn cael ei datblygu. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad economaidd ac asesiad effaith a fydd yn ystyried yr effaith ar yr ystod lawn o amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Rwy’n ailadrodd fy ymrwymiad blaenorol na fyddaf yn gwneud penderfyniadau terfynol ar ddyluniad y Cynllun cyn bod y dystiolaeth wedi dod i law, a fy mod wedi trafod y mater gyda’r Ford Gron. 

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ffermwyr drwy'r trawsnewidiad i’r SFS drwy gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol ar £238miliwn a sicrhau bod ystod eang o gynlluniau Cyfnod Paratoi'r SFS ar gael. Yn gyfan gwbl, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru eleni gyda £366miliwn o gyllideb.

Mae llawer o waith i'w wneud eleni o hyd, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r ymrwymiad parhaus gan randdeiliaid. Dim ond gyda mewnbwn pawb y gallwn symud ymlaen. 

Rwy'n bwriadu rhannu'r Cynllun terfynol gyda'r Senedd a rhanddeiliaid cyn gynted â phosibl yr haf hwn. Bydd hefyd fanylion ynghylch sut y byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid drwy gydol gweddill y flwyddyn a thu hwnt, i gefnogi'r gwaith o drosglwyddo ffermwyr i'r Cynllun. Bydd y Cynllun yn ganolog i gyflawni fy ngweledigaeth o sicrhau sector amaethyddol ffyniannus yng Nghymru sy'n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ac yn cefnogi cymunedau gwledig bywiog.