Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhestr isod yn cynnwys rhai o’r cwestiynau y mae ffermwyr wedi bod yn eu gofyn ers cyhoeddi’r SFS Bras.

Rydym wedi rhoi atebion pendant lle medrwn, ond ni fydd atebion i lawer o’r cwestiynau nes y daw’r broses ymgynghori i ben.

Cwestiynau cyffredinol am y cynllun

Nid oes unrhyw beth yn hwn i esbonio sut y bydd y cynllun yn effeithio ar denantiaid, tiroedd comin neu ffermwyr newydd?

Rydym wedi bod yn ystyried y ffermwyr hyn gydol proses ddylunio’r cynllun, ond mae gennym bellach restr o gynigion manwl i’w hystyried.

Rydym wedi creu Gweithgorau o randdeiliaid arbenigol i ystyried y cynigion o safbwynt tenantiaid, cominwyr a ffermwyr newydd.  Mae ffrwyth eu trafod yn ein helpu i lunio’r cynllun.

Beth am y ffermwyr hynny nad ydyn nhw am ymuno â’r SFS?

Bydd yr SFS yn gynllun gwirfoddol a’r prif gyfrwng i’r llywodraeth gefnogi ffermwyr yn y dyfodol.  Rydyn ni’n cynnig bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dod i ben yn raddol dros y cyfnod pontio.

Bydd y ffermydd y tu allan i’r SFS yn dal yn gorfod cadw at yr holl reoliadau.

A ga i ddewis pa Weithredoedd Sylfaenol i’w cynnal?

Na chewch. Rhaid i bob ffermwr gynnal yr holl Weithredoedd Sylfaenol er mwyn cael Taliad Sylfaenol.

Ond rydym yn deall na fydd rhai gweithredoedd yn berthnasol i bawb – er enghraifft, nid oes gan bob fferm dda byw, felly ni fydd gofyn i’r ffermydd hynny gynnal y gweithredoedd ar iechyd anifeiliaid ac ni fydd ambell fferm yn gallu plannu coed oherwydd cynefinoedd â blaenoriaeth neu nodweddion hanesyddol.

Pam ydych chi’n gofyn i fi gynhyrchu llai o fwyd er mwyn plannu coed neu greu cynefin?

Mae’r cynllun am gadw ffermwyr ar y tir gan fod y bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu yn hanfodol i’r wlad.  Ond rhaid i ni hefyd ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur er mwyn sicrhau bod gennym sector amaeth sy’n gynaliadwy ac yn gryf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym am ddiogelu gallu’r tir i gynhyrchu bwyd yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr nhw i feddwl sut orau i gymhathu coed a chynefinoedd yn eu system ffermio.

Rydym wedi cynnwys gweithredoedd fel meincnodi, bioddiogelwch a phrofion pridd, y cyfan yn helpu’n uniongyrchol i wneud y tir yn fwy cynhyrchiol ac i ddiogelu ein gallu i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Sut mae newid hinsawdd yn berthnasol i fi?

Y bygythiad mwyaf i allu’r byd i gynhyrchu bwyd yn y tymor canolig i hir yw’r newid yn yr hinsawdd. Yng Nghymru, gallwn ddisgwyl gweld mwy o sychder a mwy o lifogydd yn y gaeaf.

Bydd y cynigion ar gyfer creu cynefinoedd a phlannu coed yn helpu i leihau effeithiau’r ffactorau hyn ar eich fferm – er enghraifft, bydd mawnogydd a chorsydd yn helpu i storio dŵr yn ystod tywydd gwlyb, a bydd mwy o goed yn cysgodi’ch stoc rhag tywydd eithafol.

A ddylai cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy fod yn un o ganlyniadau’r cynllun?

Bydd unrhyw help a roddir yn y dyfodol gan y Llywodraeth i ffermwyr yn seiliedig ar yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru). Mae’r amcanion hynny’n delio â chynhyrchu bwyd, newid hinsawdd, ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hiaith ac â’r ecosystemau sy’n cynnal ein hanifeiliaid a phlanhigion gwyllt.

Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy’n ganolog i’r SFS, ond i fod yn wir gynaliadwy, mae angen i fusnes fod yn gynaliadwy o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae ffermwyr yn rhybuddio'r llywodraeth o hyd y byddwn ni'n wynebu prinder bwyd. Pam mae'r llywodraeth felly’n annog ffermwyr i gynhyrchu llai o fwyd?

Mae’r cynllun yn cynnig sawl cam i roi hwb i gynhyrchu bwyd, hynny drwy feincnodi, gwella bioddiogelwch a rheoli pridd ac iechyd da byw yn well. Bydd hyn yn helpu ffermwyr i leihau costau a cholledion, gan barhau i gynhyrchu bwyd. 

Sut mae ffermydd Da Byw Dwys yn ffitio i mewn i'r SFS, neu a fyddan nhw'n cael eu cosbi?

Mae'r cynllun o blaid cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy - yn y tymor byr a'r tymor hir - drwy weithredoedd fel gwella iechyd da byw a rheoli pridd. Os na wnawn ni fuddsoddi yn y pethau hyn nawr, bydd gennym broblemau llawer mwy o ran cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.        

Ein bwriad yw llunio cynllun y bydd pob fferm yn gallu cymryd rhan ynddo, ond mater gwirfoddol yw cymryd rhan yn y cynllun, felly ni fydd cosbau os dewiswch chi beidio.  

Gweithredoedd sylfaenol

Rydym wedi grwpio’r cwestiynau hyn yn ôl y gweithredoedd mwyaf perthnasol sydd wedi’u rhestru yn “Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – Cynigion bras ar gyfer 2025” a gyhoeddwyd yn 2022. Er y gall rhai cwestiynau fod yn berthnasol i fwy nag un weithred, dim ond unwaith y bydd pob cwestiwn wedi’i gynnwys.

Rheoli a gwella perfformiad fferm trwy fesur a monitro

O ran meincnodi / Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) – os ca i sgôr isel, a oes perygl na cha i ragor o arian?

Na.  Diben meincnodi yw helpu ffermwyr i ddeall eu costau a’u perfformiad.  Y peth pwysig i ni yw gwneud yn siŵr bod y ffermwr yn deall sut i ddefnyddio’r data meincnodi wrth wneud penderfyniadau ac i wneud rhagor o welliannau.

Mae llawer o weithredoedd yn gysylltiedig â chynlluniau a chyflwyno data. Pam ydych chi’n gwneud i ni wneud hyn a beth fydd yn digwydd i’n data?

Diben y gweithredoedd hyn yw er mwyn i ffermwyr allu gwneud penderfyniadau gwell. Nid mater o dicio bocsys ydyn nhw. Rydym am i’r cynlluniau hyn fod yn gynlluniau byw i’ch helpu i fesur a monitro, i fod yn fwy effeithiol ac i leihau costau.

Nid ydym wedi penderfynu pa Ddangosyddion y byddwn yn eu defnyddio gyda pha feincnod eto. Ond os bydd meincnodi yn dangos bod mwy o’ch stoc yn marw neu fod eich stoc yn magu pwysau’n arafach na’r cyfartaledd, gallai hynny fwydo’ch Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid gyda’ch milfeddyg a gwella perfformiad eich da byw.

Sut bydd fy nata’n cael eu defnyddio / eu diogelu?

Pan fydd Llywodraeth Cymru’n casglu data at ddiben penodol, byddwn yn rhoi hysbysiad preifatrwydd i chi fydd yn esbonio pam mae angen yr wybodaeth arnom a sut y byddwn yn ei defnyddio. Caiff yr holl ddata eu prosesu a’u rheoli yn unol â’n cyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol, gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Arallgyfeirio, gwahaniaethu ac arbenigo i ychwanegu at werth

A fyddai’r haen gydweithredol yn gallu cefnogi ‘prosiect cydweithredol’ i helpu ffermwyr i weithio gyda’i gilydd a gwerthu cynnyrch garddwriaethol neu gynnyrch arall yn syth i gwsmeriaid?

Byddai. Ein hamcan yw helpu ffermwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i ychwanegu at werth eu cynnyrch ac i roi help a chyngor iddyn nhw i ddeall a manteisio ar y farchnad, gan gryfhau busnesau eu fferm.

Garddwriaeth gonfensiynol yw un o'r gweithgareddau mwyaf niweidiol i bridd. Sut mae cysoni hyn ag amcanion y cynllun o ran cynaliadwyedd?

Mae gan Gymru ffermydd garddwriaethol ardderchog sy’n cynhyrchu bwyd iach i ni mewn ffordd sy’n fanteisiol i’r amgylchedd.

Bydd angen i ni gasglu’r holl arferion gorau o'r sector garddwriaeth a’u hintegreiddio ag elfennau eraill y cynllun megis profi pridd a rheoli maethynnau a phlaladdwyr. 

A fyddwch chi’n cefnogi mentrau garddwriaethol newydd sydd ddim ar ffermydd da byw mawr?

Rydym yn sylweddoli y gallai’r arwynebedd lleiaf o 3ha fod yn rhwystr i rai ffermydd garddwriaethol. Rydym wrthi’n ystyried felly a fyddai’n well cynnig help i’r sector garddwriaethol gan ddefnyddio amodau penodol i’r sector.

Os yw’r cynllun yn ein hannog i aredig tir pori parhaol i dyfu llysiau neu ragor o borthiant, oni fyddai hynny’n rhyddhau mwy o garbon ac yn gwrthdaro ag amcanion y cynllun?

Cynllun fferm gyfan yw’r SFS, felly bydd angen ystyried y weithred hon ochr yn ochr â gweithredoedd eraill y cynllun ac nid ar ei phen ei hun.  Bydd defnyddio’r wybodaeth y byddwn wedi’i dysgu yn sgil cynnal profion pridd neu asesu plâu a thechnegau hau newydd yn ein helpu i fod mor effeithiol â phosibl wrth dyfu cnydau newydd.

Trwy dyfu cnydau sy’n tyfu’n dda er gwaetha tywydd a phridd Cymru, bydd hynny’n lleihau ein dibyniaeth ar fewnforio cnydau o leoedd eraill ac yn lleihau allyriadau eu cludo.

Lleihau’r risg o ddal a lledaenu clefydau

A yw’n ymarferol darparu man golchi bob man y mae llwybr cyhoeddus yn croesi ffin fferm?

Nid dyna’r bwriad. Bwriad y weithred y lleihau’r risg os medrir yn y man lle mae’r rhan fwyaf o’r stoc sy’n mynd a dod i’r fferm, a lle mae’r rhan fwyaf o’r bobl a cherbydau sy’n teithio o fferm i fferm, yn croesi’r ffin. I’r mwyafrif, byddai hynny’n golygu darparu mannau golchi ar glos y fferm.

Bydd yn rhaid meddwl am ystyriaethau bioddiogelwch eraill os bydd da byw’n cymysgu ac yn dod yn ôl i’r fferm o dir comin.

Beth yw pwrpas perth / gwrych 3m o led ar ffin fferm?

Diben y 3m yw lleihau’r posibilrwydd y gallai anifeiliaid cymydog ddod i gysylltiad corfforol â’ch anifeiliaid chi, a drwy hynny, lleihau’r perygl o drosglwyddo clefydau.

Ni fyddai perth 3m o les os mai heol, afon neu derfyn anamaethyddol arall yw ffin y fferm, lle na fydd da byw yn debygol o fod yn bresennol.

Nid oes angen perth 3m chwaith os oes ffind diddos arall fel llain glustogi wedi’i ffensio neu wal gerrig i gadw stoc ar wahân.

Mae perthi llydan yn cynnig manteision eraill hefyd fel cysgod i dda byw, cynefin i fywyd gwyllt a dalfa garbon.

Pwy fyddai’n gyfrifol ac yn cael y taliad am greu perth / gwrych derfyn 3 m o led fel Gweithred Opsiynol?

Mae’r Weithred Opsiynol hon yn addas os oes lle i’r 3m cyfan ar dir un ffermwr. Mae’n bosibl hefyd os yw’n glir pwy yw perchennog / rheolwr darn penodol o berth derfyn, a bod y cymdogion yn cytuno â hynny.

Gwneud y defnydd gorau o wrtaith artiffisial trwy reoli maethynnau a phrofi’r pridd

Mae’r weithred hon fel pe bai’n hyrwyddo gwrtaith artiffisial ac yn gwrthdaro ag amcanion y cynllun?

Diben y weithred hon yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi allu gwneud y dewisiadau gorau o ran rheoli pridd er lles iechyd y pridd, arbed arian a helpu’ch pridd i wrthsefyll llifogydd a sychder.

Pam mae rhaid profi’r pridd fel rhan o’r cynllun, ac a fydd angen cynnal profion ym mhob cae?

Bwriad y profion hyn yw helpu ffermwyr i ddeall cyflwr eu pridd, y maethynnau sydd ar gael ynddo a sut i wasgaru gwrteithiau a’u targedu rhag gwastraffu arian. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y ffermwr yn deall sut i ddefnyddio data’r profion pridd er mwyn rheoli pridd yn well.  Yn ein barn ni, mae deall cyflwr eich pridd yn rhan bwysig o’r cymorth i ffermwyr i fod yn wydn a chynhyrchiol.

Gallai’r wybodaeth eich arwain hefyd i ystyried rhai o’r gweithredoedd opsiynol fel defnyddio mwy o godlysiau neu ystyried patrymau pori cylchdro os yw’n addas i system eich fferm chi.

Bydd casglu samplau pridd ar holl ffermydd Cymru yn straen ar yr adnoddau sydd ar gael, felly rhaid bod yn rhesymol ac amserol.  Cewch ragor o fanylion yn yr ymgynghoriad nesaf.

A fydd y cynllun yn pennu terfynau defnyddio gwrtaith?

Na fydd ond bydd gofyn ichi gadw at reoliadau eraill.

A wnaiff Llywodraeth Cymru dalu am y profion pridd?

Bydd y Taliad Sylfaenol yn talu am y Gweithredoedd Sylfaenol sy’n cynnwys profion pridd.

Pa fesurau fydd yn cael eu defnyddio i asesu iechyd pridd?

Mae iechyd pridd yn anodd ei ddiffinio a bydd y diffiniad yn amrywio yn ôl y math o bridd.

Byddwn yn gofyn i ffermwyr gynnal y prawf pridd sylfaenol isod i asesu cyflwr y pridd a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen:

  • Nitrogen (N), Potasiwm (P), Ffosfforws (K), Carbon a pH
  • Mesur biolegol e.e. eDNA, resbiradu, cyfrif rhywogaethau ‘procsi’ (mwydod/pryfed genwair)
  • Asesiad ffisegol e.e. cyfradd ymdreiddio, dwysedd y mas a Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS)

Defnyddio llai o blaladdwyr a chwynladdwyr reolaeth integredig ar blâu

Pam mae angen cynnal asesiad ar gyfer rheoli plâu?

Mae Rheolaeth Integredig ar Blâu (IPM) yn ystyried sut mae tyfu cnwd iach heb amharu ar yr ecosystem ehangach. Bwriad y weithred yw helpu ffermwyr i ddeall pam yn union y mae angen plaladdwr ac a oes ffyrdd eraill o ddatrys y broblem e.e. planhigion cymar neu dewis hadau gwahanol, gan arbed arian a defnyddio llai o gemegolion.

Ni fydd y cynllun yn eich rhwystro rhag defnyddio plaladdwyr am resymau heblaw am y safonau rheoleiddio.

A oes yn rhaid i mi gynnal y weithred hon os oes gen i dystysgrif organig?

Ein bwriad yw mai ffermydd sy’n defnyddio Cynnyrch Amddiffyn Planhigion (plaladdwyr) sy’n cynnal y weithred hon.

Lleihau effaith allyriadau amonia ar yr amgylchedd

Sut mae newid y ffordd rydych yn rheoli slyri yn effeithio ar allyriadau amonia?

Mae amonia’n cael ei ollwng pan mae tail neu slyri’n dod i gysylltiad â’r aer.  Mae amonia sy’n cael ei ollwng i’r aer yn golygu colli nitrogen i dyfu blanhigion, gan gostio arian i’r fferm.

Mae erfyn ar-lein Cyswllt Ffermio yn rhoi cyngor ymarferol i ffermwyr ar sut i leihau allyriadau o slyri ac arferion rheoli ffermio eraill.

A yw’r opsiwn hwn ar gael ar gyfer systemau heblaw godro, fel dofednod?

Ein bwriad yw targedu’r ffermydd hynny, gan gynnwys ffermydd dofednod, all gynnig y manteision mwyaf i ecosystemau. Byddwn yn cynnig help hefyd i brosiectau cydweithio er mwyn i ffermwyr allu gweithio gyda’i gilydd i gynnal gweithredoedd i leihau allyriadau amonia.

Da byw

O ran diogelu bridiau prin – a fydd y weithred hon yn golygu diogelu anifeiliaid unigol neu fuches / diadell gyfan?

Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud am hyn eto, ond bydd yn debygol o olygu diogelu anifeiliaid unigol.

Sut mae’r amcan o gael ffermwyr i fagu gwartheg yn ifancach a gorffen ŵyn a gwartheg bîff yn ifancach yn cyd-fynd â’u cymell i gadw bridiau traddodiadol sydd fel arfer yn aeddfedu’n arafach?

Does y fath beth ag un system sy’n addas i bawb o ran cadw da byw. Ni fydd yn bosib pesgi anifeiliaid yn gyflym ar bob fferm oherwydd natur y tir a pha mor agored yw’r tir. Mae bridiau brodorol fel arfer yn anifeiliaid caletach sy’n fwy addas ar gyfer ffermydd sydd â chyfran fwy o gynefinoedd lled-naturiol a phori llai dwys.

A yw hi’n iawn cymharu bridiau brodorol â bridiau masnachol fel rhan o’r broses meincnodi wrth gymharu Dangosyddion Perfformiad Allweddol?

Rydym wedi dod â grŵp o arbenigwyr ynghyd i ystyried pa Ddangosyddion y dylem eu cynnwys yn y cynllun a sicrhau bod ffactorau fel bridiau brodorol yn cael eu hystyried.

Beth am gyfraddau aeddfedu gwartheg? Er bod aeddfedu gwartheg yn gynt yn golygu mwy o elw, onid yw’n golygu mwy o allyriadau hefyd?

Dyma un o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol rydym yn eu cynnig ond mae’n bwysig peidio â’i ystyried ar ei ben ei hun.  Rydym am helpu ffermwyr i wneud hyn trwy wella iechyd anifeiliaid, gwneud y defnydd gorau o’r borfa (glaswellt) a chynhyrchu mwy o borthiant ar y fferm – ac mae’n bwysig ystyried allyriadau carbon systemau gwahanol. Bydd yr Asesiad Carbon yn ystyried pob un o’r agweddau hyn.

A yw ffermydd sy’n arbenigo mewn geifr / ceirw yn gymwys am yr SFS?

Os ydych yn bodloni’r holl amodau ac yn cadw’r anifeiliaid ar gyfer cynhyrchu bwyd neu eu hintegreiddio ar fferm sy’n cynhyrchu bwyd neu gynnyrch amaethyddol arall, byddai busnes eich fferm yn gymwys i wneud cais am SFS

A fydd ffermwyr sy’n gofalu am Ferlod y Carneddau yn cael arian yr SFS?

Rydyn ni wrthi’n ystyried a yw Rhestr Bridiau mewn Perygl y DU yn rhestr addas o’r bridiau y dylid eu helpu, ond nid oes penderfyniad pendant wedi’i wneud eto.  Nid yw merlod y Carneddau ar y rhestr honno.

UK breeds at risk list (BAR) - GOV.UK (www.gov.uk)

Coed a choetir

Pam mae’n rhaid i ni blannu mwy o goed?

Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i gynhyrchu bwyd dros y tymor canolig a hir. Rydym wedi derbyn cyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ac yn ymrwymo i blannu 43,000 hectar o goed erbyn 2030 fel rhan o gyfraniad Cymru at y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd.

Nod y targed o 10% sydd wedi'i gynnwys yn y cynigion yw cael pob fferm i dyfu 10%, yn hytrach na newid defnydd tir ar ddarnau mawr o dir mewn ardaloedd penodol.

Nid plannu coed yw'r unig ateb i newid hinsawdd, ond fe all plannu mwy o goed fel rhan o ddull holistig ein helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac i addasu iddynt.

Dros y degawdau nesaf, rydyn ni'n debygol o weld hafau sych a thwym a gaeafau gwlypach. Bydd mwy o goed yn y tirlun yn helpu i arafu llif dŵr, a bydd yn rhoi cysgod i dda byw mewn tywydd twym – gan ddod â manteision uniongyrchol i fusnesau fferm.     

Mae rheoli pridd yn well, i gynyddu’r deunydd organig ynddo, yn ffordd bwysig arall o gloi carbon, a dyna pam rydym hefyd wedi cynnwys camau i reoli pridd. Mae’r cynllun yn cynnwys llawer o gamau eraill gan gynnwys porfeydd amrywiol, defnyddio ynni ac iechyd da byw. Mae pob un yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon. 

Ble ddylwn i blannu coed i gydymffurfio â’r cynllun? Beth yw ‘y goeden iawn yn y lle iawn’?

Mae llawer o ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ble i blannu coed, ac rydyn ni o blaid ‘gweld y goeden iawn yn y lle iawn’. Mae’n bwysig ystyried ble gall coeden fod yn gaffaeliad i'r fferm - er enghraifft lleiniau cysgodi i ddiogelu da byw rhag y tywydd, ac ar ffiniau ffermydd i ddarparu bioddiogelwch.

Oes rhaid bod gen i 10% o orchudd o goed cyn cael ymuno â’r cynllun?

Nac oes. Byddwn yn disgwyl rhoi digon o amser i ffermwyr sy’n ymuno â’r cynllun yn ystod y cyfnod pontio (2025-2029) i blannu’r arwynebedd gofynnol o goed.

Fyddwch chi'n gwneud i ni blannu coed ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf hyblyg?

Bydd yr SFS yn sicrhau bod y coed iawn yn cael eu plannu yn y lle iawn. Ni fydd yr SFS yn diystyru’r polisïau a’r prosesau sy’n bod i ddiogelu’r tir ffermio gorau fel adnodd y mae pen draw iddo.

A fydd fy nghoed presennol yn cyfrannu at fy 10%?

Byddant.  Bydd eich coetir llydanddail a chonwydd presennol yn cyfrannu at y 10%.

Rydym yn rhagweld y bydd coed unigol mewn caeau ac mewn perthi/gwrychoedd yn cyfrif at y 10% hefyd. 

A fydd perthi/gwrychoedd yn cyfrif tuag at y targed o 10% o orchudd coed?

Mae perthi yn rhoi pob math o fanteision i ni a bydd yr SFS yn cyfrannu at eu cynnal. Ond y cynnig ar hyn o bryd yw na fydd perthi’n cyfrannu at y targed o 10% o orchudd coed, ond gallai coed aeddfed unigol mewn perthi gael eu cyfrif. 

Ni fydd coed sydd newydd eu plannu yn gallu ffurfio canopi am sawl blwyddyn.  Sut fyddwch chi'n osgoi ailadrodd yr hen broblem â thaliadau fferm lle mae gorchudd canopi a chysgodion coed wedi cael eu cam-fesur?

Mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi cynlluniau blaenorol. Y bwriad yw cynnal Arolwg Llinell Sylfaen o Gynefinoedd i gyd-fynd â’r Gweithredoedd Sylfaenol. Bydd hwnnw’n edrych ar sefyllfa’r coed.  Bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cynlluniau blaenorol a Lluniau Lloeren o’r Ddaear, i gynhyrchu map fydd yn dangos ble ar eich fferm rydyn ni’n credu y mae’r coed. Byddwn yn rhoi rhagor o arweiniad ac yn gofyn i ffermwyr gadarnhau bod yr wybodaeth am eu coed yn gywir.

A fydd arian ar gael trwy’r cynllun i dalu am gostau plannu?

Rydyn ni’n rhagweld y byddwn ni’n parhau i roi taliadau cyfalaf i gefnogi ffermwyr i blannu coed - fel sy’n digwydd nawr.

I’r ffermwyr hynny sydd am blannu coed cyn ymuno â’r SFS, mae grantiau plannu coetir ar gael – darllenwch am Grantiau Creu Coetir Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion. Bydd coetir fydd wedi’i blannu cyn ymuno â’r SFS yn cyfrif at eich SFS.

Beth os yw fy nghoed sydd newydd eu plannu yn marw oherwydd tân, sychder neu glefyd?  Ar hyn o bryd nid yw’r yswiriant yn talu'r gost am ail-stocio coed nes eu bod yn 7 oed.

Byddwn yn talu’r ffermwr am y camau y bydd wedi’u cymryd a bydd angen gwneud gwaith rheoli hefyd, yn enwedig yn y tymhorau cyntaf. Os bydd y coed yn marw am resymau y tu allan i reolaeth y ffermwr, yna ni chaiff y ffermwr ei gosbi, ond bydd angen cytuno ar gynllun i blannu coed yn eu lle.

O dan y BPS mae boncyffion coed a choetiroedd yn cael eu tynnu o'r arwynebedd talu, felly mae ffermwyr yn derbyn negeseuon cymysg iawn am blannu coed.  

Bydd yr SFS yn talu am goed oherwydd eu manteision niferus i’ch fferm ac i’r amgylchedd ehangach.

Beth os nad ydw i’n cael plannu coed oherwydd cynefin / mawnog / nodwedd hanesyddol, neu am nad yw fy nhenantiaeth yn gadael i fi blannu coed?

Rydym yn ystyried rhestr o eithriadau i ffermwyr nad ydynt yn gallu plannu coed am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi’n anoddach plannu coed mewn rhai mannau a bod yna fannau lle na ddylech blannu coed. Er enghraifft:

  • Cynefinoedd lled-naturiol anaddas, gan gynnwys safleoedd dynodedig
  • Mawn dwfn
  • Nodweddion nad yw’n bosibl plannu coed arnyn nhw e.e. sgri, cnycau creigiog (brigiadau), meini, tywod, pyllau, afonydd a nentydd, adeiladau a buarthau, arwynebau caled a ffyrdd.
  • Tir rhent lle nad oes caniatâd i’r tenant blannu coed

Yn sgil yr ymatebion yn y broses cyd-lunio, rydyn ni’n cynnig tynnu’r arwynebedd nad oes modd plannu coed arno o gyfanswm maint y fferm, a chyfrif arwynebedd y 10% o orchudd coed ar sail y tir sy’n weddill. Er enghraifft, os oes 30ha o fawn, buarthau a ffyrdd ar fferm 100ha, caiff y 30ha ei dynnu o arwynebedd y fferm gyfan, felly bydd angen i 10% o’r 70ha sy’n weddill fod o dan orchudd coed h.y. 7ha.

Ga i blannu coed ar safleoedd dynodedig fel SoDdGAoedd, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu barcdir neu heneb gofrestredig?

Bydd rhaid ystyried y safleoedd hyn bob yn un.

Bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer plannu plociau o goed ond bydd yn dibynnu hefyd ar y nodweddion y cafodd y safle ei ddynodi o’i herwydd. Bydd rhai o’r safleoedd hyn wedi’u dynodi oherwydd eu coetir, felly efallai y bydd peth gwaith plannu’n dderbyniol.

Mae parcdir cofrestredig yn bwysig o ran tirlun a diwylliant – ac mae’n aml yn cynnwys coetir, rhodfeydd o goed a choed sbesimen unigol. Gallai rhywfaint o waith plannu newydd fod yn dderbyniol i ategu’r mannau hyn.

Mae’n annhebygol a fydd Henebion Rhestredig yn addas i blannu coed arnynt, gan fod gwreiddiau’n gallu gwneud difrod i waith maen ac olion archeolegol tanddaearol.

Bydd yr holl nodweddion hyn yn cael eu hystyried yn rhan o arwynebedd y fferm wrth gyfri’r arwynebedd sydd ei angen o dan goed ar eich fferm.

Dwi wedi gwneud cais i blannu coed o dan Glastir ond cefais fy ngwrthod gan fod gen i adar sy’n nythu ar y ddaear. Ydy’r cyfyngiadau hyn ar blannu coed wedi’u codi neu oes hawl gen i beidio â phlannu 10%?

Byddwn yn edrych ar bob achos yn unigol. 

Os bernir bod safle’n bwysig i rywogaeth benodol, gallai fod yn anaddas ar gyfer ei blannu.  Bydd y safleoedd hyn yn cael eu hystyried yn rhan o arwynebedd y fferm wrth gyfri’r arwynebedd sydd ei angen o dan goed ar eich fferm.

Beth os na allaf dyfu coed am fod y tir yn uchel neu am fy mod ar yr arfordir?

Efallai y bydd angen dewis coed gwahanol ar gyfer yr amodau mewn ardaloedd gwahanol, neu bydd angen dewis mwy o fannau plannu cysgodol. Efallai y bydd angen i ni ychwanegu ardaloedd arfordirol a thir uchel at y rhestr o fannau lle na ellir tyfu coed.

Os yw fy fferm yn rhychwantu ffin Cymru / Lloegr a fydd fy 10% yn cael ei gyfrif ar draws fy fferm gyfan?

Dim ond gweithgarwch amaethyddol yng Nghymru fydd yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, felly dim ond y rhan Gymreig sy’n gorfod bod o dan y 10%. 

Os oes gen i hawliau i bori tir comin a ‘mod yn hawlio BPS ar y tir comin, a fydd y 10% yn cael ei gyfrif ar sail yr arwynebedd pori mwy hwn?

Na fydd.  Ni ddisgwylir i hawliau pori ar dir comin gyfrannu at y 10%.

Mae gen i sawl cwm coediog. A ga i eu defnyddio i gyfrannu at yr elfen plannu coed?

Byddai angen ystyried hyn fesul fferm.  Efallai bod y lleiniau coed hynny eisoes yn cynnwys cynefinoedd pwysig (a allai gyfrannu at yr elfen cynefin o 10%) felly byddai angen i ni ystyried a fyddai'r cynefinoedd hynny ar eu hennill neu ar eu colled o blannu coed ynddynt.

A fydd coed ffrwythau yn cael eu cynnwys fel rhan o'r gorchudd coed o 10% ac a fyddan nhw'n cael eu cynnwys mewn unrhyw gynlluniau grant?

Bydd perllannau’n cyfrannu at orchudd coed y fferm.

Mae'n debygol y gellid cynnwys plannu coed ffrwythau ar gyfer grantiau cyfalaf, ond nid ydym wedi penderfynu eto ynglŷn â pha weithgareddau unigol fydd yn gymwys i gael eu hariannu.  

Pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i adar sy’n nythu ar y ddaear wrth blannu coed?

Mae'n bwysig bod y coed iawn yn cael eu plannu yn y lle iawn a bod yr ardal yn addas ar gyfer coed. Bydd rhaid plannu’r holl goed yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sef safon Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy. Mae Map Cyfle Coetir yn nodi sensitifeddau sydd angen eu hystyried wrth blannu coed, gan gynnwys cynefinoedd adar sy'n dibynnu ar dir agored

A yw Amaeth-goedwigaeth yn cynnwys plannu rhesi o goed, h.y. systemau ‘coed a phori’?

Ydy.  Byddwn yn ystyried pob system amaeth-goedwigaeth er mwyn gallu parhau i integreiddio cynhyrchu amaethyddol â gorchudd coed.

Ga i werthu credydau carbon o'r coed rwy’n eu plannu fel rhan o'r Cynllun?

Mae’n ddigon posib y bydd cwmnïau preifat yn cysylltu â ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i ofyn am gael prynu’u credydau carbon er mwyn niwtraleiddio’u hallyriadau tŷ gwydr.

Er y gall gwerthu credydau carbon fod yn ffynhonnell incwm newydd i ffermwyr, mae angen iddynt fod yn ofalus wrth werthu credydau carbon tan eu bod yn gwybod faint o garbon y gall eu tir ei ddal a faint o garbon y maen nhw fel busnes yn ei gynhyrchu.

Gall ffermwyr ddefnyddio ‘carboniadur’ i’w helpu i asesu a oes ganddynt warged o gredydau carbon i’w gwerthu ac os oes, a ellid eu gwerthu heb effeithio ar allu’r fferm i fod yn sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, nawr ac yn y dyfodol.

Pan fydd ffermwr wedi gwerthu’i gredydau carbon, ni chaiff eu cyfrif at ei ymdrechion ei hun i leihau carbon.

Nid ydym wedi penderfynu’n derfynol eto sut y byddwn yn talu’r SFS gan ein bod yn ymchwilio a oes perygl talu ddwywaith os bydd taliadau’r SFS a thaliadau am gredydau carbon yn seiliedig ar feini prawf sy’n gorgyffwrdd. Ni ddylai rwystro ffermwyr rhag ymuno â’r cynllun ond gallai effeithio ar daliadau.

Mater i’r ffermwr fyddai gwerthu credydau carbon ai peidio, ond byddem yn cynghori ffermwyr unigol i gadw eu credydau i gyrraedd carbon sero-net, cyn gwerthu unrhyw gredydau ychwanegol.

Os gallaf ddangos bod fy fferm eisoes yn sero-net, neu’n garbon negyddol, a fydd yn rhaid i mi barhau i ddarparu'r gorchudd o 10% o goed?

Bydd. Drwy ofyn i bob ffermwr reoli'r coetir presennol ac i rai greu coetir newydd drwy'r Cynllun byddwn yn lledaenu'r llwyth ledled Cymru. Dylai hyn helpu i osgoi newidiadau mawr i berchnogaeth  a defnydd tir ar raddfa fawr, gan helpu i gadw ffermwyr ar y tir. Mae manteision eraill hefyd o blannu coed, fel creu cynefin pwysig a chynnig cysgod i dda byw.

Beth os oes mwy na 10% o fy fferm o dan orchudd o goed?

Cawsom wybod yn ystod y broses cyd-lunio y dylem wobrwyo arfer da o ran rheoli coetir. Felly, rydym yn ystyried a ddylai unrhyw goetir dros y 10% gael ei wobrwyo fel rhan o’r Weithred Sylfaenol.

Y targed nawr yw 10% o dan orchudd o goed, ond a fyddwch chi'n gwneud i ni blannu hyd yn oed mwy o goed yn y dyfodol?

Mae gennym dargedau heriol ar gyfer 2050 a bydd angen plannu mwy o goed yn y dyfodol. Nid ydym wedi penderfynu eto beth fydd y targedau hyn yn ei olygu’n union a bydd y gwaith a wneir fel rhan o'r SFS yn llywio beth fyddwn yn ei benderfynu.

Ble mae'r dystiolaeth wyddonol fod hectar o coetir yn dal mwy o garbon ac yn cynnal mwy o amrywiaeth o rywogaethau na thir mwy cynhyrchiol lle mae cnydau’n cael eu cylchdroi a lle ceir deunydd organig uchel ac y defnyddir technegau ffermio adfywiol?

Nid mater o wella deunydd organig pridd NEU gynyddu’r gorchudd o goed yw hi.  Bydd y cynllun yn cefnogi’r ddau.

Rheoli a chreu cynefin

Beth yw cynefin lled-naturiol?

Mae cynefin lled-naturiol yn cyfeirio at y tiroedd hynny nad ydyn nhw wedi cael eu newid yn helaeth ar gyfer amaethyddiaeth. Bydd ystyr ‘lled-naturiol’ yn seiliedig ar y diffiniad ohono yn Rheoliad EIA (Cymru) h.y. unrhyw lain o borfa y mae llai na 25% ohono’n rhygwellt, meillion neu rywogaeth amaethyddol arall. Dyna’r diffiniad o gynefin a ddefnyddiwyd o dan Glastir.  

Mae mawnogydd, rhosydd, gweirgloddiau llawn blodau, gwlypdiroedd ac ardaloedd arfordirol fel morfeydd heli a thwyni tywod i gyd yn cyfrif fel cynefinoedd lled-naturiol.

Sut fedra i ddweud pa rannau o fy fferm sy’n gynefin?

Rydyn ni’n bwriadu cynnal Arolwg Llinell Sylfaen o Gynefinoedd i’w ddefnyddio i gyd-fynd â’r Gweithredoedd Sylfaenol. Bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cynlluniau blaenorol a Lluniau Lloeren o’r Ddaear, i gynhyrchu map fydd yn dangos ble rydyn ni’n credu y mae’r cynefinoedd ar eich fferm. Byddwn yn rhoi rhagor o arweiniad ac yn gofyn i ffermwyr gadarnhau bod yr wybodaeth am eu cynefinoedd yn gywir.

Ydy'r targed o 10% ar gyfer cynefin lled-naturiol yn ychwanegol i'r 10% ar gyfer coed?

Ydy, mae’r ddau ar wahân ond rydym wrthi’n ystyried a allai coed ar gynefin sy’n bod eisoes (e.e. perllan draddodiadol) a choetir llydanddail gyfrannu at y ddwy elfen yr un pryd. 

Beth mae rheolaeth briodol yn ei olygu?

Mae ‘rheolaeth briodol’ o gynefinoedd yn yr haen Sylfaenol yn ymwneud â diogelu’r cynefin a’i gynnal.

Gall hynny olygu nifer o bethau, e.e. peidio â chynnal gweithgareddau niweidiol, lefelau pori cywir, delio â rhywogaethau ymledol, neu dorri rhedyn.

Rydyn ni'n gwybod y bydd adnabod cynefin a’i reoli’n gywir i’w wella fel rhan o’r haen Opsiynol yn her i rai ffermwyr. Byddwn ni'n sicrhau bod cymorth ar gael i ffermwyr sydd am fwy o gyngor ac arweiniad ar gynefinoedd.  

Onid yw hynny’n golygu mod i wedi colli 10% o ‘nhir amaethyddol?

Na fydd. Mae cynefinoedd agored yn bod am eu bod yn cael eu pori gan dda byw a byddwch yn dal i bori da byw arnyn nhw er mwyn eu diogelu a’u cynnal. Felly, byddan nhw’n dal i gynhyrchu bwyd.

Ond efallai y bydd angen i chi newid sut rydych yn eu rheoli, er enghraifft os yw’r cynefin yn cael ei orbori neu ei danbori. Cewch gyngor ar lefelau pori gan yr SFS.

Nid oeddwn yn gymwys am gynlluniau blaenorol gan nad oedd gen i unrhyw gynefinoedd lled-naturiol.  A ga i ymuno â'r SFS?

Cewch.  Gellir creu cynefinoedd newydd gwerthfawr ar unrhyw fferm.  Os nad oes digon o gynefin lled-naturiol ar ddaliad, gellir creu cynefinoedd dros dro fel ymylon segur neu borfa arw o amgylch caeau âr neu orchudd bywyd gwyllt neu wyndwn llawn rhywogaethau ar dir arall wedi’i wella. Gellir creu gwlypdir newydd, neu gallwch adael i dir pori droi’n ddol flodeuog o’i reoli’n gywir. Gall cynefinoedd newydd fel y rhain fod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr os ydynt yn cysylltu cynefinoedd â’i gilydd er mwyn i fywyd gwyllt allu symud o amgylch y dirwedd.  

A fydd perthi/gwrychoedd yn cael cyfrif tuag at fy nharged o 10% o gynefin lled-naturiol?

Fe allan nhw, ond bydd angen iddyn nhw fod mewn ‘cyflwr da’ e.e. eu bod yn dal stoc ac yn ddi-fwlch, o’r dimensiynau iawn ac ati. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn y dyfodol i’ch helpu i benderfynu beth sy’n cyfrif a beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn ichi allu cynnwys perth. 

A fydda i'n cael gwerthu coetir a chynefinoedd i’m cymydog?

Mae ffermwyr yn rhydd i werthu neu rentu tir i ffermwr arall, ond nid yw’n ganlyniad da o safbwynt yr SFS. Rydym am weld pob ffermwr yn cofleidio ei gynefinoedd lled-naturiol ac yn cydnabod gwerth eu cadw fel rhan annatod o’u fferm.

Beth os oes mwy na 10% o fy fferm yn gynefin?

Cawsom wybod yn ystod y broses cyd-lunio y dylem wobrwyo arfer da o ran rheoli cynefinoedd. Felly, rydym yn ystyried a ddylai unrhyw gynefin dros y 10% gael ei wobrwyo fel rhan o’r Weithred Sylfaenol.

Ceir Gweithred Sylfaenol sy’n gofyn am gytundeb â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynllun i reoli tir sy’n gorgyffwrdd â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ydy fy nghynllun presennol yn ddigon da neu a oes angen cytuno ar gynllun newydd?

Mae cynllun rydych wedi cytuno arno yn ddigon i fodloni’r Weithred Sylfaenol honno ar gyfer safleoedd dynodedig.

A fyddai modd gwobrwyo porfeydd parhaol nad oes angen eu haredig na’u hail-hau am eu bod yn gyfoethog eu rhywogaethau? Neu eu gwobrwyo am adael iddynt hadu a blodeuo, sef y rheswm pam mae grant yn cael ei dalu ar ddolydd blodeuog?

Mae’n ddigon posibl y bydd cae bioamrywiol yn gymwys am y weithred hyd yn oed heb ragor o waith rheoli.

Pyllau dŵr

Pam mae angen creu mwy o byllau dŵr?

Rydyn ni wedi colli lawer iawn o byllau dŵr yn ein tirlun.  Yn ogystal â’u manteision i fywyd gwyllt, bydd rhagor o byllau dŵr yn dal mwy o ddŵr yn ystod tywydd gwlyb ac yn lleihau’r perygl o lifogydd ymhellach i lawr y dyffryn neu’r cwm.

Cynnal a gwella'r amgylchedd, treftadaeth a harddwch hanesyddol

Pa nodweddion sy’n cael eu cynnwys yn y diffiniad o heneb hanesyddol?

Y prif nodweddion yw’r Henebion Rhestredig sydd wedi’u cofrestru gan CADW, sy’n cynnwys safleoedd fel nodweddion Rhufeinig, amser rhyfel a diwydiannol. Gellir cynnwys hefyd Barcdir cofrestredig, adeiladau rhestredig a nodweddion eraill sydd heb eu dynodi.

Byddwn yn trafod â CADW a’r Ymddiriedolaethau Archeolegol rhanbarthol. Os bydd ffermwr yn nodi nodwedd nad yw wedi’i chofnodi, gellir ystyried ei hychwanegu at y cofnodion ffurfiol.

Meddu ar y sgiliau i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol

A yw’r gweithredoedd dysgu yn hyblyg, neu a oes cwrs safonol?

Ein bwriad yw cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosib, cyn belled â bod pawb yn bodloni’r Weithred Datblygu Proffesiynol Parhaus.  Bydd hynny’n sicrhau bod yna lwybr cyson i bawb ei ddilyn ond bod ffermwyr yn rhydd i ddewis y cyrsiau sydd fwyaf addas iddyn nhw.

Ffermwyr tenant

A fyddwch chi’n gallu bod yn hyblyg â’r ffermwyr tenant fydd ddim yn cael cymryd y camau a restrir yn yr SFS, fel plannu coed?

Byddwn. Rydym wedi creu Gweithgor Tenantiaethau yn benodol i ystyried a yw cynigion yr SFS yn addas ar gyfer tenantiaid.  Mae trafodaethau’r Gweithgor a’r ymatebion yn y broses cyd-lunio yn ein helpu i ailystyried y Gweithredoedd Sylfaenol i wneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd.

Ni fydd contractau pum mlynedd yn gweithio gyda fy nhenantiaeth, a fyddwch chi’n gallu bod yn hyblyg?

Yn sgil yr ymatebion yn yr ymarferion cyd-lunio a’r Gweithgor Tenantiaethau, rydym yn ystyried cynnig contractau llai na phum mlynedd o hyd ar gyfer tenantiaid sydd heb denantiaethau tymor hir.

Mecaneithiau cymorth

A fydd Cyswllt Ffermio'n gallu helpu’r cynllun hwn?

Bydd Cyswllt Ffermio yn cael ei ehangu er mwyn gallu ymdrin â’r un pynciau ag sydd yn y cynllun. Ein bwriad yw bod ffermwyr sy'n teimlo eu bod yn gallu cymryd camau’r cynllun heb help yn cael gwneud hynny, ond bod Cyswllt Ffermio yno i helpu’r rheini y bydd angen help arnyn nhw ar rai agweddau.

Os bydd ffermwr am ofyn i gynghorydd annibynnol am gyngor ar ei gost ei hun, mater iddo fe fydd hynny. 

A all Cyswllt Ffermio ddarparu popeth sydd yn yr SFS? Pam nad oes unrhyw ddarparwr arall yn cael ei ystyried?

Gwasanaeth yw FfC yn hytrach na darparwr. Bydd contract newydd yn cael ei gaffael i ddarparu gofynion y cynllun, felly gall gwahanol ddarparwyr gystadlu.

A fydd ffermwyr yn gorfod defnyddio Cyswllt Ffermio hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo'n digon hyderus i fynd yn eu blaenau ar eu pen eu hunain?

Na.  Rydym yn deall na fydd angen fawr ddim help ar rai ffermwyr, os o gwbl, a byddan nhw’n gallu cymryd y camau ar eu pen eu hunain, ond bydd cymorth ar gael i’r rhai sydd ei angen.

Ydych chi wedi meddwl a oes gan y labordai ddigon o gapasiti i gynnal y profion pridd, neu a fydd digon o filfeddygon i gynnal yr elfennau ar iechyd anifeiliaid?

Ydym. Bydd capasiti'n broblem, ac rydym yn gweithio gyda'r holl bartneriaid perthnasol i benderfynu ar y ffyrdd mwyaf effeithlon o gymryd y camau hyn.

Oes digon o asiantwyr i helpu holl ffermwyr Cymru sy’n trosglwyddo i'r cynllun newydd?

Rydym yn cydnabod y gallai fod prinder. Ein bwriad yw i fwyafrif y ffermwyr ymuno â haen Sylfaenol y cynllun heb orfod troi at asiant am help.

A fydd modd trefnu bod RPW ar-lein yn cael ei gyflwyno yr un pryd â data eraill - EID Cymru, BCMS, FAWL, carboniaduron, data contractau archfarchnadoedd ac ati? Mae hwn yn gyfle mawr i gasglu data’n fwy effeithiol.

Rydyn ni'n cytuno. Rydyn yn edrych ar gyfleoedd i wneud y broses casglu a rhannu data mor syml a diogel â phosib er mwyn lleihau biwrocratiaeth. Mae'n rhaid i ni ddylunio system sy'n ddefnyddiol i'r llywodraeth a busnes y fferm. 

Rheoliadau

Os yw ffermwr yn torri un rheoliad neu ran o'r cynllun, ond yn cydymffurfio â phopeth arall, a fydd yn dal i gael taliad, neu a gaiff ei holl daliadau eu cosbi?

Bydd angen i ni bob amser sicrhau bod gennym brosesau cadarn yn eu lle i ddiogelu arian cyhoeddus, ond rydym am ddatblygu system gosbi sy'n gymesur. Am beidio â chymryd camau'r cynllun, byddwn fel arfer yn rhoi cyngor ac arweiniad i ffermwyr ar sut i gywiro mân broblemau ac yn rhoi amser iddyn nhw gywiro unrhyw gamgymeriadau yn dilyn archwiliad.

Bydd cadw at y fframwaith deddfwriaethol yn rhan o Reolau'r Cynllun. Bydd peidio â chadw ato’n cael ei ystyried yn dramgwydd a bydd gennym yr hawl i roi cosb gymesur am hynny.

A ddylai ffermwyr ganolbwyntio ar dalu costau'r SFS, neu ar dalu costau'r rheoliadau Adnoddau Dŵr newydd?

Bydd taliadau refeniw a chyfalaf yn cael eu talu trwy’r SFS. Bydd hyn yn rhoi incwm teg a sefydlog i ffermwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, Ni ddylech felly ei ystyried fel dewis i ateb gofynion y cynllun neu’r rheoliadau.

Mae sawl gweithred yn yr SFS sy'n cwmpasu meincnodi, rheoli pridd a bioddiogelwch a fydd yn arwain at helpu i wella cynhyrchiant ffermwyr, torri costau a gwella cynaliadwyedd busnes y fferm yn unol â gofynion y rheoliadau Adnoddau Dŵr newydd. 

Pam nad yw’r Gweithredoedd Sylfaenol yn cynnwys rheoli Llwybrau Tramwy Cyhoeddus?   

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn dod o dan reoliadau sy’n bod eisoes.  Wnaiff y Cynllun ddim talu ffermwyr i gadw at reoliadau, dim ond am weithgareddau sy’n ychwanegol at unrhyw reoliadau sy’n bod eisoes.  Rydyn ni wedi cynnig Gweithredoedd Opsiynol i wella mynediad y cyhoedd i dir ffermio.

Gweinyddu'r cynllun

Pa mor hir fydd cytundebau’r SFS yn para, o gofio y bydd angen planiau a chynlluniau rheoli hyd at 50 mlynedd o hyd ar rai gweithredoedd fel rheoli coetir?

Gwnaethon ni gynnig bod cytundebau SFS yn para pum mlynedd, a’u bod yn cael eu hadolygu a'u hadnewyddu ar raglen dreigl pum mlynedd er mwyn ystyried amcanion rheoli tir tymor hwy, newidiadau i’r busnes, a newidiadau allanol eraill y gallai fod angen i ffermydd ymateb iddyn nhw.

O ganlyniad i’r cyd-lunio, rydym yn ystyried byrhau cytundebau i lai na phum mlynedd ar gyfer er enghraifft ffermwyr tenant sydd â thenantiaethau tymor byr.

A fydd proses panel apelio annibynnol ar gyfer contractau, taliadau, cosbau ac ati?

Bydd proses apelio yn ei lle yn barod ar ddechrau'r cynllun, ond nid ydym wedi penderfynu eto sut y bydd yn gweithio.   

Pa becynnau cyfrif carbon fydd Llywodraeth Cymru’n eu defnyddio? Mae ffermwyr yn defnyddio nifer o rai gwahanol.

Nid ydym wedi dewis y pecyn carbon eto.  Rydyn ni’n datblygu set syml o ofynion ar gyfer pennu llinell sylfaen garbon ac yn edrych ar y pecynnau sydd eisoes yn cael eu defnyddio

A yw allyriadau carbon gwahanol yn cael eu cyfrif ar wahân fel rhan o’r arolwg carbon h.y. a ddylid cyfrif methan mwy tymor byr o anifeiliaid cnoi cil ar wahân.

Ein bwriad yw defnyddio dull asesu carbon sy’n mesur dau beth h.y. GWP₁₀₀ and GWP*.  Wrth i’r dystiolaeth wyddonol bara i dyfu, byddwn am gofnodi allyriadau yn unol â’r dystiolaeth a’r arfer gorau rhyngwladol.

Taliadau a chyllidebau

Pam nad yw’r cyfraddau talu wedi’u cyhoeddi eto?

Nid ydym wedi penderfynu’n derfynol ar bob gweithred eto, felly nid yw'n bosib cynnig model talu. Rydym nawr yn gallu defnyddio ymatebion y broses cyd-lunio i gynnwys cynigion llawer manylach. Bydd rhagor o fanylion am y cynigion ar gyfer talu ar gael yn yr ymgynghoriad ar y cynllun terfynol tuag at ddiwedd 2023. Ni chaiff penderfyniad ynghylch cyfraddau talu’r cynllun ei wneud tan ar ôl cynnal yr ymgynghoriad.

A fydd cyfraddau talu'n cael eu capio i’r incwm a gollwyd a’r costau a wariwyd?

Bydd y taliadau'n cymell ac yn gwobrwyo'r ffermwr am y camau y mae’n eu cymryd i sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd cadarnhaol. Bydd cyfraddau talu yn ystyried ffactorau eraill heblaw am y gost a wariwyd ac incwm a gollwyd, i gydnabod gwerth cymdeithasol y canlyniadau a sicrheir.  Caiff manylion  dull cyfri’r cyfraddau talu eu cyhoeddi yn yr ymgynghoriad.

A fydd Gwaith Cyfalaf yn rhan o’r SFS?

Bydd, ond nid ydym wedi penderfynu eto pa waith cyfalaf.

Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru yn cadw at rai o safonau cynhyrchu llymaf y byd, ac mae hynny’n golygu costau. Sut bydd LlC yn sicrhau bod y ffermwr yn cael digon o elw ar ei fuddsoddiad am ei gynhyrchion?

Byddwn ni'n rhannu data gyda ffermwyr mewn ffordd fydd yn caniatáu iddyn nhw brofi pa mor gynaliadwy ydyn nhw ac i hyrwyddo'r Brand Cymreig yn fwy effeithiol. Rydym yn gefnogol i ddefnyddio data fel hyn i helpu ffermwyr i sicrhau prisiau premiwm ar gyfer cynnyrch cynaliadwy Cymreig.

A fydd grantiau Gwaith Cyfalaf yn y dyfodol mor fiwrocrataidd â'r cynlluniau presennol?

Yn ôl yr ymatebion yn y sesiynau cyd-lunio, mae’r cyfnodau ymgeisio’n rhy wasgaredig ac yn rhy gaeth o ran yr eitemau sy’n gymwys am grant, gan gynnwys yr amod mai dim ond offer newydd sbon sy’n gymwys.

Nid ydym eto wedi penderfynu ar y prosesau ariannol y byddwn yn eu defnyddio yn y cynllun. Bydd angen i ni werthuso sut mae'r cynlluniau presennol a blaenorol wedi gweithredu a chynhyrchu cynllun sydd mor effeithlon a syml â phosibl, ond bydd wastad angen i ni sicrhau bod gennym brosesau cadarn i ddiogelu arian cyhoeddus. 

Pa mor sicr y gall Llywodraeth Cymru fod ynghylch y gyllideb hir dymor, ac a ydych chi'n hyderus bod modd cyflawni'r holl amcanion a chynnal yr holl weithredoedd ar y raddfa sydd eu hangen?

Ar hyn o bryd nid ydym wedi cael ymrwymiadau cyllidebol hir dymor gan Lywodraeth y DU. 

Mae cyfle i'r sector wneud cyfraniad sylweddol at yr argyfyngau hinsawdd a natur trwy gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Mae cyllidebau'n gystadleuol, felly mae'n bwysig ein bod yn cysylltu elfennau’r cynllun â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a’r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod gennym y dystiolaeth i ddangos y budd i bobl Cymru er mwyn gallu cyfiawnhau arian yn y dyfodol.

A fydd y cyfraddau talu blynyddol yn newid wrth i gostau godi?

Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ond bydd angen adolygu’r taliadau’n rheolaidd fel rhan o’r gwerthusiad o’r cynllun er mwyn ystyried yr effeithiau.

Pwy sy'n gymwys

A fydd Llywodraeth Cymru yn ailddiffinio 'Ffermwr Actif' o ran pwy sy’n gymwys i ymuno â’r cynllun newydd?

Rydym wedi cynnig nifer o feini prawf y bydd gofyn i unigolyn eu bodloni er mwyn ymuno â'r cynllun a chael taliadau. Y meini prawf hyn yw;

  • rhaid bod yn ffermwr sy'n cynnal gweithgareddau amaethyddol
  • rhaid cynnal o leiaf y Gweithredoedd Sylfaenol drwy gydol cyfnod y contract
  • rhaid i'r tir amaethyddol fod yng Nghymru
  • rhaid ffermio o leiaf 3 hectar o dir amaethyddol cymwys.

Efallai y bydd angen ystyried meini prawf gwahanol ar gyfer prosiectau cydweithredol, lle efallai y bydd pobl heblaw am ffermwyr yn cymryd rhan. 

Sut bydd y gofyn i fod yn ffermwr actif yn cael ei orfodi? Mae taliadau'n aml yn mynd i berchenogion tir absennol fel sefydliadau ariannol, y tu allan i Gymru sy'n prynu tir ffermio yng Nghymru ar gyfer plannu coed.  Rhaid atal hyn.

Rydym wedi cynnig set o feini prawf y bydd angen i ffermwyr ddatgan o dro i dro eu bod yn eu bodloni.  Os na all unigolyn neu fusnes fodloni'r meini prawf hyn, ni fydd yn gallu cael taliadau'r cynllun.  

Beth am bobl nad ydynt yn ffermwyr e.e., perchnogion coetir bach, tyddynwyr, sy’n rheoli tir yn gynaliadwy?

Mae sawl math arall o gymorth ar gael drwy ein partneriaid gwledig ond cynllun i ffermwyr a'r rhai sy'n cynnal gweithgareddau amaethyddol yw hwn.

Prosiectau cydweithredol

A fydd y cynllun yn rhyngweithio â'r Strategaeth Bwyd Cymunedol arfaethedig a'r ymrwymiad i gynyddu faint o fwyd lleol sy'n ymuno â’r cadwyni cyflenwi ar gyfer ysgolion i helpu gyda'r ymrwymiad ynghylch Prydau Ysgol Di-dâl i Bawb?

Rydym yn annog y math hwn o gydweithio gyda chadwyni cyflenwi lleol ac ehangach.

Mae'r cynllun yn cynnwys camau i hyrwyddo cynhyrchu mwy o amrywiaeth o fwyd all gyfrannu at y farchnad honno, er enghraifft drwy gynhyrchu mwy o gynnyrch garddwriaethol ac ychwanegu gwerth trwy brosesu cynhyrchion da byw.  

A fydd cyfleoedd i ffermwyr sydd eisiau cydweithio ond nad ydyn nhw am ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy?

Byddwn yn annog pob ffermwr cymwys i ymuno â’r SFS. Bydd cydweithio â ffermwyr nad ydynt yn aelodau o’r SFS yn dibynnu ar natur y prosiect cydweithio a’r rolau o fewn y grŵp. 

Sut gall cynigion y SFS gyfrannu at leihau'r risg o lifogydd?

Bydd nifer o'r gweithredoedd yn helpu i ddal mwy o ddŵr yn y tirlun i leihau'r risg o lifogydd.  Bydd adfer mawnogydd a chynefinoedd eraill, plannu coed, creu pyllau dŵr a rheoli pridd yn well ar dir fferm cynhyrchiol i gyd yn helpu i ddal dŵr ac arafu'r llif. 

Fel rhan o’r haen gydweithredol, bydd cyfle i grwpiau o ffermwyr gydweithio mewn ardaloedd lle ceir risg uwch o lifogydd i roi prosiectau rheoli llifogydd naturiol ar waith ar draws dalgylchoedd a thirluniau.  

A fydd y cynllun newydd hwn yn gallu helpu prosiectau cydweithredol lle mae ffermwyr yn gweithio gyda sefydliadau fel gwasanaethau cyhoeddus e.e. rheoli’r risg o danau gwyllt o dan arweiniad gwasanaethau tân lleol?

Bydd, byddem am gefnogi mentrau o’r fath. Rydym am weithio gyda ffermwyr ar ystod o weithgareddau sy'n gofyn am weithredu sydd wedi’i gydlynu ar draws ardaloedd mwy na ffermydd unigol, ac rydym yn cydnabod y gall gweithio mewn partneriaeth neu mewn sawl sector ddod â budd ychwanegol.

A fydd prosiectau cydweithredol yn cael eu harwain gan ffermwr, a sut byddan nhw’n cael eu talu? Oes cyfle i brosiectau cydweithredol gael eu harwain gan 3ydd parti e.e. gwasanaethau cyhoeddus - gwasanaeth tân/byrddau iechyd ac ati?

Rydym am i ffermwyr fod ar flaen y gad o ran cynllunio a gwneud penderfyniadau mewn prosiectau cydweithredol, ond rydym yn cydnabod efallai y bydd angen partneriaid ychwanegol i hwyluso a chefnogi grwpiau ffermwr.