Y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol
Cyfeirnod y cymhorthdal SC11036 - annog darparu llety tymor hwy i'r rhai sydd mewn llety dros dro a llety cychwynnol ar gyfer adsefydlu.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.
1. Rhanbarth
Mae hwn yn gynllun Cymru Gyfan y mae pob awdurdod lleol a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn gymwys i wneud cais iddo.
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP)
3. Sail gyfreithiol y DU
Adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Rhan II o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Rhan VI o Ddeddf Tai 1996.
4. Amcanion y cynllun
Sefydlwyd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) mewn ymateb dyngarol i sefyllfa Wcráin a'r pwysau cynyddol ar lety dros dro lle mae nifer y bobl ddigartref yn cynyddu oherwydd yr argyfwng costau byw sy'n gwaethygu, yn ogystal â chynlluniau adsefydlu ehangach.
Mae TACP yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflwyno llety tymor hwy o ansawdd da yn gyflym i gefnogi pawb sydd ag anghenion o ran tai (y rhai mewn llety dros dro a llety cychwynnol ar gyfer adsefydlu).
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Pob awdurdod lleol a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.
7. Sector(au) a gefnogir
- Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd
- Gweithgareddau eiddo tirol
8. Hyd y cynllun
Hyd y cynllun yw 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024.
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
Hyd at £120m drwy raglen TACP 2023-2024 ar ffurf nifer o ddyfarniadau grant unigol ar gyfer awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
10. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy arian grant.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am yr arian grant hwn at ddibenion datblygu neu brynu tai fforddiadwy yn gyflym er mwyn cefnogi'r broses o symud ymlaen o lety dros dro. Mae'r cynllun cymhorthdal hwn wedi'i anelu at gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy yng Nghymru yn unig.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae'r cynllun cymhorthdal yn cefnogi'r gwahanol fathau canlynol o brosiectau i helpu i leihau pwysau ar y cyflenwad tai:
- Ailddefnyddio mannau gwag (eiddo gwag sy'n eiddo i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig).
- Caffael anheddau sy’n bodoli eisoes (cartrefi) er mwyn iddynt fod yn y sector tai cymdeithasol, gan gynnwys prynu eiddo â thenantiaid lle bydd hyn yn atal digartrefedd.
- Caffael eiddo newydd (er enghraifft yn syth oddi wrth ddatblygwr) i sicrhau mwy o gartrefi i'r sector tai cymdeithasol.
- Caffael tai mwy (anheddau sy’n bodoli eisoes neu adeiladau newydd) yn benodol i ddiwallu anghenion aelwydydd mawr sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd, gan gynnwys teuluoedd sy'n cael eu cefnogi drwy gynlluniau adsefydlu.
- Caffael a/neu ddatblygu eiddo arall (e.e. swyddfeydd, gwestai, cartrefi gofal, llety myfyrwyr) i ddarparu llety mwy hirdymor.
- Dymchwel ac ailadeiladu eiddo i ddarparu cartrefi sy'n diwallu anghenion tai lleol i leihau'r niferoedd mewn llety dros dro ac atal digartrefedd.
- Defnyddio llety modiwlar ar dir sy'n cael ei ddefnyddio yn y cyfamser (h.y. wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol).
- Prynu Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) i'w troi yn llety teuluol neu fflatiau hunangynhwysol ar adeg eu prynu neu brynu Tai Amlfeddiannaeth at ddefnydd tai a rennir na ellir eu haddasu (naill ai ar adeg eu prynu neu yn y dyfodol).
- Llety â chymorth dros dro i ddarparu llety dros dro o ansawdd gwell a helpu i leihau pwysau ar y cyflenwad tai.
Rhaid i bob prosiect sy'n gwneud cais am gyllid gyrraedd safonau gofynnol TACP ar gyfer dylunio a diogelwch.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo ei lefelau Grant Tai Cymdeithasol gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol (“SVM”). Mae'r SVM yn fodel presennol net sy'n dangos y bwlch ariannu rhwng cost prynu/datblygu cychwynnol a chostau cynnal a chadw parhaus a'r enillion o renti isel ar gyfer tai cymdeithasol.
13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Uchafswm unrhyw gymhorthdal unigol fesul prosiect a restrir yn adran 12 uchod yw £9,999,999.
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.