Her morlyn llanw
Cyfeirnod y cymhorthdal SC.10890 - cynllun i fesur manteision datblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru a mynd i'r afael â'r rhwystrau i gynnydd.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru Gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Her Morlyn Llanw
3. Sail gyfreithiol y DU
Mae pwerau Gweinidogion Cymru sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y cynllun wedi'u cynnwys yn:
- Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A a 60(1)(c))
Bydd y cynllun a'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y cynllun yn cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymhorthdal y DU.
4. Amcanion y Cynllun
Amcanion polisi'r cynllun yw:
- deall a mynd i'r afael â rhwystrau sydd wedi atal datblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru hyd yma, a
- mesur y manteision posibl y gellir eu gwireddu drwy ddatblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru.
Mae hyn yn unol ag ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i "Ddatblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw newydd".
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Sefydliad prifysgol neu sefydliad addysg uwch tebyg, sefydliad ymchwil y llywodraeth, neu sefydliad ymchwil a thechnoleg nid-er-elw (RTO).
7. Sector(au) a gefnogir
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol.
8. Hyd y cynllun
Dechrau: Ebrill 2024
Diwedd: Ebrill 2028
Hyd: 4 blynedd
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
£750,000
10. Math o gefnogaeth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Rhaid i fentrau fod yn sefydliad prifysgol neu sefydliad addysg uwch tebyg (SAU), sefydliad ymchwil y llywodraeth, neu sefydliad ymchwil a thechnoleg nid-er-elw (RTO). Caniateir cynigion consortiwm neu bartneriaeth, gan gynnwys consortia sy'n cynnwys sefydliadau o fathau eraill.
Mae'n rhaid i fentrau fod yn cynnal ymchwil newydd i ddeall y rhwystrau i ddatblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru, a'u meintioli.
Rhaid i fentrau fod yn barod i drwyddedu'r ymchwil fel ei fod ar gael i’r cyhoedd.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bydd cymorthdaliadau yn 100% o'r gost economaidd lawn (fEC) a gyfrifir yn unol â methodoleg TRAC (Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio) (Prifysgolion a chyrff Addysg Uwch eraill) neu fethodoleg gyfatebol ar gyfer Sefydliadau Ymchwil eraill.
13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£250,000
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: subsidycontrolunit@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.