Clybiau ceir trydan cymunedol
Cyfeirnod y cymhorthdal SC11003 - annog pobl i newid o fod yn berchen ar geir preifat (i leihau cyfanswm y milltiroedd sy'n cael eu teithio ar y ffyrdd) ac annog Sero Net Cymru i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
1. Rhanbarth
Cymru Gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Clybiau Ceir Trydan Cymunedol
3. Sail gyfreithiol y DU
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
4. Amcanion y cynllun
Amcanion Llwybr Newydd yw annog pobl i newid o fod yn berchen ar geir preifat (i leihau cyfanswm y milltiroedd sy'n cael eu teithio ar y ffyrdd) ac annog Sero Net Cymru i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.
5. Yr awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Bwriedir y cymhorthdal ar gyfer sefydliadau cymunedol yn y trydydd sector sy'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i safon briodol mewn ardal y nodwyd ei bod yn bodloni'r meini prawf o ran angen.
7. Sector(au) a gefnogir
Trafnidiaeth a storio
8. Hyd y cynllun
Dyddiad dechrau 11/12/2023
Dyddiad dod i ben 31/12/2029
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
£5 miliwn
10. Math o gefnogaeth
Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun ar ffurf grantiau/benthyciadau.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae’n rhaid i'r cyflenwr fedru darparu popeth sydd ei angen er mwyn helpu cymunedau i sefydlu a rhedeg Clwb Ceir Trydan llwyddiannus (h.y. cerbydau, technoleg, marchnata).
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bydd gwerth y cymhorthdal yn cael ei gyfrifo a'i asesu ar sail nifer y Clybiau Ceir Trydan Cymunedol y disgwylir iddynt gael eu hysgogi (ar unwaith ac yn y tymor hwy) ac ar sail aelodaeth y clybiau hynny. Dylai arwain yn y pen draw at lai o berchenogaeth ar geir preifat ac felly at leihau nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio mewn ceir preifat.
13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£5 miliwn
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: subsidycontrolunit@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.