Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i gefnogi a chynghori’r cyfryngau a’r diwydiannau darlledu a chyhoeddi.
Darlledu
Er nad yw wedi'i ddatganoli, rydyn ni’n rhoi llawer o sylw i faterion darlledu sy'n effeithio ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymgyngoriadau perthnasol.
Rydyn ni'n gweithio gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys BBC Cymru Wales ac S4C, a chydag Ofcom. Nid oes gennym unrhyw reolaeth reoleiddiol dros yr hyn sy'n cael ei ddarlledu gan ddarlledwyr.
Rydyn ni'n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch penodiadau anweithredol i fyrddau fel S4C a BBC Wales.
Ofcom
Ofcom yw'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer diwydiannau cyfathrebu'r DU. Mae hyn yn cynnwys y teledu a radio, tonnau awyr di-wifr, gweithredwyr ffonau symudol a'r post.
Rydyn ni'n gyfrifol am benodi'r aelod o Fwrdd Ofcom ar gyfer Cymru. Mae tîm Ofcom Cymru yn cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel y DU.
Mae Pwyllgor Cynghori Ofcom ar gyfer Cymru yn rhoi cyngor i Ofcom ar faterion sy'n effeithio ar Gymru.
Rydyn ni'n ymateb i ymgyngoriadau, sydd hefyd ar gael ar wefan Ofcom.
Cyhoeddi
Rydym yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy ariannu Cyngor Llyfrau Cymru. Mae ganddo swyddogaethau elusennol a masnachol hefyd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn derbyn cyllid drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gwnaethon ni adolygu ein cymorth ar gyfer cyhoeddi llyfrau yn 2014.
Gwnaethon ni gomisiynu adolygiad annibynnol o'r cymorth rydyn ni'n ei roi i gyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru yn 2015.