Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyfrifoldeb am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn sicrhau rôl fwy ffurfiol i Senedd Cymru, cytunwyd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau yn 2006.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau

Yn dilyn y teimladau cryf a fynegwyd yng Nghymru ar y mater o gofnodi hunaniaeth Gymreig yng Nghyfrifiad Poblogaeth 2001, cytunwyd y dylai bod gan y Senedd swyddogaeth fwy ffurfiol o ran cytuno ar ffurflenni'r cyfrifiad yng Nghymru yn y dyfodol. Er mwyn gweithredu ar y cytundeb hwnnw, mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2006 yn cynnwys darpariaethau sy'n rhoi i'r Senedd:

  • hawl gyfreithiol i fod yn ymgynghorai ar y broses o lunio Gorchymyn y Cyfrifiad
  • y pŵer i wneud rheoliadau ar gyfer gweinyddu'r Cyfrifiad yng Nghymru.

Cafodd y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 14 Rhagfyr 2006 a daeth i rym ar 15 Rhagfyr 2006 (ar ôl bod drwy'r camau gofynnol yn y Cyfarfod Llawn ac yn y ddau Senedd-dy).

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru ym mis Mai 2007.

Papur Gwyn

Cafodd y Papur Gwyn ar Gyfrifiad 2021, Helpu i Lunio ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021, ei osod ger bron y Senedd ar 14 Rhagfyr 2018 gan Brif Weinidog Cymru. Mae’r Papur yn datgan cynlluniau’r Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae'r Papur Gwyn yn gosod nodau strategol ar gyfer y cyfrifiad, yn egluro pam fod ei angen, yn nodi'r cynnwys a sut y bydd yn cael ei gynnal ac mae'n ymdrin â materion budd y cyhoedd fel diogelwch data a chyfrinachedd. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn nodi cynigion Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer dyfodol ystadegau poblogaeth ar ôl 2021.

Cynigir y dylid cynnal y cyfrifiad nesaf o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd y DU.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu argymhellion Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig ar gyfer cynnwys Cyfrifiad 2021 a’r modd y caiff ei gynnal. Ar sail gwaith ymgysylltu a wnaed â defnyddwyr maent yn argymell defnyddio’r un cynnwys â Chyfrifiad 2011 gyda’r eithriadau canlynol:

Cwestiynau newydd ynghylch y canlynol:

  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth o ran rhywedd
  • gwasanaeth blaenorol gyda’r Lluoedd Arfog

Hepgor cwestiynau ynghylch y canlynol:

  • y flwyddyn olaf y bu’r sawl oedd yn ateb yn gweithio
  • nifer yr ystafelloedd yn y cartref, ar y sail bod ffynonellau gwahanol i’r ddau

‘Blwch ticio’ ychwanegol ar gyfer Roma yn y cwestiwn ar ethnigrwydd

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig hefyd yn argymell defnyddio cyfrifiad ar-lein yn bennaf gan gynnig amryw o wahanol fathau o gymorth i’r cyhoedd. Er hynny, maent hefyd yn cydnabod na fydd pawb yn gallu llenwi’r Cyfrifiad ar-lein na chwaith yn dewis gwneud hynny felly maent wedi nodi eu bwriad y bydd ffurflenni papur ar gael yn hawdd hefyd.

Cynhaliodd Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ymarfer ar gyfer y cyfrifiad mewn ardaloedd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2019, gan gynnwys yng Ngheredigion.

Deddf y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

Cafodd Deddf y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 1 Mai 2019.

Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Cyfrifiad 1920 a Deddf y Cyfrifiad (Gogledd Iwerddon) 1969 i ddileu'r gosb am beidio ag ymateb i gwestiynau newydd y cyfrifiad ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.

Mae hyn yn golygu y gall Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, a Gogledd Iwerddon, gynnwys cwestiynau ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, y gellir eu hateb yn wirfoddol.

Mae'r Ddeddf hon yn cyflawni'r cynigion a nodwyd ym Mhapur Gwyn Rhagfyr 2018, Helpu Siapio ein Dyfodol: Cyfrifiad Poblogaeth a Thai 2021 yng Nghymru a Lloegr, sy'n nodi argymhellion Awdurdod Ystadegau'r DU y dylid cynnwys y cwestiynau newydd hyn yng Nghyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, ar sail wirfoddol.

Gosododd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd femorandwm cydsyniad deddfwriaethol am Ddeddf y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) ger bron y Senedd ar 15 Mai 2019. Mae hyn oherwydd bod y Ddeddf yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at unrhyw bwrpas sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gorchymyn y Cyfrifiad

Mae Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020 yn datgan pwy sydd angen cwblhau holiadur y Cyfrifiad a’r gwybodaeth sydd i’w gasglu. Ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru ar Orchymyn y Cyfrifiad. Cymeradwywyd y Gorchymyn gan Dŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ac fe’i gwnaed gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 20 Mai 2020.

Rheoliadau'r Cyfrifiad

Mae Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 yn datgan y trefniadau gweithredol sy’n angenrheidiol i gynnal Cyfrifiad 2021. Mae’r Rheoliadau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o holiadur papur Cyfrifiad 2021 a disgrifiadau o’r cwestiynau a’r opsiynau ymateb ar gyfer yr holiadur ar-lein.

Gwnaed Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 gan y Gweinidog Cyllid a Threfnydd ar 28 Mai 2020. Daethpwyd y Rheoliadau i rym ar 26 Mehefin 2020.