Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles wedi rhybuddio am argyfwng newydd sy'n wynebu'r DU, ac wedi dweud mai nawr yw'r amser i ystyried newid cyfansoddiadol sylfaenol ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn ymddangos yng Nghynhadledd y Pedair Gwlad ar 'Brexit, Datganoli a Chymdeithas Sifil' yn Belfast, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:

"Mae'r penderfyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi golygu bod angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd. Mae wedi codi cwestiynau sylfaenol am natur ein Hundeb a'i gyfansoddiad – ac yn wir ynghylch a all barhau i fodoli ar ei ffurf bresennol. Oes modd cadw'r Deyrnas Unedig at ei gilydd, neu a fydd y tensiynau a gafodd eu creu a'u hamlygu gan Brexit yn ei chwalu?

"Mae datganiad Prif Weinidog yr Alban yr wythnos ddiwethaf yn ein hatgoffa bod gan bob un o lywodraethau'r Deyrnas Unedig safbwyntiau gwahanol ar ein Hundeb. Mae Llywodraeth Cymru yn credu yn yr Undeb, ond rydyn ni'n credu bod rhaid iddo newid. Roedd angen newid cyn Brexit; mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynegi pryderon am gyfansoddiad y Deyrnas Unedig ers 2012 o leiaf. A nawr, mae'r penderfyniad i ymadael wedi amlygu'r angen am newid sylfaenol ymhellach, oherwydd mae wedi'n gorfodi i wynebu gwirioneddau nad oedd unrhyw un wedi meddwl amdanynt o'r blaen.

"Rhaid i Brexit arwain at ffurfiau cryfach o ddatganoli: pwerau sylweddol gryfach i'r gweinyddiaethau datganoledig mewn meysydd fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a llawer mwy. Bydd angen i ni feddwl am sut yr ydym yn dymuno, neu angen, deddfu mewn perthynas â materion a oedd gynt dan arweiniad yr Undeb Ewropeaidd.

"Rydyn ni wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol mewn papur: Brexit a Datganoli. Rydyn ni'n galw am Gyngor Gweinidogion y Deyrnas Unedig, a gwell ffordd o ddatrys anghydfodau, gan gynnwys cynnig ar gyfer trefn gymrodeddu annibynnol. Er mwyn helpu i adeiladu'r strwythurau cadarn sydd eu hangen, rydyn ni'n awgrymu ysgrifenyddiaeth annibynnol, yn seiliedig o bosib ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y Cyngor Prydeinig Gwyddelig. Ac rydyn ni'n galw am gonfensiwn cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig, i roi sylw i'r ffordd y mae angen i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig newid.

"Mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn creu tensiynau newydd a sylfaenol i'n cyfansoddiad a'r berthynas rhwng llywodraethau. Bydd datrys y tensiwn hwn yn bwysicach nag erioed wrth i ni symud o negodi telerau ein hymadawiad at negodi ein perthynas yn y dyfodol â'r Undeb Ewropeaidd a'r byd yn ehangach.

“Wrth gwrs, rhaid i ni barhau i drafod yn gadarn â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed wrth i'r amgylchedd weithio newydd ddatblygu. Os yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig i wrthsefyll y pwysau sy'n dod yn sgil Brexit a datblygu mewn ffordd sy'n gweithio i bob un, mae'n rhaid i Gymru chwarae rhan gwbl ganolog."