Heddiw, amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw yr achos dros gael system gyfreithiol neilltuol i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dywedodd Mr Antoniw fod y nifer cynyddol o gyfreithiau sy'n berthnasol i Gymru yn unig yn golygu bod sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru yn anorfod, ac felly ei bod yn gwneud synnwyr dechrau gweithio ar system ar wahân yn awr.

Dywedodd: 

“Nawr bod gennym ni ddwy ddeddfwrfa, mae'n amlwg y dylem gael dwy awdurdodaeth. Mae'n destun pryder mawr i mi fod 'na rhyw fath o ddirgelwch neu barchedig ofn wedi ymddangos rhywsut ynghylch y cysyniad o awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Rydw i o'r farn bod creu awdurdodaeth neilltuol yn ffordd syml a synhwyrol o symud ymlaen nes y byddwn yn cyrraedd y pwynt pan fydd y corff o gyfraith Cymru neu gyfraith Lloegr mor fawr nes bod dwy awdurdodaeth ar wahân yn anorfod."


Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn y gynhadledd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gosod gweledigaeth o awdurdodaeth neilltuol ond yn y cyfamser, bod yn rhaid sicrhau bod un awdurdodaeth yn gweithio.

Eglurodd: 

“I'r perwyl hwn, rydyn ni'n cymryd camau i sicrhau, cyhyd ag sy'n bosibl, nad yw'r awdurdodaeth neilltuol na'r gwahaniaeth yng nghyfreithiau Cymru yn golygu bod pobl Cymru dan anfantais, ac nad yw'n cael effaith andwyol ar ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod aelodau o'r gymuned gyfreithiol yn chwarae eu rhan. Rydyn ni'n croesawu hyn; yn ei annog; ac rydym am weld mwy o honno.”


Dywedodd Mr Antoniw hefyd wrth y gynulleidfa y byddai creu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol yn gyfle i ddatblygu ateb i Gymru wrthwynebu pentwr o ddiwygiadau gan Lywodraeth y DU sy'n lleihau mynediad at gyfiawnder. Mae'r toriadau sylweddol mewn cymorth cyfreithiol ers 2013 yn cael eu dwysáu oherwydd bod cymaint o lysoedd yn cael eu cau ar hyd a lled Cymru a Lloegr, bod ffioedd llysoedd wedi cynyddu dro ar ôl tro a'r ffaith bod ffioedd newydd wedi'u gorfodi. Mae hyn yn arwain at nifer cynyddol o bobl yn ymddangos yn y llys heb gyfreithiwr i'w cynrychioli, sy'n achosi problemau i'r system llysoedd a thribiwnlysoedd a'r farnwriaeth. Datgelodd ystadegau Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf nad oedd cyfreithwyr yn cynrychioli yr un parti mewn un o bob tri achos o gyfraith teulu.

“Nid yw cymorth cyfreithiol wedi'i ddatganoli, ac nid oes gennym ni'r arian i lenwi bwlch ariannol y toriadau i Gymorth Cyfreithiol, ond gallwn ddechrau ystyried gweithredu'n wahanol. Mae'n rhaid i ni edrych sut y mae ein tribiwnlysoedd yn gweithredu, sut y gallwn wella'r mynediad atynt; mae'n rhaid i ni edrych ar y systemau cynghori y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu, systemau pro bono, systemau cymorth cyfreithiol undebau llafur a sefydliadau cymorth a chynghori y trydydd sector. Mae'n bosibl y bydd cyfle yma i fod yn greadigol, dod ag elfennau gwahanol ynghyd a chreu model arall.”

Daeth â'i araith i ben drwy bwysleisio'r rôl bwysig y bydd angen i'r proffesiwn cyfreithiol ei chwarae i gyflawni ei weledigaeth o gael system gyfreithiol newydd sy'n addas ar gyfer y Gymru fodern.

Dywedodd: 

“Rwyf am i'r sector cyfreithiol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth inni weithio i gyflawni newid arwyddocaol er gwell i Gymru; y math o newid sy'n datblygu sector busnes ffyniannus, sector addysg ac ymchwil o'r radd flaenaf a system cyfiawnder sy'n ennyn cenfigen yn fyd-eang; gwlad lle bo gan bob unigolyn gyfle digonol i lwyddo os ydynt yn gweithio'n galed.”