Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gweinidog Twristiaeth yn ymweld â Theithiau Antur RibRide ar Ynys Môn ddydd Llun 19 Chwefror i gael clywed am ddatblygiad newydd arloesol y cwmni ar gyfer Blwyddyn y Môr 2018

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r tîm yn RibRide wedi gosod her i'w hunain i ddathlu 'Blwyddyn y Môr'. Mae cwch RIB (cwch chwyddadwy â gwaelod caled) wedi cael ei ddylunio'n arbennig i deithio'n gyflym ar y môr. Enw'r RIB yw 'Velocity'.

Dywedodd Capten Phil Scott, perchennog Teithiau Antur RibRide:

"Roedd ychwanegu at ein fflyd o gychod RIB yn syniad a enynnodd ddiddordeb y tîm. Gallen ni ddylunio cwch RIB tu hwnt o gyflym, gan greu'r cwch RIB cyflymaf yn y byd i deithwyr. Gallen ni ei ddylunio a'i adeiladu yn y DU a'i redeg yma yng Nghymru."

Cafodd y cwch RIB ei ddylunio ddiwedd 2017 ac mae'n cael ei gynhyrchu yn y DU yn barod. Disgwylir iddo gyrraedd erbyn mis Mai 2018. Mae’r prosiect hwn wedi cael cymorth drwy'r Gronfa Busnesau Bach a Micro a thrwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru − Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a chan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Capten Phil:
"Mae gan Gymru y weiren wib gyflymaf yn y byd yn Zip World, Bethesda, a'i henw hi yw 'Velocity'. Roedd ein ffrindiau yn Zip World yn awyddus iawn inni ddefnyddio'r un enw ar gyfer y cwch RIB cyflymaf yn y byd. Drwy gydweithio fel hyn, rydyn ni'n helpu i sicrhau bod y Gogledd yn gallu denu’r ymwelydd antur profiadol."

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: 
"Dw i'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi cyllid i gefnogi'r fenter arloesol hon ac y bydd y datblygiad hwn yn dal i roi'r Gogledd ar y map, gan ddangos ei fod yn gyrchfan penigamp ar gyfer gweithgareddau antur. Mae Blwyddyn y Môr yn gyfle i Gymru ennill ei phlwyf fel un o gyrchfannau arfordirol gorau’r DU yn yr 21ain ganrif drwy hyrwyddo cynhyrchion, digwyddiadau a phrofiadau rhagorol. Bydd 'Velocity' yn atyniad arall dros yr haf.”

Mae cwch RIB 'Velocity' wedi creu swyddi newydd yn RibRide yn barod. Y gobaith yw y bydd y twf a ragwelir yn dod â budd economaidd i ardal y Gogledd. Mae tîm RibRide wedi bod yn gweithio gyda'r rheoleiddwyr morol i helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer y cwch hwn ac ar gyfer cychod cyflym eraill a ddaw ar ei ôl.Dywedodd Capten Phil:
"Rydyn ni wrthi'n gweithio i greu'r cwch RIB cyflymaf yn y byd i deithwyr. Gobeithio y gallwn ni dorri sawl record byd. Mae cael rhannu'r cyffro hwn gyda'n teithwyr yn beth gwych a byddan nhw'n rhan annatod o'r her hon. Bydd 'Velocity' yn cyrraedd cyflymder a fydd yn ddigon i godi arswyd ymhen 30 eiliad. Bydd ein Capteiniaid arbenigol, sydd wedi cael hyfforddiant o'r radd flaenaf, yn mynd â chi ar ddwy daith arbrofol ichi gael profiad o'r cwch cyn ichi fynd ar daith gyflymaf y dydd."