Neidio i'r prif gynnwy

Gwahoddiad i'r diwydiant twristiaeth gynnig am arian i fuddsoddi mewn twristiaeth flwyddyn nesaf a chefnogi blynyddoedd thematig Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Croeso Cymru yn chwilio am syniadau mawr ar gyfer prosiectau a all ddenu ymwelwyr i Gymru gan sicrhau y daw Cymru yn gyrchfan "rhaid ei gweld" a chan roi rhesymau cryf iawn iddyn nhw ymweld â Chymru.

Bydd y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a'r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) yn helpu'r sectorau cyhoeddus a phreifat i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu a chynnal mentrau arloesol sy'n canolbwyntio ar gynnyrch a chyrchfannau ac yn cefnogi Blwyddyn Darganfod 2019 a Ffordd Cymru; ac sy'n adlewyrchu o leiaf un o'r tair prif thema ar gyfer hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru - antur, diwylliant a thirwedd.

Ar gyfer y Flwyddyn Darganfod, bydd y pwyslais ar y profiadau y gall pobl eu cael yng Nghymru a gwahodd pobl i grwydro a chwilota'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw.

Bydd y Flwyddyn Darganfod yn annog ymwelwyr i fentro i leoedd newydd, i brofi profiadau neu gynnyrch newydd, i ymdeimlo â naws lle trwy iaith, diwylliant a hanes lleol.

Derbyniodd Taith Surfari Bus Bae Abertawe nawdd yr RTEF yn y rownd gyllido ddiwethaf ac o ganlyniad, cafodd cannoedd o ymwelwyr glywed am swyn Bae Abertawe, diolch i 'syrffari' pedair wythnos y campervan VW o gwmpas Cymru ac Iwerddon.

Cychwynnodd y Bws Surfari ar ei daith o gwmpas Cymru pan roedd tymor gwyliau mis Awst ar ei anterth, gan ymweld ag 11 o lefydd yn ardal Bae Abertawe a'r cyffiniau ac â 7 lle ar hyd Ffordd Cymru. Roedd y cyrchfannau poblogaidd hynny'n cynnwys Aberhonddu, Portmeirion a Llandudno. Y ddau le olaf y galwodd y bws ynddyn nhw oedd canolfannau siopa yn Nulyn a Kilkenny, Iwerddon.

Rhoddodd y daith hwb i ymgyrch marchnata 'Blwyddyn y Môr' Bae Abertawe gan ennyn sylw'r cyfryngau lleol ar y ffordd a denu nifer o newyddiadurwyr a blogwyr i ymweld dros yr hydref.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesi, Adfywio a Thwristiaeth fod ymgyrch haf y 'syrffari' yn gyfle unigryw i gyflwyno teuluoedd sydd eisoes ar eu gwyliau i hyd yn oed fwy o bethau i'w gweld a'u gwneud ym Mae Abertawe ac i'r rheini sydd ar wasgar i ddod am wyliau bach.

Meddai: 

"Er mai'n tîm ni aeth â'r sioe ar daith, cefnogaeth busnesau twristiaeth Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr wnaeth y daith yn llwyddiant.

"Gwnaethon nhw ein cefnogi'n frwd trwy drefnu gweithgareddau di-dâl a chynnig gwobrau i gystadlaethau fel bod ymwelwyr â'r Surfari Bus yn cael cyfle i ddod i Fae Abertawe a mwynhau ei weithgareddau."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Dros y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld sut mae'r gronfa refeniw hon wedi helpu'r diwydiant i ddod ynghyd, cydweithio a chynnal prosiectau sydd wedi cael cryn effaith ar farchnad gystadleuol iawn. Wrth inni droi'n sylw nawr at y Flwyddyn Darganfod, hoffem weld syniadau a phartneriaethau strategol mwy fyth yn datblygu. Byddwn yn blaenoriaethu ein buddsoddiad i gynigion sy'n dangos tystiolaeth o gydweithio rhanbarthol gwirioneddol ac sy'n gallu hyrwyddo'r ymrwymiad i dwf cynhwysol a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd." 

"Antur, diwylliant a thirwedd yw cryfderau craidd Cymru a dyma'r meysydd rydyn ni'n credu y gallwn fod yn wirioneddol gystadleuol ynddyn nhw. Rydyn ni am fynd yn ôl iddyn nhw a bydd y Flwyddyn Darganfod a blynyddoedd y dyfodol yn gyfle i gryfhau'r themâu craidd hyn.”

Mae’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) yn cael eu cynnal gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a chan Lywodraeth Cymru.