Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog dros yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd i gynllun arloesol, a arweinir gan Gymru, i nodi lled-ddargludyddion cyfansawdd fel sector pwysig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun yn datgloi €1.75 biliwn o gyllid ar gyfer gweithgareddau ymchwil, yn denu hyd at €6 biliwn o fuddsoddiadau preifat ac yn helpu, yn y pen draw, i gyflwyno technoleg arloesol newydd i'r farchnad.

Y prosiect hwn yw'r rhaglen IPCEI integredig gyntaf ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi i'w chymeradwyo gan y Comisiwn ac mae'n hoelio sylw ar bwysigrwydd micro-electroneg a lled-ddargludyddion cyfansawdd ar draws Ewrop.

Mae disgwyl i Gymru ac economi ehangach y DU elwa ar y prosiect hwn gan y bydd yn sicrhau bod De-ddwyrain Cymru yn ganolfan arbenigol sydd ar flaen y gad yn y maes.

Cafodd elfen y DU o'r prosiect ymchwil ac arloesi ar y cyd ar ficro-electroneg a gynhaliwyd ledled Ewrop ei hybu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys tri cwmni o Gymru: IQE, Newport Wafer Fab a SPTS Technologies (cwmni Orbotech), ynghyd ag ICS Ltd o Fanceinion.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Mae clwstwr lled-ddargludyddion Cymru a'i gyfraniad at dechnoleg sydd mor gyffredin yn ein bywydau beunyddiol yn destun balchder, ac rwyf wrth fy modd bod Cymru wedi cymryd yr awenau ar ran y DU i gydgysylltu'r prosiect a fydd yn ysgogi ymchwil hanfodol ac yn sbarduno gwaith arloesol ledled Ewrop.

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cymeradwyo’r prosiect ac mae hynny'n newyddion gwych i'r sector ac, wrth gwrs, i economi ehangach Cymru. Bydd yn sicrhau buddsoddiadau preifat gwerth £6 biliwn ar draws Ewrop ac yn galluogi ein cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd ein hunain i weithio ochr yn ochr â chwmnïau mawr rhyngwladol yn y maes.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n partneriaid Ewropeaidd ac IQE, Newport Wafer Fab a SPTS ar y gwaith cyffrous hwn a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i Gymru".

Dywedodd y Comisiynydd Mariya Gabriel, sy’n gyfrifol am yr Economi a'r Gymdeithas Ddigidol:

"Mae pob dyfais gysylltiedig, pob peiriant modern, a’n holl wasanaethau digidol yn dibynnu ar gydrannau micro-electronig sy'n mynd yn llai ac yn gyflymach gydag amser. Os nad ydym am ddibynnu ar eraill am dechnoleg mor hanfodol, er enghraifft, at ddibenion diogelwch neu berfformiad, rhaid inni allu ei dylunio a'i chynhyrchu ein hunain. Gwell cydweithrediad a'r weledigaeth sy'n cael ei rhannu ledled Ewrop sy'n gyfrifol am benderfyniad y Comisiwn i gymeradwyo'r prosiect hwn".

Mae disgwyl i led-ddargludyddion cyfansawdd chwyldroi technoleg yr unfed ganrif ar hugain fel y gwnaeth y sglodyn silicon newid hanner olaf yr ugeinfed ganrif.

Mae'r DU eisoes yn gartref i sawl busnes a chyfleuster ymchwil o'r radd flaenaf yn y maes ac mae llawer ohonynt yng Nghymru.

Mae clwstwr lled-ddargludyddion De Cymru - sy'n dwyn yr enw brand CSconnected, yn cael ei gydnabod fwyfwy yn ganolfan sydd ar flaen y gad yn y maes technoleg galluogi a bwerir gan led-ddargludyddion cyfansawdd.

Caiff ei gefnogi gan yr ardal o'i amgylch sy'n gartref i amrywiaeth o gyfleusterau a busnesau sy'n ategu cadwyni cyflenwi uwch-dechnoleg o ymchwil a datblygu i ddatrysiadau arloesol.

O ganlyniad i'r penderfyniad, bydd IQE, Newport Wafer Fab, SPTS Technologies ac ICS Ltd yn cydweithio â phartneriaid  ledled sawl gwald arall ar y Prosiect Pwysig o Ddiddordeb Ewropeaidd ar y Cyd (IPCEI) a fydd yn hoelio sylw ar weithgareddau diwydiannol ac arloesi.