Heddiw, bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ymweld â Phrifysgol De Cymru yn Nhrefforest
Heddiw (dydd Gwener 27 Ebrill), bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ymweld â Phrifysgol De Cymru yn Nhrefforest i gyfarfod â chyfreithwyr, yr heddlu, swyddogion prawf a myfyrwyr y gyfraith fel rhan o'i waith yn casglu tystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y system gyfiawnder a'r hyn sydd angen ei wella er mwyn darparu gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.
Ymhlith y materion i'w trafod, mae mynediad at wasanaethau cyfreithiol, amrywiaeth yn y proffesiwn, syniadau ar gyfer lleihau troseddau ac adsefydlu troseddwyr.
Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut y mae ein system gyfreithiol a chyfiawnder yn gweithio a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.
Dan gadeiryddiaeth cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a chan gynnwys aelodau blaenllaw o'r gymuned gyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru, mae gwaith y Comisiwn wedi hen ddechrau.
Ers mis Chwefror, mae'r Comisiwn wedi cynnal digwyddiadau ym Mangor, Wrecsam ac Aberystwyth er mwyn clywed barn y bobl sy'n gweithio yn y system gyfiawnder a chyfreithiol, ac sy’n cael eu heffeithio ganddi, gan gynnwys carcharorion a staff carchar y Berwyn ger Wrecsam. Mis nesaf, bydd cynrychiolaeth o'r Comisiwn yn teithio i'r Alban i ystyried profiadau ein cymheiriaid yno.
Mae'r Comisiwn yn ceisio tystiolaeth ysgrifenedig tan ddechrau mis Mehefin cyn symud ymlaen at dystiolaeth lafar. Mae’r Comiswn eisiau clywed barn gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl ynglŷn â sut y gellir gwella'r system gyfiawnder.
Dywedodd cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: “Rydyn ni'n trafod yn eang â phobl a sefydliadau ledled Cymru i sicrhau bod ein canfyddiadau a'n hargymhellion am ddyfodol y system gyfreithiol a chyfiawnder yn gadarn.
Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o adeiladu ar y cydweithio da sy'n digwydd ar hyn o bryd rhwng llywodraethau, yr heddlu, y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf, cyfreithwyr a'r llysoedd i leihau troseddau, hyrwyddo adsefydlu ac ymdrin â phroblemau difrifol iawn sy'n wynebu pobl mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol wrth geisio cael gafael ar gyngor cyfreithiol yn eu cymunedau. Bydd ein hymweliad ag ardal Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener yn gam pwysig arall yn y broses hon.”