Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn 2017 er mwyn adolygu'r ffordd mae'r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu, a llunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer ei dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd y Comisiwn ei waith ym mis Rhagfyr 2017 ac ym mis Chwefror 2018 cyhoeddodd gais am dystiolaeth. Mae'r Comisiwn wedi cael mwy na 130 o gyflwyniadau ysgrifenedig, sydd wedi'u cyhoeddi ar ei wefan.

Mae llawer o'r cyflwyniadau yn cynnig argymhellion am y ffordd y gellid gwella'r systemau cyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru a'u gwneud yn fwy hygyrch.

Mae'r Comisiwn bellach yn awyddus i glywed gan fwy o bobl am y ffyrdd mae'r canlynol yn gweithio yng Nghymru a sut y gellid eu gwella:

  • Cyfiawnder troseddol, gan gynnwys plismona, prawf a charchardai
  • Cyfiawnder sifil, cyfiawnder teuluol a thribiwnlysoedd
  • Mynediad at gyngor cyfreithiol i bawb yn ein cymdeithas, waeth beth yw eu cefndir na'u cyfoeth

Rhannwch eich safbwyntiau, syniadau ac awgrymiadau â ni drwy gwblhau ein holiadur byr ar-lein.