Neidio i'r prif gynnwy

Syr Michael Marmot yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae’r Athro Marmot wedi bod yn Athro Epidemioleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ers 1985  a mae'n Gyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd UCL. Ef yw awdur The Health Gap: the challenge of an unequal world (Bloomsbury: 2015), a Status Syndrome: (Bloomsbury: 2004).

Ef hefyd yw’r Cynghorydd ar benderfynyddion iechyd i Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, yn Is-adran newydd y Sefydliad ar gyfer Poblogaethau Iachach, ac mae’n Athro Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Tsieinïaidd Hong Kong (2019-) ac yn Gyd-gyfarwyddwr y CUHK Institute of Health Equity. Mae wedi derbyn Global Hero Award Sefydliad Iechyd y Byd; Proffesoriaeth Lown Harvard (2014-2017); Gwobr y Tywysog Mahidol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd (2015); ac 19 o ddoethuriaethau anrhydeddus.

Mae wedi bod yn arwain grwpiau sy’n ymchwilio i anghydraddoldebau iechyd ers bron i 50 mlynedd. Cadeiriodd Gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar Benderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, nifer o Gomisiynau Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd i lywodraethau yn y DU.

Gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn 2010-2011, ac fel Llywydd Cymdeithas Feddygol y Byd (World Medical Association) yn 2015.  Ef hefyd yw Llywydd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Mae’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymarawd Anrhydeddus yn yr American College of Epidemiology a’r Faculty of Public Health ; yn Gymrawd Anrhydeddus yr Academi Prydeinig; ac o Golegau Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg, Seiciatreg, Pediatreg ac Iechyd Plant, ac Ymarferwyr Cyffredinol. Mae'n aelod etholedig o National Academy of Medicine yr Unol Daleithiau ac Academy of Medicine, Brasil.

Bu’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol am chwe blynedd, ac yn 2000 cafodd ei urddo’n farchog gan Ei Mawrhydi y Frenhines am wasanaethau i epidemioleg a’r ddealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd.