Shavanah Taj Comisiynydd
Shavanah Taj yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Shavanah Taj yw Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, ac mae wedi bod yn gwasanaethu yn y rôl hon ers mis Chwefror 2020, ar ôl symud o Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), lle bu’n Ysgrifennydd Cymru o 2013.
Cyn ymuno â’r PCS fel swyddog amser llawn yn 2002, bu Shavanah yn gweithio ym maes manwerthu, ac mewn canolfannau galwadau a’r trydydd sector. Rhwng 2018 a 2019, fe wasanaethodd fel Llywydd TUC Cymru.
Cafodd Shavanah ei geni a’i magu yng Nghaerdydd, a thyfodd i fyny mewn amgylchedd lle’r oedd mudiad yr undebau llafur yn ddylanwad mawr. Roedd ei thad yn gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch yn y gweithfeydd dur.
Mae Shavanah yn teimlo’n gryf iawn ynghylch materion yn ymwneud â chydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol, a hawliau dynol. Mae’n un o noddwyr Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru, ac yn ymddiriedolwr ar gyfer Sefydliad Henna sy’n cynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais ar sail anrhydedd. Mae’n un o ymddiriedolwyr Fio, sef grŵp theatr sy’n gweithio ar lawr gwlad i annog pobl ifanc dosbarth gweithiol i gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl (People’s Health Trust) a Sefydliad Bevan.
Mae Shavanah yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac mae’n briod gyda dau o blant ifanc 8 a 10 oed.