Neidio i'r prif gynnwy

Miguela Gonzalez yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae Miguela Gonzalez yn ymarferydd amrywiaeth a chynhwysiant ac yn gyn newyddiadurwr. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Abcam, cwmni gwyddorau bywyd byd-eang, lle mae’n gweithio i greu diwylliant agored a chynhwysol.  Cyn hyn, bu’n gweithio yn y cyfryngau am 15 mlynedd, yn bennaf fel newyddiadurwr gyda’r BBC, ond hefyd mewn rolau sy’n ymwneud â dadansoddi data, rheoli prosiectau, ac arbenigedd pynciau.

Fel Arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda thîm Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu yn y BBC, fe gynlluniodd ymgynghoriad helaeth, gan reoli a gweithredu’r prosiect hwnnw a arweiniodd at weithredu strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant dair blynedd bresennol y darlledwr.

Mae Miguela wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi’r prosiect Cyswllt Diwylliant Cymru ar waith, a hefyd bu’n ddarlithydd gwadd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

Oherwydd ei phrofiad helaeth mewn rolau allweddol ar draws gwahanol bwyllgorau, timau a phrosiectau, gan gynnwys cronfeydd arloesi, cyrff llywodraethu ysgolion, gosodiadau celf, a gwyliau cerddorol, mae’n dod â dealltwriaeth a syniadau creadigol ac amrywiol i waith y Comisiwn.