Neidio i'r prif gynnwy

Leanne Wood yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae gan Leanne Wood dros bum mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithredydd gwleidyddol. Mae hi wedi dal sawl rôl mewn bywyd gwleidyddol gan gynnwys cynghorydd lleol, AS dros y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli'r Rhondda a'r fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru.

Mae Leanne wedi hyrwyddo llawer o faterion cymdeithasol ac economaidd amrywiol ac mae'n benderfynol o weithio i sicrhau, beth bynnag yw dyfodol cyfansoddiadol Cymru, bod y rhai sy'n cael trafferthion a'r rhai sydd ar y cyrion yn cael cyfle i weld gwelliannau gwirioneddol yn eu bywydau.