Kirsty Williams Comisiynydd
Kirsty Williams yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Gwasanaethodd Kirsty Williams yn y Senedd am 22 o flynyddoedd, a chyn hynny bu’n aelod o’r Grŵp Cynghori ar y Cynulliad Cenedlaethol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd i roi cyngor ar sefydlu sefydliad datganoledig newydd. Yn 2008, cafodd ei hethol yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.
Rhwng 2016 -2021, hi oedd y Gweinidog Addysg, yn arwain cenhadaeth i ddiwygio addysg genedlaethol. Fe wnaeth ymddeol o wleidyddiaeth reng-flaen ym mis Mai 2021, ac mae bellach yn gadeirydd bwrdd cynghori Taith, cyfnewidfa ddysgu ryngwladol newydd Cymru a rhaglen sydd yn disodli Erasmus+.
Mae’n byw ar fferm y teulu yng nghanol Bannau Brycheiniog, ac mae’n wirfoddolwr brwdfrydig yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen.