Neidio i'r prif gynnwy

Dr Anwen Elias yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae Dr. Anwen Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, gan raddio o Brifysgol Caergrawnt a’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, Florence, lle y cwblhaodd ddoethuriaeth yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol, a democratiaeth ymgynghorol.

Mae’n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru, ac mae’n aelod o Fwrdd Golygyddol The Welsh Agenda, cylchgrawn materion cyfoes y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae wedi bod yn Gymrawd Gwadd yn Universitat Pompeu Fabra, Catalonia a’r Universidade de Santiago de Compostela, Galicia.