Neidio i'r prif gynnwy

Mae ATRS yn ddull wedi’i safoni o gofnodi sut mae’r sector cyhoeddus yn defnyddio offer algorithmig ac o rannu’r wybodaeth hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y safon cofnodi tryloywder algorithmig (ATRS)

Mae offer algorithmig a Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ATRS yn ffordd o rannu gwybodaeth â'r cyhoedd am yr hyn sy’n cael ei ddefnyddio, ymhle a sut.

Mae ATRS yn ddull wedi’i safoni o gofnodi gwybodaeth am yr offer algorithmig yr ydych yn eu defnyddio mewn fformat hygyrch a di-dâl, ac o rannu’r wybodaeth hon. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi argymell bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mabwysiadu ATRS.

Cafodd ATRS ei datblygu gan:

  • y Swyddfa Digidol a Data Ganolog
  • yr Uned Mabwysiadu Technoleg Gyfrifol
  • grwpiau cymdeithas sifil
  • arbenigwyr allanol

Mae ATRS wedi cael ei chreu i’w defnyddio gan sefydliadau’r sector cyhoeddus sydd ag offer algorithmig:

  • sy’n cael dylanwad sylweddol ar y broses gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar y cyhoedd
  • sy’n rhyngweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd

Drwy ddefnyddio ATRS, bydd sefydliadau yn rhannu cofnodion fel cofrestr fyw, gan gynnwys gwybodaeth fel:

  • sut mae offer algorithmig yn gweithio 
  • sut maen nhw’n cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau 
  • pa broblem mae sefydliad yn ceisio ei datrys drwy ddefnyddio’r offer 
  • y cyfiawnhad neu’r rhesymeg dros eu defnyddio 
  • pwy yw perchennog yr offer ac sy’n gyfrifol amdanynt felly

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Cymeradwyaeth

Mae’r Comisiwn AI wedi cymeradwyo y dylid mabwysiadu’r ATRS fel canllaw ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd ATRS yn helpu i wella tryloywder o ran defnyddio AI ar draws y sector i gleifion ac i staff. Bydd hefyd yn cefnogi dulliau diogel a moesegol o fynd ati i fabwysiadu technoleg AI er mwyn gwella gofal i gleifion.

I gael arweiniad ar sut i gydymffurfio â ATRS, dylech gyfeirio at hwb ATRS Llywodraeth y DU.