Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r AIDRS yn darparu canllawiau ac arferion gorau sy'n ymwneud ag AI a thechnolegau iechyd digidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo y Gwasanaeth Rheoliadau Deallusrwydd Artiffisial a Thechnolegau Digidol (AIDRS). Nod AIDRS yw helpu'r rhai sy'n ystyried mabwysiadu neu ddatblygu AI i ddeall y maes cymhleth hwn o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg.

Datblygwyd AIDRS ar y cyd gan 4 awdurdod rheoleiddio a gwerthuso allweddol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: 

  • y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
  • y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC)
  • yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA)
  • yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)

Mae AIDRS yn darparu crynodeb o reoliadau a chanllawiau mewn perthynas â defnyddio technoleg AI. Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac esboniadau ar gyfer y rhai sy'n ystyried mabwysiadu neu ddatblygu AI ym maes iechyd a gofal cymdeithasol:

Bydd y Comisiwn AI yn cydweithredu â phartneriaid yn GIG Lloegr a phartneriaid ar lefel y DU i helpu i sicrhau bod AIDRS yn diwallu anghenion defnyddwyr yng Nghymru. Dylai cydweithwyr yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n defnyddio AIDRS ac sydd â phryderon penodol gysylltu â'r sefydliadau priodol yng Nghymru i gael cymorth ychwanegol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan AIDRS.