Neidio i'r prif gynnwy
Teitl y cynnig: Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft a rheoliadau cysylltiedig 2021
Swyddog(ion) sy'n llenwi'r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw'r tîm): Tîm Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol
Adran: Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Pennaeth yr Is-adran/yr Uwch-swyddog Cyfrifol (enw): Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr
Ysgrifennydd Cabinet/Gweinidog cyfrifol: Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Dyddiad dechrau: 2 Mawrth 2021

 

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Mae'r asesiad effaith hwn yn gysylltiedig â'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft (‘y Cod ADY’) a’r rheoliadau cysylltiedig a restrir isod:

  • Rheoliadau drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
  • Rheoliadau drafft Tribiwnlys Addysg Cymru 2021
  • Rheoliadau drafft Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Diwygio) 2021
  • Rheoliadau drafft Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
  • Rheoliadau drafft Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021

Gosodwyd y rhain gerbron Senedd Cymru i’w cymeradwyo ar 2 Mawrth 2021.

Bydd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('Deddf 2018') yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Bydd yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch anghenion addysg arbennig ('AAA') ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ('AAD') sydd mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod ar ADY ('y Cod ADY') ac yn darparu nifer o bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru. Bwriedir i'r Cod ADY a'r rheoliadau fod yn sylfaen i weithredu a gweithredu'r system newydd.

Mae'r Cod ADY drafft yn canolbwyntio ar ddisgrifio'r swyddogaethau a osodwyd ar bersonau perthnasol o dan y Ddeddf a'r rheini yn y rheoliadau drafft. Yn ogystal, mae'r Cod ADY drafft ei hun yn gorfodi gofynion ar awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach ('SAB') yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu canllawiau ar gyflawni'r swyddogaethau hyn. Bwriedir gosod y Cod ADY drafft a’r rheoliadau drafft gerbron Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2021, gyda golwg ar gychwyn darpariaethau Deddf 2018 o 1 Medi 2021, dros gyfnod gweithredu o dair blynedd cyn iddynt gael eu cymhwyso yn llawn.

Datblygu polisi

Datblygwyd y Cod ADY drafft, gan gynnwys lle mae'n amlinellu'r bwriad polisi sy'n sail i'r rheoliadau arfaethedig, yng ngoleuni'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bwriedir iddo ddarparu sylfaen hirdymor ar gyfer system statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY. Mae'r gofynion gorfodol y mae'n cynnig eu gorfodi, a’r bwriad polisi a ddisgrifir ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol, wedi'u cynllunio i sicrhau y bydd y system yn cael ei gweithredu'n gyson ond y bydd hefyd digon o hyblygrwydd i ganiatáu arloesi o ran arferion addysgol a datblygiadau mawr fel diwygio'r cwricwlwm.

Mae'r gofynion yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgol a'r cyfle i gyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdani a hynny'n amserol ac yn effeithlon, er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac elwa arno.

Mae dull gweithredu'r Cod ADY drafft yn cefnogi ac yn integreiddio'n uniongyrchol â'r thema allweddol 'Uchelgeisiol ac yn Dysgu' yn Ffyniant i Bawb a'r amcanion llesiant o fewn y thema honno ac eraill. Cafodd y Cod, a'r Ddeddf sy'n ei ategu, eu datblygu mewn cydweithrediad â'n partneriaid er mwyn cyflawni'r gofynion, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, darparwyr y blynyddoedd cynnar, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, cyrff proffesiynol a chomisiynwyr. Mae Rhaglen Drawsnewid wedi’i datblygu i sicrhau bod gan ein partneriaid y gallu a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i weithredu'r gofynion.

Rydym hefyd wedi cynnwys plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd yn y gwaith o ddatblygu'r Cod drafft, o ystyried mai nhw fydd yn elwa ar y system gymorth newydd, a hynny drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu wedi'u targedu fel rhan o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym yn 2019.

Effaith

Mae'r gofynion gorfodol yn y Cod ADY drafft, y bwriad polisi y mae'n ei amlinellu mewn perthynas â'r rheoliadau drafft, a'r diwygiadau drafft i God Rhan 6, yn ymwneud â'r themâu eang canlynol:

  • yr amserlenni ar gyfer cwblhau dyletswyddau penodol gan gyrff cyhoeddus
  • dirprwyo swyddogaethau i bwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion
  • cynnwys cynlluniau datblygu unigol ('CDUau') statudol a'r templed ar eu cyfer
  • y ffactorau a’r meini prawf ar gyfer penderfynu a oes angen paratoi a chynnal CDU ar gyfer person ifanc neu baratoi a chadw cynllun ar gyfer person a gedwir yn gaeth
  • y ddarpariaeth i’w gwneud ar gyfer person a gedwir yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • terfyn amser ar gyfer gwneud cais i awdurdod lleol ailystyried CDU a gynhelir gan ysgol
  • trosglwyddo CDUau rhwng cyrff cyhoeddus
  • y trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau
  • creu rôl cydlynydd addysg plant sy'n derbyn gofal (LACE) ar sail statudol
  • ymgorffori CDUau yng nghynlluniau addysg personol plant sy'n derbyn gofal.

Bydd y gofynion yn sicrhau bod y system newydd yn cael ei gweithredu'n ddidrafferth ac yn effeithiol. Fe'u datblygwyd yng ngoleuni'r systemau AAA ac AAD presennol, yn enwedig y dystiolaeth ar eu diffygion.

Goblygiadau ariannol

Cafodd goblygiadau ariannol y system newydd a gyflwynwyd o dan Ddeddf 2018 a'r Cod ADY (gan gynnwys ymgorffori CDUau mewn cynlluniau addysg personol) eu disgrifio yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â'r Ddeddf. Bydd yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Cod ADY drafft a’r rheoliadau sydd i’w gwneud o dan Ddeddf 2018 yn cael eu llunio pan fydd y Cod ADY drafft yn cael ei osod gerbron y Senedd i’w gymeradwyo.

Dull cyflawni

Bydd y Cod ADY yn darparu'r arweiniad cynhwysfawr angenrheidiol i gyrff cyhoeddus ar eu swyddogaethau statudol mewn perthynas ag ADY, gan gynnwys y rheini a amlinellir yn y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed oddi tani. Gan y bydd y Cod ADY hefyd yn gorfodi gofynion statudol ychwanegol, mae hefyd yn fath o is-ddeddfwriaeth.

Casgliad

Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Datblygwyd y Cod ADY drafft a’r rheoliadau dros gyfnod hir o amser. Fel rhan o'r gwaith hwn cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys cyfres o grwpiau arbennig o gynrychiolwyr o blith y rhanddeiliaid a fydd naill ai â rôl yn y broses o weithredu'r system ADY neu â buddiant yn yr effaith y bydd yn ei chael. Roedd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, Estyn, y Comisiynydd Plant, Comisiynydd y Gymraeg, y trydydd sector ac eraill. Fel rhan o'r broses o ddatblygu a phasio'r Ddeddf, cyhoeddwyd dwy fersiwn flaenorol o'r Cod drafft sydd wedi bod yn destun craffu cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus mawr a nifer o weithdai wedi'u targedu gyda phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Tri amcan cyffredinol Deddf 2018 yw creu:

  1. un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu’n iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a phobl ifanc sydd ag ADY ac yn yr ysgol neu mewn addysg bellach
  2. proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol
  3. system deg a thryloyw ar gyfer rhoi cyngor a gwybodaeth, a datrys pryderon ac apeliadau.

Mewn cyferbyniad, mae'r systemau deddfwriaethol presennol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY neu AAD yn darparu trefniadau cynllunio a chefnogaeth ar sail wahanol i blant a phobl ifanc, yn dibynnu ar eu hoedran, eu lleoliad addysgol a pha mor ddwys a chymhleth yw eu hanghenion. Mae'r anghysondeb hwn yn rhwystr i integreiddio a chydweithio, yn tanseilio pa mor amserol ac effeithiol yw ymyriadau, ac yn arwain at hinsawdd wrthwynebol sy'n gallu ymddangos yn annheg ac yn ddiffygiol o ran tryloywder.

Mae’r system ADY newydd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ac mae’n rhoi’r dysgwyr wrth galon unrhyw benderfyniadau ynghylch eu ADY a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen i ddiwallu eu hanghenion. Mae’r system newydd yn ei gwneud yn haws adnabod ADY yn gynnar ac mae disgwyl iddi arwain at welliannau o ran ymyrryd yn brydlon a darparu CDU addas. Bydd y cyfuniad hwn yn arwain at well canlyniadau i blant a phobl ifanc ag ADY.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cefnogi cydweithio rhwng y sectorau hynny sy’n gweithio gyda phlant, phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys addysg ac iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a fydd i gyd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod cymorth effeithiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn cael ei ddarparu i ddysgwyr ag ADY.

Mae'r gofynion gorfodol a fydd yn cael eu gorfodi gan y Cod ADY drafft, y bwriad polisi a ddisgrifir mewn perthynas â'r defnydd o bwerau amrywiol i wneud rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf 2018, wedi'u cynllunio i hyrwyddo a chyflawni amcanion Deddf 2018.

Yn benodol, mae'r gofynion a ddisgrifir yn y Cod ADY drafft yn ceisio:

  • sicrhau bod y broses o adnabod a chynllunio ar gyfer anghenion plentyn neu berson ifanc yn digwydd yn amserol drwy bennu amserlenni ar gyfer arfer y dyletswyddau cyhoeddus perthnasol
  • sicrhau cysondeb wrth gofnodi cynlluniau drwy ragnodi'r cynnwys gorfodol ar gyfer CDUau a darparu templedi gorfodol ar gyfer y cynlluniau hynny
  • creu cyfres gyson o ffactorau a meini prawf i'w defnyddio wrth bennu a oes angen llunio CDU ar gyfer pobl ifanc a phersonau a gedwir yn gaeth
  • pennu pa ddarpariaeth i’w gwneud ar gyfer person a gedwir yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • caniatáu cyfnod priodol o amser i blant, eu rhieni, neu bobl ifanc wneud cais i awdurdod lleol ailystyried y penderfyniadau a wneir gan ysgolion neu CDU a luniwyd ganddynt
  • amlinellu prosesau ar gyfer trosglwyddo CDUau rhwng cyrff
  • darparu safonau penodol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau a darparu gwasanaethau eirioli annibynnol, er mwyn hwyluso mynediad teg a lleihau anghytundebau a'u heffaith.

Mae’r Cod ADY drafft yn darparu cyngor pwysig ar dair rôl statudol a nodir gan Ddeddf 2018 a fydd, gyda’i gilydd, yn sicrhau bod CDUau yn cael eu cydlynu a’u darparu yn well ar gyfer plant a phobl ifanc:

  • Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar mewn awdurdodau lleol
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach
  • Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig yn y Byrddau Iechyd Lleol.

Yn achos y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’r Cod ADY yn adlewyrchu’r gofynion a nodir yn Rheoliadau drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) yn rheoliadau 27 – 30 o ran y cymwysterau y mae rhaid i Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cael, y swyddogaethau y mae rhaid iddo eu harfer neu drefnu eu bod yn cael eu harfer. Bydd y gofynion hyn yn helpu i sicrhau dull cyson o ddarparu CDU yn brydlon ac mewn modd cydlynol. Yn ei dro bydd hynny’n arwain at well canlyniadau i blant a phobl ifanc ag ADY.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?
  • yn osgoi, leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Fel y nodir uchod, cynlluniwyd y Cod ADY drafft a'r gofynion i hyrwyddo a helpu i gyflawni amcanion Deddf 2018, sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. At hyn, fel y nodwyd uchod hefyd, mae Deddf 2018 a'r system ddeddfwriaethol y mae'n ei chyflwyno, yn cefnogi nifer o'r nodau llesiant. Drwy sicrhau bod y canllawiau a'r gofynion yn y Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft yn sylfaen briodol ar gyfer gweithredu'r system ADY newydd yn llwyddiannus, dylai'r cynigion olygu bod y system ADY newydd yn cael yr effaith fwyaf bosibl ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr amcanion a'r nodau llesiant.

Bydd trosglwyddo i'r system ADY a'i gweithredu, gan gynnwys y gofynion drafft sydd yn y Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft, yn gofyn am dipyn o waith paratoi gan awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn arbennig. I wneud y gwaith hwn, a lleihau unrhyw effeithiau niweidiol y gallai fod wedi'u cael fel arall, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhaglen Drawsnewid gynhwysfawr gan gynnwys pecyn buddsoddi gwerth £20 miliwn.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pum Arweinydd Trawsnewid ADY, ac mae eu rôl yn cynnwys monitro ac adolygu'r trefniadau gweithredu yn ystod y cyfnod trosglwyddo.

Bydd adolygiad ar ôl gweithredu yn rhan o fodel monitro a gwerthuso cyffredinol Llywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried y broses weithredu fesul cam. 

  • parodrwydd - asesu i ba raddau y mae'r asiantau cyflenwi yn barod ar gyfer y newidiadau
  • cydymffurfiaeth - monitro pa mor effeithiol y mae sefydliadau'n cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol newydd unwaith y deuant i rym
  • effaith - gwerthuso sut ac i ba raddau y mae’r newidiadau deddfwriaethol a'r newidiadau polisi ehangach yn ymwreiddio ac yn effeithio ar ddeilliannau i ddysgwyr.

Bydd y dull hwn o fonitro cydymffurfiaeth a gwerthuso effaith yn cael ei gefnogi ymhellach gan drefniadau arolygu ac adolygu parhaus dan arweiniad Estyn.

Datganiad

Rwyf yn fodlon bod effaith y cam gweithredu arfaethedig wedi cael ei hasesu a'i chofnodi'n ddigonol.

Enw'r Dirprwy Gyfarwyddwr: Chris Jones
Adran: Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Dyddiad: 3 Mawrth 2021