Y clafr yw un o'r clefydau mwyaf heintus sy’n effeithio ar ddefaid.
Mae'r clafr yn glefyd hysbysadwy ond nid yw'n effeithio ar bobl. Mae gwiddon sy'n byw ar groen y ddafad yn gadael eu baw arni gan greu adwaith sy'n gwneud iddi grafu'n wyllt. Mae'r crafu'n gallu achosi gofid mawr gan rwystro'r anifail rhag pori.
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n meddwl bod y clafr ar eich defaid, dywedwch wrth eich milfeddyg preifat ar unwaith.
Rhaid ichi drin a rheoli'r clafr yn eich diadell. Gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau cyfreithiol os na wnewch chi, o dan Orchymyn y Clafr 1997.
Arwyddion clinigol
Mae'n gallu bod yn anodd adnabod y clafr. Dylech chwilio am symptomau fel:
- colli gwlân
- crafu ofnadwy
- briwiau ar y croen
Trosglwyddo, atal a thriniaeth
Mae'r clafr yn cael ei ledaenu:
- trwy gysylltiad uniongyrchol â defaid heintiedig
- cysylltiad â mannau a gwrthrychau y mae defaid heintiedig newydd fod wrthyn nhw
Mae'r gwiddonyn sy'n achosi'r clafr yn gallu byw am hyd at 17 niwrnod oddi ar y ddafad.
I rwystro'r clafr rhag lledaenu, dilynwch y mesurau bioddiogelwch canlynol:
- rhoi stoc newydd mewn cwarantîn
- ynysu stoc sydd wedi'u heintio
- gosod ffensys dwbl
- rhoi profion gwaed i ddarganfod y clafr cyn i symptomau clinigol ymddangos
Gan ei bod hi'n gallu bod yn anodd adnabod y clafr, trafodwch y canlynol gyda'ch milfeddyg:
- unrhyw bryderon
- cynlluniau trin
- mesurau i amddiffyn eich diadell