Caiff ail Ŵyl Tân a Môr Harlech ei chynnal ar 27 Mai. A hithau'n Flwyddyn y Môr, bydd yr Ŵyl yn llwyfan i glywed chwedlau lleol a'u cysylltiadau â'r môr.
Ddydd Sul, adroddir hanes chwedl Meirion a'i frwydr i ffrwyno pŵer Torch hudol Harlech. Caiff yr ymwelwyr eu tywys wedyn i draeth Harlech lle gofynnir iddyn nhw adeiladu llinell amddiffynnol o Gestyll y Môr i wrthsefyll y seithfed don. Wrth iddi fachlud, bydd gwahoddiad i bawb ddod â'i bicnic neu ei farbeciw ac aros ar y traeth ar gyfer gweld Marchogion Ardudwy yn cynnau ac yn bwydo’r goelcerth. Yn ymuno â ni o gwmpas y tân y bydd cerddorion, cantorion a dawnswyr tân proffesiynol. Bydd Siân Miriam yno i adrodd hanes Meirion, y Morfeirch a Thorch Harlech gyda help y pypedwr adnabyddus, Owen Davies.
Ar drothwy ail Ŵyl Tân a Môr Harlech, bydd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas yn lansio Torch Harlech yn y ganolfan ymwelwyr, Castell Harlech ddydd Gwener, 25 Mai.
Bydd Andrew Coomber hefyd yn bresennol, y gof arian a gafodd ei gomisiynu i ddylunio a llunio Torch newydd Harlech gan Gymdeithas Twristiaeth Harlech. Mae'r Torch newydd wedi'i wneud o bum metr o arian, wedi'i euro ag aur ac enamel. Mae pen Meirion a morfarch wedi'u cerflunio ym mhob pen y Torch.
Cafodd Torch gwreiddiol Harlech ei lunio 1300-1150 CC, yn ystod cyfnod Pennard Oes Ganol yr Efydd fel y'i gelwir. Mae wedi'i wneud o bedair metr o aur wedi'i droelli, tebyg i'r math a gafwyd yn Tara. Cafwyd hyd i'r torch mewn gardd ger Castell Harlech ym 1692. Cewch ei weld heddiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'r Ŵyl yn ffordd wych o lwyfannu'r cyfoeth o storïau, mythau a chwedlau sydd gennym yng Nghymru - a'u rhannu ar eu newydd wedd ag ymwelwyr a phobl leol wrth inni ddathlu harddwch arfordir Cymru.
Gyda Chastell Harlech yn gefnlen i'r dathliadau, mae'n addo bod yn ddigwyddiad mawr ac rwy'n falch bod Croeso Cymru wedi gallu noddi'r gyfres o ddigwyddiadau.
Rwy'n disgwyl ymlaen at ddadorchuddio Torch Harlech fel atyniad ychwanegol ar gyfer y Castell a'r ganolfan ymwelwyr, yn dilyn buddsoddiad ac ers ailagor, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol o 13% yn nifer yr ymwelwyr ar y flwyddyn flaenorol i Gastell Harlech. "
Bydd ymwelwyr yn cael gofyn am gael tynnu'u lluniau'n gwisgo'r torch newydd pan fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael i helpu.