Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Ionawr 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar GOV.UK
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau dŵr (Ofwat), yn cyd-ymgynghori ar ganllawiau technegol Cynlluniau Rheoli Adnoddau dŵr (WRMPs) 2019 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cynllun adnodd dŵr yw’r broses a ddefnyddir gan gwmni dŵr i ddangos ei fod wedi asesu’r galw a’r cyflenwad tymor hir a chynnig cynllun fydd yn diwallu’r galw am ddŵr. Wrth wneud hynny dylid mynd i’r afael â her y dyfodol gan gynnwys twf y boblogaeth a’r economi amcanion Y Gyfarwyddeb Fframwaith dŵr ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr nodi’n glir yn eu cynllun y canlyniadau maent yn bwriadu eu cyflawni ar gyfer eu cwsmeriaid gan gynnwys gwytnwch eu cyflenwad wrth warchod yr amgylchedd. Os yw’r cwmnïau’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru rydym yn arbennig o awyddus i gwmnïau dŵr i weithio mewn ffordd sy’n fwy integredig gan ddilyn egwyddorion rheoli adnoddau naturiol gan gynnwys mesurau arbed dŵr a mynd i’r afael a gollyngiadau.
Mae ein hymgynghoriad i’w weld ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (dolen allanol, Saesneg yn unig).