Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas yn galw ar sêr ffilm a theledu y dyfodol i gamu i'r goleuni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Diverse Cymru yn cynnal digwyddiad ar 20 Tachwedd i ddangos i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli sut y gallan nhw fod yn rhan o'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd â nifer o bartneriaid gan gynnwys y BBC, S4C a BAFTA Cymru a bydd yn dangos y swyddi sydd ar gael yn y diwydiant a helpu pobl i gael eu traed heibio'r drws.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Dyma gyfle cyffrous i ddangos i unigolion sydd ddim falle wedi meddwl am yrfa mewn ffilm neu deledu, fod popeth yn wir yn bosib. Mae gweld mwy o amrywiaeth yn y diwydiant yn bwnc rwy'n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch a fis diwetha, ces i'r pleser o gefnogi galwad Hijinx y dylai actor ag anabledd dysgu ennill un o wobrwyon BAFTA erbyn 2025.

“Rwy'n gwbl gefnogol i'w hamcan y dylai'r sgrin cynrychioli cymdeithas fel y mae. Mae'n dda iawn gweld y gefnogaeth y maen nhw wedi'i chael gan y diwydiant ac rwy'n ffyddiog y gall Cymru arloesi, gyda chefnogaeth mudiadau pobl ag anableddau dysgu, i newid yr wyneb sy'n cael ymddangos ar y sgrin fach a'r sgrin fawr.

“Anogais i'r rheini oedd am ddysgu mwy am y llwybr gyrfaol hwn i ddod i'r digwyddiad".

Mae'r digwyddiad yn ddi-dâl ac mae'n targedu grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant ffilm a theledu: Menywod, Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, LGBT+ a grwpiau economaidd-gymdeithasol isel. Nid oes angen profiad o weithio yn y diwydiant ac rydyn ni hefyd yn annog pobl sydd â sgiliau trosglwyddadwy i ddod - pobl trin gwallt, colurwyr, gwniedyddion neu deilwriaid, seiri, trydanwyr a chyfrifwyr ymhlith eraill.

Dywedodd Zoё King, Rheolwr Cyllido a Phrosiectau yn Diverse Cymru:

"Mae nifer y swyddi creadigol yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru yn cynyddu, ond mae ymchwil Diverse Cymru ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos bod tystiolaeth nad yw'r grwpiau rydyn ni'n eu targedu i'w cael i ddod i'r digwyddiad yn cael eu cynrychioli'n deg yn y diwydiant.

Trwy ddod â chynrychiolwyr darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu annibynnol, colegau a chymdeithasau crefftwyr ynghyd, mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i bawb sydd wedi holi ai dyma'r diwydiant iddyn nhw, a yw eu sgiliau'n berthnasol neu ba yrfaoedd neu hyfforddiant sydd ar gael.

Rydyn ni am annog pawb i ddod draw a gweld drostyn nhw eu hunain."

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o waith ehangach i gynyddu amrywiaeth yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru. Mae'n dilyn adroddiad yn 2016 ar y rhwystrau i weithio yn y diwydiant ac atebion posib.

Dysgwch fwy am y digwyddiad di-dâl hwn yma: https://llyw.cymru/amrywiaethmewnffilmatheledu