Heddiw, mae deddfwriaeth yn cyflwyno treth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru – un o'r trethi cyntaf i gael ei gwneud yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd – wedi cael Cydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn disodli'r Dreth Dirlenwi bresennol yng Nghymru pan fydd yn cael ei datganoli ym mis Ebrill 2018. Bydd y cyllid sy’n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.


Mewn seremoni selio swyddogol heddiw, bydd y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn dod yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hon yw'r drydedd Ddeddf, a’r olaf, mewn cyfres i sefydlu trethi newydd yng Nghymru.   


Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan fydd Breinlythyrau o dan y Sêl Gymreig wedi'u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi ei hun i ddatgan Ei Chydsyniad yn cael eu cyhoeddi i Glerc y Cynulliad. 


Bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn rhoi'r Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau yn ystod y seremoni selio, a bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, hefyd yn bresennol.


Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:  

“Mae'r Ddeddf hon yn gam pwysig arall yn ein taith ddatganoli wrth inni baratoi i gyflwyno pwerau trethi ym mis Ebrill 2018. 

“Y flwyddyn nesaf byddwn yn gweld datganoli yn aeddfedu ymhellach wrth inni gymryd y cyfrifoldeb dros godi cyfran o'n cyllideb i wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 


"Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a'r Dreth Trafodiadau Tir fydd y trethi cyntaf i gael eu gwneud yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd. Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran polisi gwastraff ac mae'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn elfen bwysig i gyflawni ein nod uchelgeisiol o ddyfodol diwastraff yng Nghymru."


Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: 

"Cafodd y Ddeddf hon ei datblygu drwy gydweithio a gyda chefnogaeth ar draws yr holl bleidiau. 

“Mae'n amlwg o fudd i'r cyhoedd inni sicrhau bod y systemau trethi newydd rydyn ni'n ei sefydlu ar gyfer mis Ebrill 2018 yn gyfarwydd i'r rheini a fydd yn gorfod eu gweithredu o ddydd i ddydd.  Bydd y prosesau a'r agwedd at gyfraddau trethi yn debyg er mwyn rhoi sefydlogrwydd a thawelwch meddwl i fusnesau. 


“Mae'r Ddeddf hon wedi ei chynllunio i fod yn gyfoes, yn syml i'w chymhwyso ac yn hawdd ei deall. Bydd hi'n adlewyrchu arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf a fydd yn berthnasol i Gymru. 


“Ond, mae yna wahaniaethau allweddol hefyd rhwng y Dreth Dirlenwi bresennol a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Er enghraifft, o dan ein Deddf ni, gellir codi treth ar warediadau gwastraff heb eu hawdurdodi er mwyn rhoi cymhelliad ariannol i bobl beidio â chael gwared ar eu gwastraff fel hyn.  Mae gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi yn difetha ein cymunedau; maen nhw'n ffordd o efadu trethi ac maent yn rhoi busnesau gwastraff cyfreithlon o dan anfantais. 


“Mae'r gweithgarwch hwn yn annerbyniol. Rydw i am annog unigolion i fynd â'u gwastraff i safleoedd tirlenwi a thalu cyfran deg o dreth a fydd yn mynd tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.” 


Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sefydlu Cynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn cefnogi prosiectau lleol i hyrwyddo neu wella lles cymdeithasol neu amgylcheddol cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford: 

"Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i lunio'r Ddeddf hon ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw wrth iddi gael ei gweithredu."