Neidio i'r prif gynnwy

Nod y Bil hwn yw atal tomenni segur (glo a di-lo) rhag bygwth lles dynol oherwydd ansefydlogrwydd.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 410 KB

PDF
410 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith at hawliau plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 472 KB

PDF
472 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 422 KB

PDF
422 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar prawfesur gwledig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 247 KB

PDF
247 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar ddiogelu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 438 KB

PDF
438 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 356 KB

PDF
356 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 224 KB

PDF
224 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad dyletswydd economaidd-gymdeithasol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 538 KB

PDF
538 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar sgrinio iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 242 KB

PDF
242 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o’r effaith ar gyfiawnder , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 489 KB

PDF
489 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae 2,573 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, yn bennaf yng nghymoedd y De, ac amcangyfrifir bod dros 20,000 o domenni eraill nas defnyddir (hy. tomenni nad ydynt yn domenni glo) yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2020, yn dilyn stormydd Ciara a Dennis, cafwyd cyfres o dirlithriadau ar domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys tirlithriad mawr ar domen nas defnyddir yn Tylorstown, ac ym mis Tachwedd 2024, achosodd Storm Bert dirlithriad ar domen lo nas defnyddir yng Nghwmtyleri. Mae’r tirlithriadau hyn yn dangos y risgiau posibl i gymunedau a berir gan domenni nas defnyddir.

Mae gan Gymru dreftadaeth lofaol y mae'n falch ohoni, ac mae'n hanfodol bod gennym ddull strwythuredig o reoli tomenni nas defnyddir i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i'n cymunedau. Nid yw'r fframwaith deddfwriaethol presennol yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomennni) 1969 bellach yn darparu fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yn yr unfed ganrif ar hugain. Ymrwymiad a blaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021, yw cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau diogelwch tomenni glo.  

Mae'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) ("y Bil") yn bodloni'r ymrwymiad hwnnw. Prif ddiben y Bil yw atal tomenni nas defnyddir - tomenni glo a thomenni nad ydynt yn lo - rhag bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd.  Bydd y Bil yn cyflawni hyn drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru ('yr Awdurdod'), a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.  

I grynhoi, mae'r Bil:

  • yn sefydlu'r Awdurdod fel corff corfforedig. Ei brif amcan wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Bil yw sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd, 
  • yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir, 
  • yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ymdrin â thomenni ansefydlog a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog tir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath,   
  • yn cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i ofyn am wybodaeth, ac
  • yn creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r gyfundrefn.

Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru), yn ogystal ag ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid allweddol yn ystod datblygiad y Bil.