Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfraith newydd a fydd yn cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn rhan o ymdrechion ehangach Llywodraeth Cymru i leihau lefelau goryfed a chydnabod yr effeithiau y gall hyn eu cael ar iechyd a llesiant pobl. 

Bydd y gyfraith newydd yn mynd i'r afael â phryderon iechyd hirdymor a phenodol ynghylch effeithiau goryfed alcohol, yr amcangyfrifir ei fod yn arwain at bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, gan gostio dros £150m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn flynyddol. Yn 2016, cafwyd 504 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Mae'r ddeddfwriaeth yn cefnogi strategaeth gynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag yfed peryglus a niweidiol drwy ddelio ag argaeledd a fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf.

Cafodd y Bil ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Mehefin. 

Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan fydd Breinlythyrau dan Sêl Gymreig ac â llofnod personol Ei Mawrhydi fel arwydd o’i Chydsyniad yn cael eu cyflwyno i Glerc y Cynulliad.Yna, daw'r Bil yn Ddeddf y Cynulliad. 

Rhoddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau yn y seremoni selio, yng nghwmni'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

“Mae'r ddeddfwriaeth hon yn mynd ati mewn ffordd synhwyrol a phenodol i ymdrin â phroblem real ac amlwg yng Nghymru heddiw. Bydd yn gwneud hynny drwy fynd i'r afael ag argaeledd a fforddiadwyedd alcohol rhad a chryf. 

"Mae gennym ni draddodiad balch yng Nghymru o weithredu i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae'r gyfraith newydd hon yn rhan o'n hymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru." 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Rwy'n hynod falch bod ein deddfwriaeth bwysig i fynd i'r afael ag argaeledd alcohol rhad a chryf yng Nghymru bellach yn gyfraith. 

"Y llynedd yn unig, bu farw dros 500 o bobl am resymau sy’n gysylltiedig ag alcohol a chafodd bron i 55,000 o bobl eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru am yr un rhesymau. Roedd cyfanswm y costau gofal iechyd uniongyrchol y gellir eu priodoli i alcohol tua £159m. 

"Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r cyfle inni wneud newid sylweddol. Mae'n rhoi cyfle inni wneud rhagor i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Ac yn y pen draw, mae'n rhoi cyfle inni wneud rhagor i geisio achub bywydau." 

Bydd y gyfraith newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafbris am alcohol a gyflenwir yng Nghymru. Bydd felly yn drosedd i gyflenwi alcohol islaw isafbris penodol a fydd y cael ei gyfrifo drwy ystyried yr isafbris uned hwnnw, cryfder yr alcohol a'i gyfaint, gan dargedu'n benodol alcohol rhad a chryf. 

Bydd y ddeddfwriaeth yn targedu swm yr alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol gyda'r nod o leihau'r swm hwn a lleihau'r effeithiau ar yfwyr cymedrol.

Bydd lefel yr isafbris uned at y diben hwn yn cael ei phennu mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru yn dilyn ymgynghoriad a fydd yn cael ei lansio yn yr hydref. 

Mae disgwyl i'r drefn newydd o osod isafbris ddod i rym yn ystod haf 2019.