Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi dweud bod y Bil Amaethyddiaeth, a gyflwynwyd yn Senedd y DU heddiw, yn gam pwysig ymlaen a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr yng Nghymru ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Bil yn rhoi sail gyfreithiol i gymorth i ffermwyr yn y dyfodol wrth inni newid o'r darpariaethau yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Ar gais Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Bil yn cynnwys pwerau newydd sylweddol ar gyfer Gweinidogion Cymru.

Bydd y pwerau hynny'n cael eu defnyddio tan i Fil Amaethyddiaeth Cymru gael ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol. Y bwriad yw cyflwyno Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Mae'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddechrau creu system unigryw Gymreig a fydd yn gweithio er lles ffermwyr Cymru, diwydiannau gwledig a'n cymunedau.

Ym mis Gorffennaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru ar ôl Brexit. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ar 30 Hydref. 

Dyma rai o’r pwerau arfaethedig a roddir i Weinidogion Cymru: 

  • pwerau ariannol newydd ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol
  • casglu a rhannu data
  • pwerau i ymyrryd pan fo'r amodau yn y farchnad yn rhai eithriadol
  • pennu safonau marchnata
  • addasu'r rhannau hynny o gyfraith yr UE a fydd yn cael eu cadw ac sy’n ymdrin â chyllido, rheoli a monitro taliadau i ffermwyr, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol sy'n rhan o’r PAC.

Mae'r darpariaethau ar gyfer Cymru sydd yn y Bil yn debyg iawn i'r darpariaethau a fwriedir ar gyfer Lloegr. Yn ogystal â nifer bach o wahaniaethau technegol, mae'r pwerau ar gyfer Cymru hefyd yn cynnwys pwyslais ar gefnogi cymunedau gwledig a busnesau sy'n rhan o gadwyni cyflenwi. 

At ei gilydd, pwerau galluogi yw'r rhain sy'n gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau penodol i Gymru gerbron Cynulliad Cymru er mwyn iddo ef gael craffu arnynt. Ni fydd rheoliadau'n cael eu cyflwyno tan i'r broses ymgynghori ddod i ben. Yn “Brexit a’n Tir”, ymrwymwyd i gyflwyno papur gwyn yng ngwanwyn 2019.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit sy'n caniatáu inni barhau i gefnogi ffermwyr ac i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.   

“Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio i Gymru ac mae'n rhoi pwerau newydd sylweddol inni.    Mae'r Bil yn rhoi'r rhyddid a'r hyblygrwydd inni fwrw 'mlaen â'n cynigion ein hunain ar gyfer system gymorth i ffermwyr a fydd yn cael ei chreu yma yng Nghymru. 

“Er ein bod, at ei gilydd, yn cefnogi'r Bil fel y mae wedi’i ddrafftio, mae dau fater heb eu datrys – Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth a'r Ardoll Cig Coch.

“Yn ôl Llywodraeth y DU, mae Sefydliad Masnach y Byd yn fater a gadwyd yn ôl ond dwi'n gwbl glir fy meddwl y gallai'r pwerau hyn gael effaith sylweddol ar gymhwysedd datganoledig. Mae angen inni gytuno ar well proses ar gyfer rheoli'r rhan bwysig hon o gymorth amaethyddol. 

“Dwi’n siomedig nad oes darpariaethau yn y Bil i wella'r ffordd mae'r Ardoll Cig Coch yn gweithio. Mae'n bwysig bod y diwydiant cig coch yn gallu cael gafael ar gyllid er mwyn iddo fedru paratoi yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit ac ymateb i'r newidiadau anochel a ddaw i’w ganlyn.  Mae angen newidiadau deddfwriaethol a fydd yn sail i drefniadau a fydd yn caniatáu i'r ardoll gael ei dosbarthu mewn ffordd decach a mwy cynrychiadol.  Mae'r Bil yn gyfle amserol a phriodol i wneud hynny a dwi'n parhau i bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth er mwyn cadw at ei ymrwymiad i ddatrys y mater hwn, sy'n bodoli ers tro, drwy gyfrwng y Bil.    

“Mae cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig ymlaen wrth inni newid i ffordd o roi cymorth i amaethyddiaeth a fydd yn adlewyrchu anghenion a dyheadau diwydiannau Cymru, yn unol â’r cynigion yn ein hymgynghoriad ar Brexit a'n Tir.”