Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r BBI Group yn crynhoi ac yn ehangu ei holl weithgareddau gweithgynhyrchu ym Mhrydain mewn un safle yng Nghaerffili.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan y BBI Group nifer o gyfleusterau gweithgynhyrchu yn y DU ynghyd â phrif swyddfa yng Nghaerdydd.  Ar ôl ymchwiliad mewnol, penderfynwyd symud i Barc Technoleg Border, Crymlyn lle bydd y cwmni’n gallu dod â’i holl waith gweithgynhyrchu a datblygu sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnal ym Mlaenafon, Caerdydd a Dundee o dan yr un to, gan greu prif swyddfa ryngwladol ar gyfer y Grŵp a Chanolfan o Ragoriaeth ar gyfer nifer o ffrydiau technoleg a.

Gyda grant gan Lywodraeth Cymru o £1.8m, bydd y buddsoddiad yn arwain at gynyddu nifer ei swyddi yng Nghymru o 180 i 366 erbyn 2020.  Bydd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa yn y Cymoedd, gan feithrin cysylltiadau clos â’r gymuned wyddonol ac academaidd a rhoi hwb mawr i’r economi leol. 

Mawr oedd croeso Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates i’r newyddion heddiw a dywedodd: 

“Mae’r BBI Group yn stori lwyddiannus o Gymru; cwmni hynod lwyddiannus a strategol bwysig yn y sector gwyddorau bywyd rhyngwladol. 

“Rwy’n neilltuol o falch bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau’r buddsoddiad mawr hwn i Gymru. Cafodd y cwmni ei sefydlu ym 1986 fel un o sgil-gwmnïau Prifysgol Cymru.  Mae wedi tyfu ac erbyn hyn mae ganddo drosiant o £60m a bydd y prosiect ehangu hwn yn diogelu dyfodol cynaliadwy tymor hir i’r cwmni yng Nghymru. 

“Yn ogystal â chreu a diogelu nifer dda o swyddi o ansawdd uchel, bydd hefyd yn helpu’r economi leol trwy wario mwy nag £1m bob blwyddyn ar gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi.  Hefyd, bydd gwaith ailwampio a dodrefnu’r adeilad yn cynnal gwerth rhyw 75 o swyddi amser llawn yn y diwydiant adeiladu.”

Mae’r BBI Group yn gweithredu yn y farchnad ddiagnosteg ryngwladol, yn cynhyrchu ensymau a phrofion dadansoddi ar gyfer ystod eang o glefydau yn ogystal â datblygu proteinau i’w defnyddio mewn meinwe meithrin celloedd. 

Dywedodd y Pennaeth, Lyn Rees: 

Mae’r buddsoddiad hwn yn gam mawr at wireddu’n nodau strategol.  Trwy fuddsoddi yn yr ochr weithgynhyrchu yng Nghymru, rydym yn meithrin ein gallu i dyfu yn y tymor hir. 

“Yn ein huned fodern yng Nghrymlyn, byddwn yn gallu gweithio’n fwy effeithiol ac at safon reoleiddio uwch, gan roi’r pedigri inni allu cystadlu’n well yn ein marchnadoedd twf yn Ewrop, UDA a China.  Mae gan yr uned gysylltiadau penigamp â choridor yr M4 a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.”

“Testun cyffro inni yw cael dechrau ar y cam newydd hwn yn natblygiad y cwmni, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Caerffili.” 

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

“Mae’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru’n parhau i fynd o nerth i nerth ac yn sicr, mae’n ennill enw mawr iddo’i hun yn y wlad hon a thu hwnt fel lle da i wneud busnes. 

“Mae’n hanfodol er lles yr economi ac er mwyn creu swyddi o ansawdd uchel bod mwy o waith ymchwil, datblygu ac arloesi’n cael ei gynnal yng Nghymru ac mae ein hymrwymiad i wella’n sgiliau STEM yn ddiwyro. 

“Mae gennym nifer o ymchwilwyr a chwmnïau o fri rhyngwladol yn gweithio ym maes meddygaeth ddiagnostig ac aildyfu, ac wrth i BBI ehangu, bydd hynny’n sicr o symbylu rhagor o dwf a chodi proffil yr hyn y gall Cymru ei gynnig yn y sector pwysig hwn.”