Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ystyried a ddylid bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladau trydedd bont dros y Fenai.

Statws:
Wedi oedi
Rhanbarth / Sir:
gogledd Cymru (Gwynedd/Ynys Môn)
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn

Cyhoeddodd yr adolygiad ffyrdd ei adroddiad terfynol yn 2023. Mewn ymateb i'r argymhellion hyn gwnaethom ofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru edrych ar sut y gellid gwneud cysylltiadau trafnidiaeth i Ynys Môn ac yn ôl yn fwy cadarn.

Mae argymhellion y Comisiwn ar gael i’w ddarllen yma.

Bydd ein hymateb ffurfiol i’r adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn fuan. 

Cefndir

Mae’r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Hon yw prif ffordd economaidd Gogledd Cymru ac mae’n rhan o lwybr yr Euro 22 ar y rhwydwaith ffyrdd ledled Ewrop.

O dan ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi yn y ffyrdd gwnaethom archwilio ffyrdd ar gyfer: 

  • gwella capasiti, cadernid ac amser siwrneiau dros y Fenai 
  • gwella cadernid y rhwydwaith
  • gwella cyfleoedd ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl nad ydynt yn gyrru 
  • gwella diogelwch.

Roedd hyn yn cynnwys: 

  • ystyried llwybrau posibl ar gyfer trydedd bont 
  • ymgynghori â’r chyhoedd 
  • achos busnes ar gyfer trydedd bont dros y Fenai 
  • penderfynu ar lwybrau a ffefrir.

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau yw un o’r ffyrdd i ni gael adborth ar brosiect

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau