Rydym yn ystyried a ddylid bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladau trydedd bont dros y Fenai.
Trosolwg
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Cyhoeddodd yr adolygiad ffyrdd ei adroddiad terfynol yn 2023. Mewn ymateb i'r argymhellion hyn gwnaethom ofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru edrych ar sut y gellid gwneud cysylltiadau trafnidiaeth i Ynys Môn ac yn ôl yn fwy cadarn.
Mae argymhellion y Comisiwn ar gael i’w ddarllen yma.
Bydd ein hymateb ffurfiol i’r adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn fuan.
Cefndir
Mae’r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Hon yw prif ffordd economaidd Gogledd Cymru ac mae’n rhan o lwybr yr Euro 22 ar y rhwydwaith ffyrdd ledled Ewrop.
O dan ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi yn y ffyrdd gwnaethom archwilio ffyrdd ar gyfer:
- gwella capasiti, cadernid ac amser siwrneiau dros y Fenai
- gwella cadernid y rhwydwaith
- gwella cyfleoedd ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl nad ydynt yn gyrru
- gwella diogelwch.
Roedd hyn yn cynnwys:
- ystyried llwybrau posibl ar gyfer trydedd bont
- ymgynghori â’r chyhoedd
- achos busnes ar gyfer trydedd bont dros y Fenai
- penderfynu ar lwybrau a ffefrir.