Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl Cymru’n dal i yfed gormod o alcohol – ac un o bob pump o oedolion yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell mewn canllawiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth nodi dechrau’r Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd bod alcohol yn rhan o fywyd cymdeithasol llawer o bobl Cymru ond, fel yn achos sawl peth arall, ‘gormod o ddim nid yw dda’ ac mae yfed gormod o alcohol yn gallu bod yn risg. Mae yfed llai ohono yn lleihau’r risg o ddioddef clefydau hirdymor yn nes ymlaen yn ein bywydau. 

Gall y niwed i iechyd pobl ddigwydd naill ai oherwydd y risg gyson o ddamweiniau difrifol yn gysylltiedig ag alcohol, neu oherwydd clefydau hirdymor. Gallai’r rhain gynnwys gwahanol fathau o ganser, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu a niwed i’r ymennydd. Gallant gymryd hyd at ugain mlynedd i ddatblygu er bod pobl yn yfed yn y cyfamser heb fod unrhyw arwydd amlwg o niwed,

Yn 2017 cafwyd 540 o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, sef cynnydd o 7.1% ers y flwyddyn flaenorol, ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ostwng y nifer hwn.

Mae nifer o newidiadau y gall rhywun ei wneud i leihau’r risg o niwed yn sgil alcohol. Mae gwefan Alcohol Concern Cymru, YfedDoethCymru.org.uk, yn cynnig adnoddau a chynghorion amrywiol i helpu pobl i barhau i fwynhau alcohol gan leihau eu risg yr un pryd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau i leihau lefelau yfed drwy’r camau canlynol:

  • darparu triniaeth o safon uchel drwy leihau niwed sylfaenol a chynnig cyngor arall; triniaeth ddadwenwyno; gofal preswyl, ac atal pobl rhag troi’n ôl at eu harfer blaenorol; 
  • sefydlu llinell gymorth benodol - mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ddwyieithog sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth bellach neu gymorth ynglŷn â chyffuriau ac alcohol. Yn 2017/18 cafodd 5,151 o alwadau eu gwneud i DAN 24/7, sef 26% o gynnydd o’i gymharu â 2016/17. Mae’r ymweliadau â’r wefan wedi cynyddu 92% yn ystod yr un cyfnod.
Mae hyn wedi arwain at nifer o lwyddiannau:
  • mae nifer yr unigolion a gafodd eu derbyn i’r ysbyty gyda chyflwr yn ymwneud yn benodol ag alcohol wedi gostwng 8.8% yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae’r derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cyflyrau penodol yn ymwneud â phobl ifanc (o dan 25) wedi gostwng 25.5% dros y pum mlynedd ddiwethaf - 953 o bobl a dderbyniwyd i’r ysbyty yn 2017-18;
  • Mae nifer y derbyniadau i’r ysbyty o ran ffetysau a babanod newydd-anedig a effeithiwyd oherwydd bod y fam yn yfed alcohol neu’n cymryd cyffuriau caethiwus eraill, neu yn y broses o gael ei diddyfnu oddi wrthynt, wedi parhau’n sefydlog iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd 64 o dderbyniadau ar gyfer ffetysau a babanod newydd-anedig yn y categori hwn yn 2017-18 – yr isaf yn y degawd diwethaf. 
Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cynulliad Cenedlaethol Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, sy’n rhoi sylfaen gyfreithiol i fynd i’r afael â’r pryderon hirdymor a phenodol ynglŷn ag effeithiau yfed gormod o alcohol - er mwyn gwella a diogelu iechyd pobl Cymru.

Wrth siarad ar ddechrau’r Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae camddefnyddio alcohol yn fater pwysig o ran iechyd y cyhoedd ac mae’n effeithio ar les unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn 2017, roedd 540 o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Bydd marwolaethau’r unigolion hyn wedi bod yn ergyd fawr i’w teuluoedd a’u ffrindiau, ond gallai llawer o’r marwolaethau fod wedi cael eu hosgoi.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau bod llai o alcohol cryf a rhad ar gael, drwy gyflwyno isafbris ar gyfer alcohol. Ond nid dim ond yfwyr trwm sy’n dioddef yr effaith. Mae yfwyr cymedrol hefyd yn amharu ar eu hiechyd a’u disgwyliad oes drwy yfed gormod o unedau bob wythnos.

“Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod ein camau gweithredu ni yn achub mwy byth o fywydau – ond mae’n rhaid inni feithrin perthynas lawer iachach ag alcohol yn ein cymdeithas. Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yw’r amser delfrydol i bobl aros a meddwl cyn estyn y botel.”