Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad blynyddol yw Wythnos Hinsawdd Cymru sy’n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd i drafod y newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dydd Llun 21 it Dydd Gwener 25 Tachwedd 

Thema: Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd 

Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 7 a 18 Tachwedd). 

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda rhith-gynhadledd 2 i 3 diwrnod, lle bydd cyrff Tîm Cymru a Negeseuwyr Dibynadwy yn trafod rôl y cyhoedd (unigolion) o ran gweithredu ar newid hinsawdd. Bydd y rhith-gynhadledd yn edrych hefyd ar heriau taclo’r bygythiadau a ddaw yn sgil hinsawdd sy’n newid law yn llaw â’r argyfwng costau byw. Byddwn yn ystyried beth yw’r atebion i’r her dwbl hwn i aelwydydd ledled Cymru. 

Cynhelir rhaglen ymylol newydd o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos er mwyn ennyn grwpiau newydd i drafod y newid yn yr hinsawdd. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhan o gam olaf yr ymgynghoriad agored ar ddrafft newydd o ‘Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd’ a gyhoeddir yn yr wythnosau nesaf.  Bydd y Strategaeth yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid Tîm Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ennyn diddordeb a chefnogi pobl Cymru i weithredu ar newid hinsawdd.  Bydd arian ar gael ar gyfer partneriaid sydd â chysylltiadau cryf â’r grwpiau hyn, i’w helpu i drefnu digwyddiadau a gweithdai lleol. 

Os hoffech gymryd rhan yn y rhith-gynhadledd neu gynnal digwyddiad neu weithdy ymylol, yna e-bostiwch decarbonisationmailbox@gov.wales.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Hinsawdd Cymru ac am ddeddfwriaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru ar ei hymrwymiad i’r newid yn yr hinsawdd, cofrestrwch ar gyfer y Bwletin Newid Hinsawdd.