Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o gynadleddau a rhith ddigwyddiadau rhwng 2 a 6 Tachwedd 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ yn nodi dyddiad Cynhadledd wreiddiol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP26) ac yn dechrau cyfri’r dyddiau nes dyddiad newydd COP26 a’n Cynllun Cyflawni nesaf (LCDP2).

Bydd yn cynnwys darllediadau byw digidol am ddim a digwyddiadau rhyngweithiol gan wneuthurwyr polisi cenedlaethol a byd-eang ac arloeswyr. Byddant yn trafod ac yn cwestiynu’r camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a hynny mewn cyd-destun o bandemig byd-eang. 

Mae'r cofrestriad bellach ar agor 

Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar wefan y platfform.