Neidio i'r prif gynnwy

Mae TrawsCymru, y gwasanaeth bws pellter hir yng Nghymru, yn dathlu ei bennod nesaf sy'n cyd-daro'n berffaith ag Wythnos Dal y Bws, diolch i £2.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y grant wedi galluogi Cyngor Sir Powys, a redodd y tendr a arweiniodd at Stagecoach yn ennill y contract saith mlynedd, i brynu 12 bws newydd llawr isel sy'n cydymffurfio â manyleb lawn TrawsCymru. Wedi'u pweru gan y genhedlaeth ddiweddaraf o injans Euro 6, mae'r bysiau yn defnyddio ynni'n effeithlon ac yn allyrru ychydig iawn o lygredd.

Bydd barn teithwyr yn cael ei ystyried wrth brynu cerbydau newydd. Felly, bydd ganddynt silffoedd bagiau ychwanegol, pwynt gwefru USB ar gefn pob sedd a WiFi am ddim.

Byddant yn teithio fis hwn ar y gwasanaethau T4 a T14 pwysig sy'n cysylltu'r Drenewydd a Henffordd/y Gelli ag Aberhonddu, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 

"Mae'n wych dathlu newyddion da o Gymru yn ystod Wythnos Dal y Bws sy'n dathlu gwasanaethau bysiau ledled y DU.

"Mae rhwydwaith TrawsCymru yn stori newyddion dda sy'n dangos yr hyn y mae modd ei wneud i gynyddu nifer y teithwyr sy'n teithio ar fysiau gan wella gwasanaethau yng nghefn gwlad ar yr un pryd.

"Gan barhau i fod yn asgwrn cefn y rhwydwaith trafnidiaeth integredig ar draws Cymru, mae TrawsCymru yn parhau i ddatblygu i gynnig gwasanaethau gwell.

"Mae TrawsCymru wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y 12 mis diwethaf. Diolch yn rhannol i'n penderfyniad i gynnig teithio am ddim ar benwythnosau, roedd 2.5 miliwn o deithiau wedi'u gwneud gan deithwyr ar y rhwydwaith yn 2019-19 sy'n gynnydd o 45% o gymharu â 823,000 o deithwyr yn 2013/14 pan ofynnwyd i Sefydliad Bevan ddarparu glasbrint i ddatblygu'r rhwydwaith.

"Roedd y gwasanaethau T4 a T14 yn gyfrifol am fwy na hanner miliwn o deithiau gan deithwyr yn 2018-19 ac mae cyflenwi'r ddau wasanaeth allweddol hyn wedi diogelu dros 40 o swyddi yn nepos Stagecoach yn y De a'r Canolbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a'r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth Gyhoeddus:

Rydym yn hynod falch ein bod wedi llwyddo i reoli'r gwaith o gaffael a chyflenwi contractau ar gyfer gwasanaeth T4 dros y 10 mlynedd ddiwethaf a bod nifer y teithwyr wedi cynyddu.

Mae hyn wedi bod yn bosibl diolch i'r berthynas gadarn sydd gennym gyda Llywodraeth Cymru. Mae wedi buddsoddi'n sylweddol mewn seilwaith ar hyd y llwybr, gan gynnwys cyfleusterau aros newydd a systemau gwybodaeth amser real.

Edrychwn ymlaen at barhau i gynnal y berthynas lwyddiannus hon gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod mwy o bobl yn dewis teithio ar y coridor T14 newydd a chroesawu ei buddsoddiad yng nghoridorau T12 a T6. 

Dywedodd Nigel Winter: 

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi ymuno â'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a bwrdd TrawsCymru er mwyn dathlu cyflwyno 12 o fysiau Volvo B8 MCV newydd sbon ar gyfer gwasanaethau T4 a T14. 

Trwy gydweithio â'n partneriaid rydym wedi gwella amserlenni'r gwasanaethau. Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys rhagor o deithiau, cysylltiadau newydd ers mis Medi 2018 a phrisiau teithio rhatach ar rai rhannau o'r llwybr masnachol. 

Bydd y bysiau newydd a gaiff eu lansio gan y Dirprwy Weinidog heddiw yn creu newid sylweddol ac yn cyflawni teithiau bws mwy gwyrdd a mwy caredig i'r amgylchedd gyda bysiau Volvo B8 euro 6 sydd ag allyriadau is. 

“Gall ein cwsmeriaid edrych ymlaen at fysiau mwy cyfforddus, mynediad at gyswllt wifi am ddim a mannau gwefru usb. Bydd ein tîm ymroddedig o yrwyr yn darparu gwasanaethau T4 a T14 ar gyfer ein holl gwsmeriaid ar ran TrawsCymru."