Mewn siopau ac archfarchnadoedd yng Nghymru, rhaid gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol o 2 fetr er mwyn helpu i rwystro’r Coronafeirws rhag lledaenu, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Gyda nifer yr achosion o Covid-19 ar gynnydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau a mannau caeedig cyhoeddus eraill yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech gyffredinol i Gadw Cymru’n Ddiogel.
Mae’r canllawiau yng Nghymru’n dal i ofyn i bobl gadw dau fetr o bellter rhyngddynt â’i gilydd, heblaw â phobl o’r un aelwyd neu â’u gofalwyr.
Rhaid cadw at y cyngor ar gadw pellter ym mhob man, gan gynnwys mewn siopau ac archfarchnadoedd.
Dywedodd y Gweinidog:
“Bydd y rheol newydd ynghylch gwisgo mwgwd mewn siopau yn ein helpu i rwystro’r feirws rhag lledaenu, ac wrth reswm, rydym yn disgwyl i bawb gadw at y rheol.
“Wedi dweud hynny, rwyf am i bawb gofio nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn golygu na ddylen nhw hefyd gadw pellter cymdeithasol. Gan fod rhywun yn gwisgo mwgwd, nid yw hynny’n golygu na ddylai anwybyddu’r canllawiau ynghylch cadw pellter, hyd yn oed os ydy pawb o’i gwmpas hefyd yn gwisgo gorchudd wyneb.
“Er bod gwisgo gorchudd wyneb yn gallu helpu ac yn helpu, mae’r manteision yn llai os nad yw pobl yn cadw hefyd at y cyngor ynghylch cadw pellter.”
Dywedodd hefyd:
“Mae cyfrifoldeb personol ar siopwyr i gadw pobl eraill yn ddiogel trwy gadw at y canllawiau, ac i gadw 2 fetr o bellter rhyngddynt â phawb arall bob amser. Cyfrifoldeb y cyhoedd a busnesau fel ei gilydd yw rheoli’r feirws.
“Rydym am i bobl gofio wrth siopa hefyd y gallai rhai o’u cyd-siopwyr fod yn fregus o ran eu hiechyd ac yn fwy agored i niwed Covid-19. Byddan nhw felly’n awyddus i sicrhau bod pawb yn cadw at y cyngor ynghylch cadw pellter.
“Mae gan archfarchnadoedd eu canllawiau a’u protocolau eu hunain i wneud yn siŵr bod siopwyr yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd.
“Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i siopau a mannau eraill sy’n agored i’r cyhoedd gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, gan gynnwys mesurau i sicrhau bod pobl yn cadw pellter o ddau fetr.
“Os bydd yna bryderon, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol allu cymryd camau yn erbyn archfarchnadoedd, siopau a sefydliadau eraill sy’n torri’r rheolau ac sydd ddim yn gwneud popeth yn eu gallu i gadw pobl yn ddiogel.
“Ar ben hynny, mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir, yn ogystal â chymryd camau yn eu herbyn os na fyddan nhw’n cadw at y canllawiau, y byddan nhw hefyd yn dioddef drwg i’w henw da, ac yn colli hyder eu siopwyr.”