Neidio i'r prif gynnwy

Gall teithwyr ledled Cymru fanteisio ar Wi-Fi am ddim ar bob un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r £1.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod holl drenau Arriva Cymru, gan gynnwys trenau Pacer, Class 153’s, a’r cerbydau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer yr Express gogledd-de wedi eu hôl-osod i gynnig Wi-fi am ddim i bob teithiwr.  

Bydd y sticer canlynol ar bob trên:

Bydd taflenni gwybodaeth ar gael mewn gorsafoedd a bydd Arriva hefyd yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth i deithwyr, gan rannu siocledi ‘Caru Wi-fi am Ddim’ mewn cyfnewidfeydd prysur.  

Wrth siarad mewn digwyddiad lansio i nodi bod y prosiect Wi-fi wedi’i gwblhau, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth:  

“Mae’r cynllun hwn yn hwb mawr i gymudwyr a defnyddwyr busnes fel ei gilydd.  Rwy’n disgwyl iddo wneud cyfraniad gwirioneddol i’n huchelgeisiau o economi sy’n ffynnu, gyda busnesau cryf mewn rhanbarthau cynhyrchiol fel a amlinellir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd Ffyniant i Bawb.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod ein buddsoddiad yn golygu bod gan ein trenau Pacer,  Dosbarth 153, a’r cerbydau a ddefnyddir ar ein trenau Express o’r gogledd i’r de Wi-fi am ddim bellach i bob teithiwr.  Mae’r trenau hyn yn oddeutu un rhan o dair o’r fflyd.  

“Bydd teithwyr ledled rheilffordd Cledrau’r Cymoedd a Gorllewin Cymru – gan gynnwys Rheilffordd Calon Cymru – bellach yn elwa o’r cysylltedd hanfodol hwn.  Dyma enghraifft arall o’n hanes o fuddsoddi yn y fasnachfraint reilffordd bresennol, ble yr ydym yn parhau i ariannu gwasanaethau a chapasiti ychwanegol ledled Cymru.”   

Meddai Ian Price, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld newid agwedd pendant ynghylch pwysigrwydd cysylltedd ym myd busnes.  

“Bu hefyd dwf sylweddol mewn cymwysiadau cyfrifiadurol o bell, gyda data a phrosesu’n digwydd mewn ‘cwmwl’.  Mae mentrau bychain a mawr bellach yn defnyddio mwy ar gymwysiadau ar y rhyngrwyd i reoli eu busnesau.

“Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yng nghyd-destun y berthynas rhwng y cyflenwr a’r client; ble y mae nid yn unig y cyflymder mynediad yn hollbwysig, ond hefyd ble y mae cyflymder yr ymateb i gynnwys, delweddau a data y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn ffyrdd o benderfynu pa mor effeithiol yw busnes wrth ymateb i anghenion eu cwsmeriaid.”  

Meddai Tom Joyner, Rheolwr-gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru:

“Mae’r ffaith y bydd pob un o’n cwsmeriaid yn gallu defnyddio ein wi-fi am ddim ar bob un o’n trenau yn newyddion gwych, ac rydym yn falch o nodi bod y prosiect hwn wedi’i gwblhau.  

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cysylltedd, a bydd gallu bod yn gynhyrchiol yn ystod eich taith, edrych ar eich cynlluniau i deithio ymlaen, neu dim ond edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cwsmeriaid.”

“Mae cwsmeriaid wedi holi yn aml am Wi-fi ar ein trenau, a bu hwn yn brosiect pwysig sydd wedi golygu cynllunio gofalus a channoedd o oriau staff i gyflawni hyn yn llwyddiannus heb gael effaith ar ein gwasanaethau.”