Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth a amlinellir yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn gyngor statudol, ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr. Ni fwriedir ychwaith iddi ddisodli'r rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sy'n berthnasol i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru – dylai partïon contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel y bo hynny’n briodol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson a dylid ceisio cyngor mewn perthynas â phob achos unigol.
  • Sylwch fod y ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol fel ag yr oedd yn 2017 ond byddwn yn ei hadolygu maes o law. Dilynwch ganllaw 2021 nes y caiff canllaw newydd ei gyhoeddi.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru ac ar Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (“PCR 2015” - SI 2015/102) ac mae’n gyson â nhw. Nid yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2020 (SI 2020/1319), a ddaeth yn weithredol o 1 Ionawr 2021, yn effeithio arnynt, ac mae'n cyd-fynd â'r Datganiad a'r Rheoliadau hynny.
  • Er bod y Nodyn Cyngor hwn wedi'i ysgrifennu'n bennaf i ymdrin â chosbrestru yn y diwydiant adeiladu, mae'r egwyddorion yr un mor berthnasol i ddiwydiannau / sectorau eraill.
  • Mae'r WPPN hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Llyw.Cymru a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at CommercialPolicy@llyw.cymru neu drwy bwynt cyswllt cyntaf gwasanaethau cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

1. Pwnc

1.1 Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn disodli'r Nodyn Cyngor Caffael a gafodd ei lunio gan Lywodraeth Cymru yn 2013 a'i ddiweddaru yn 2017. Mae'r Nodyn Polisi hwn wedi'i gynllunio i hysbysu Gyff Sector Cyhoeddus yng Nghymru am gosbrestru / defnyddio rhestrau gwahardd sy'n ymdrin ag unigolion yn y diwydiant adeiladu (neu unrhyw ddiwydiant arall).

1.2 Mae'r nodyn hwn egluro cefndir cosbrestru / defnyddio rhestrau gwahardd, ac yn amlinellu'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes hwn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.

1.3 Bydd y nodyn hwn o ddiddordeb penodol i staff sy'n gysylltiedig â'r gwaith o gaffael a darparu gweithgareddau adeiladu.

2. Dosbarthiad a chwmpas

2.1 Cyhoeddwyd y Nodyn Polisi hwn i fod o gymorth i bob GyffSector Cyhoeddus Cymru yng Nghymru, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r Nodyn Polisi hwn yn ymdrin â chontractau nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n cael eu darparu yng Nghymru, ond contractau gwaith (yn ymwneud ag adeiladu) sy’n cael y sylw pennaf.

2.2 Gofynnir ichi ddosbarthu'r Nodyn Polisi Caffael hwn ar draws eich sefydliad ac i sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw penodol y rhai sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid ato fe.

3. Cefndir ac arweiniad

3.1 Beth yw 'cosbrestru'?

3.1.1 Diffiniad Llywodraeth y DU o gosbrestru yw

'cyflogwyr a recriwtwyr yn casglu gwybodaeth am aelodau undebau llafur mewn ffordd systematig, a defnyddio'r wybodaeth honno i wahaniaethau yn erbyn yr unigolion hynny oherwydd eu bod yn aelod o undeb llafur neu oherwydd eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau undebau llafur.’

3.1.2 Cyfeirir at gosbrestrau mewn deddfwriaeth benodol fel 'rhestrau gwahardd' pan fyddant yn ymwneud â gweithgareddau undebau llafur. Fodd bynnag, gallai cosbrestr gynnwys fanylion am eraill unigolion sydd wedi adrodd am bryderon, er enghraifft, materion sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch a / neu'r amgylchedd.

3.1.3 Gall cosbrestru gael effaith niweidiol iawn ar yrfa a bywoliaeth unigolion y gwrthodwyd cyfleoedd cyflogaeth iddynt. Gwyddys bod cwmnïau adeiladu sy'n gweithredu yng Nghymru wedi defnyddio cosbrestru, a bod hyn wedi effeithio ar weithwyr adeiladu yn Nghymru.

3.1.4 Mae cosbrestru unigolion yn anghyfreithlon ac mae deddfwriaeth wedi cael ei rhoi ar waith i wahardd yr arfer hwn. Mae'n bwysig felly fod Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yng Nghymru yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae'n cael ei defnyddio.

3.2 Cefndir 'cofrestru’

3.2.1 Daeth y broblem o gosbrestru yn y diwydiant adeiladu i'r amlwg yn genedlaethol yn 2009. Roedd llawer o adroddiadau yn y cyfryngau fod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynnal ymchwiliad i fusnes preifat o'r enw The Consulting Association (TCA).

3.2.2 Canfu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod TCA wedi bod yn darparu gwasanaeth ar gyfer dros 40 o gwmnïau adeiladu, llawer ohonynt yn gwmnïau mawr yn y sector adeiladu, yn arfarnu addasrwydd unigolion i gael eu cyflogi. Daethant o hyd i gosbrestr a ffeiliau’n cynnwys gwybodaeth helaeth am dros 3,300 o unigolion ledled y DU a oedd yn cael eu defnyddio i fetio unigolion, a gwrthod cyflogaeth i bobl am resymau gan gynnwys bod yn aelod o undeb llafur neu am eu bod wedi codi pryderon ynghylch iechyd a diogelwch. Credir bod dros 100 o'r unigolion a nodwyd hyd yn hyn yn byw yng Nghymru.

3.2.3 Cafodd un o'r unigolion a oedd yn gweithredu TCA ei erlyn yn dilyn hynny a chafodd ddirwyo am fethu cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998, a methu cofrestru fel rheolydd data.

3.3 Y Sefyllfa ym Mis Tachwedd 2021

3.3.1 Llywodraeth Cymru

3.3.1.1 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i gosbrestru mewn modd cadarn, a hi oedd y llywodraeth gyntaf i'w gondemnio'n gyhoeddus. Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ar y pryd, Ddatganiad Ysgrifenedig yn condemnio defnyddio cosbrestrau.

3.3.1.2 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd fersiwn gyntaf o'r Nodyn Cyngor Caffael hwn, yn amlinellu'r camau gweithredu cryfaf posibl y gellir eu cymryd drwy gaffael yn y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â'r problemau mae cosbrestru yn eu peri, mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae'r Nodyn Cyngor hwn bellach wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu datblygiadau yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Nodyn Polisi Caffael diwethaf hwn yn rhan o'r pecyn cymorth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy'n cynnwys canllaw i fynd i'r afael â chosbrestru sy'n cynnwys manylion ymarferol ar gyfer prynwyr a chyflenwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

3.3.2 Ymchwiliad Pwyllgor Materion yr Alban

3.3.2.1 Lansiodd Pwyllgor Dethol Materion yr Alban ei Ymchwiliad i Gosbrestru yn 2012.

3.3.2.2 Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad interim cyntaf 'Blacklisting in Employment' ym mis Ebrill 2013, gan ganolbwyntio'n benodol ar waith The Consulting Association (TCA). Mae ymchwiliad y Pwyllgor wedi bod yn parhau yn ystod y blynyddoedd ers hynny ac mae sawl adroddiad wedi cael eu cyhoeddi, gyda'r adroddiad terfynol 'Blacklisting in Employment: Final Report yn cael ei gyhoeddi yn 2015. Roedd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar Gynllun Iawndal y Gweithwyr Adeiladu, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2014.

3.3.2.3 Canmolodd Ian Davison AS, Cadeirydd y Pwyllgor, Lywodraeth Cymru, a oedd, meddai

“wedi ymateb i'r broblem mewn modd moesegol, clir a diamwys, ac wedi darparu arweiniad gwleidyddol y mae llawer o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus wedi'i ddilyn wedyn.”

3.3.2.4 Yn ei adroddiadau'r mae'r Pwyllgor yn amlinellu sut y gall cwmnïau sydd wedi bod yn euog o gosbrestru wneud iawn, ac mae angen iddynt ymgymryd â phroses o 'hunan-lanhau'. Mae'r adroddiadau'n cynnwys nifer o argymhellion y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried. Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad ar gael yn y ddolen isod. Mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad.

3.4 Gorchymyn Ymgyfreitha Grŵp yr Uchel Lys

3.4.1 Daeth brwydr gyfreithiol hirfaith yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol i ben ym mis Mai 2016, gyda gweithwyr a oedd wedi cael eu cosbrestru yn derbyn ymddiheuriad gan y cwmnïau adeiladu a oedd wedi bod yn rhan o'r cosbrestru, a hefyd iawndal.

4. Camau gweithredu mae'n ofynnol i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru eu cymryd

4.1 Mynd i'r afael â chosbrestru drwy gaffael

4.1.1 Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r materion cyfreithiol sydd ynghlwm wrth fynd i’r afael â chosbrestru drwy gaffael. Bwriedir i'r wybodaeth hon fod yn ganllaw yn unig, ac ni ddylid ei defnyddio yn lle cyngor cyfreithiol priodol.

4.2 A all Gyff Sector Cyhoeddus Cymru wahardd cosbrestrwyr?

4.2.1 Mewn egwyddor, gallant, oherwydd gall cosbrestru fod yn un o’r rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn o dan Reoliad 57(8) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, oherwydd gallai fod naill ai’n gyfystyr â thorri cyfreithiau llafur o dan Reoliad 57(8)(a), neu achos o gamymddwyn proffesiynol difrifol o dan Reoliad 57(8)(c). Felly, gellid cyfiawnhau gwahardd gweithredwr economaidd. Fodd bynnag:

  • rhaid i’r gwaharddiad fod yn gymesur (gweler isod) a chael ei ystyried fesul achos – ni fyddai  gwaharddiad cyffredinol yn gyfreithlon
  • rhaid cyfiawnhau’r gwaharddiad ar sail tystiolaeth – er enghraifft, y gweithredwr economaidd yn cyfaddef camwedd neu benderfyniad tribiwnlys, llys neu gorff cyhoeddus arall sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg. Mewn theori, gall fod modd dibynnu ar dystiolaeth arall ond, yn ymarferol, mae’n anodd rhagweld amgylchiadau lle bydd tystiolaeth arall yn ddigonol
  • nid yw gwaharddiad yn ffordd o gosbi gweithredwyr economaidd am gamwedd blaenorol, ond yn hytrach mae’n ffordd o unioni camwedd blaenorol a sicrhau nad yw’n digwydd eto (hunan-lanhau).

4.3 Pryd y bydd gwaharddiad yn gymesur? Cysyniad hunan-lanhau

4.3.1 Mae cysyniad hunan-lanhau yn cwmpasu amgylchiadau lle mae gweithredwr economaidd wedi cymryd camau i unioni ei gamwedd blaenorol a’i atal rhag digwydd eto. Pan fydd gweithredwr economaidd wedi hunan-lanhau, fel arfer byddai gwaharddiad yn anghymesur.

4.3.2 Yn ôl Rheoliad 57(13) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, pan fydd rhesymau dros wahardd yn berthnasol i weithredwr economaidd, caiff gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos bod y camau a gymerwyd yn ddigonol i 'ddangos ei ddibynadwyedd er bod rheswm perthnasol dros ei wahardd'. Os bydd yr awdurdod contractio o’r farn bod y cyfryw dystiolaeth yn ddigonol, ni chaiff y gweithredwr economaidd dan sylw ei wahardd o’r weithdrefn gaffael.

Er mwyn hunan-lanhau, rhaid i’r gweithredwr economaidd ddangos ei fod wedi gwneud y canlynol:

  1. talu neu ymrwymo i dalu iawndal am unrhyw niwed a achoswyd gan y drosedd neu’r camymddwyn
  2. egluro’r ffeithiau a’r amgylchiadau mewn modd cynhwysfawr drwy gydweithredu â’r awdurdodau ymchwilio
  3. cymryd camau technegol, sefydliadol a phersonél cadarn sy’n briodol i atal rhagor o droseddu neu gamymddwyn.

4.3.3 Caiff y camau hyn eu gwerthuso gan ystyried difrifoldeb ac amgylchiadau penodol y drosedd neu’r camymddwyn. Os na fydd yr Gyff Sector Cyhoeddus Cymru o’r farn bod camau o’r fath yn ddigonol, rhaid iddo roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r gweithredwr economaidd.

4.3.4 Yn ôl Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (Rheoliad 57 (12)), gall gweithredwr economaidd gael ei wahardd, am un o’r rhesymau dros wahardd yn ôl disgresiwn, hyd at dair blynedd ar ôl y digwyddiad perthnasol.

4.3.5 Ni chaniateir gwahardd gweithredwr economaidd dim ond am nad yw wedi ymddiheuro am gosbrestru. Efallai y bydd rhywfaint o le i ystyried p’un a yw peidio ag ymddiheuro neu gyhoeddi datganiad edifeirwch yn arwydd o hunan-lanhau annigonol, ond rhaid ystyried hyn yn ofalus fesul achos.

4.4 Pa fath o wybodaeth y gall Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ofyn amdani?

4.4.1 Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn caniatáu i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ofyn cwestiynau am gosbrestru i weithredwyr economaidd yn ystod cam dethol y broses gaffael. Yn y Ddogfen Gaffael Sengl , gofynnir i weithredwyr economaidd nodi a ydynt wedi'u cael yn euog o gosbrestru yn y tair blynedd diwethaf ac, os ydynt, gynnwys manylion yn amlinellu’r amgylchiadau, gan gynnwys y camau a gymerwyd ers hynny i unioni’r sefyllfa. O ganlyniad i adael yr UE ar 31 Ionawr 2020, a diwedd y Cyfnod Pontio ar 31 Rhagfyr 2021, bydd y DU bellach yn defnyddio'r Ddogfen Gaffael Sengl yn hytrach na Dogfen Gaffael Sengl Ewropeaidd. Bydd y Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID) yn cael ei dileu o GwerthwchiGymru erbyn diwedd 2021 a bydd yn orfodol defnyddio'r Ddogfen Gaffael Sengl.

4.4.2 Os bydd llys neu dribiwnlys wedi canfod bod camwedd wedi cael ei gyflawni, byddai hefyd yn rhesymol gofyn am fanylion y dyfarniad a faint o iawndal a roddwyd.

4.5 A gaiff Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ddod â chontractau gyda gweithredwr economaidd sydd wedi bod yn euog o gosbrestru, neu sydd wrthi’n cosbrestru ar hyn o bryd, i ben?

4.5.1 Nid oes hawl awtomatig i ddod â chontract gweithredwr economaidd sydd wedi bod yn euog o gosbrestru, neu sydd wrthi’n cosbrestru ar hyn o bryd, i ben. Bydd gallu Gyff Sector Cyhoeddus Cymru i gymryd camau’n dibynnu ar union eiriad telerau’r contract a pha mor berthnasol yw’r cosbrestru i’r contract. O ran contractau cyhoeddus newydd, efallai y bydd Gyff Sector Cyhoeddus Cymru am ystyried a ddylid diwygio eu telerau ac amodau contract cyfredol i gynnwys hawl i ddod â’r contract i ben pan fydd gweithredwr economaidd wedi bod yn euog o gosbrestru.

4.5.2 Dylai’r camau a gymerir o dan delerau contract gael eu hystyried fesul achos a dylid ceisio cyngor cyfreithiol.

5. Deddfwriaeth

Fframwaith Deddfwriaethol y DU sy'n berthnasol i gofrestru

Mae nifer o feysydd deddfwriaethol yn berthnasol i gosbrestru (gweler isod), ond yn dilyn yr ymchwiliad i TCA, roedd Llywodraeth y DU o'r farn nad oedd y darpariaethau presennol hyn yn ddigonol i fynd i'r afael â'r mater mewn modd effeithiol. O ganlyniad, cyflwynwyd rheoliadau penodol ar gyfer cosbrestru drwy gyhoeddi Rheoliadau Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (Cosbrestrau) 2010 (OS 2010/493). Mae Rheoliadau Cosbrestru yn ei gwneud yn anghyfreithlon llunio, defnyddio, gwerthu neu gyflenwi 'rhestrau gwahardd', sef rhestrau sy'n cynnwys manylion unigolion sy'n aelod o undeb llafur, neu wedi bod yn y gorffennol, neu sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau unedau llafur, neu wedi gwneud yn y gorffennol, a ddefnyddir at ddibenion fetio cyflogaeth.

Deddf Diogelu Data 1998

Mae creu, cyflenwi neu ddefnyddio cosbrestr yn debygol o fod yn gyfystyr â thorri'r Ddeddf Diogelu Data. Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rheoli sut mae gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio gan sefydliadau, busnesau neu'r Llywodraeth.  Mae gan y Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth  bwerau i sicrhau y cydymffurfir â Deddf Diogelu Data 1998 a’r cyfreithiau cysylltiedig. Mae'r rhain yn cynnwys erlyn troseddol, gorfodi nad yw'n droseddol ac archwiliadau.

Rhaid i unrhyw un sy'n prosesu gwybodaeth bersonol hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a chofrestru gyda hi fel rheolydd data, a chydymffurfio ag wyth egwyddor y Ddeddf Diogelu Data.  Bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn diweddaru'r gofrestr o reolwyr data, sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld.

Os yw unigolyn wedi bod yn defnyddio cosbrestr, ni fydd ganddo reswm dilys dros brosesu gwybodaeth unigolyn yn y ffordd hon.  Drwy ddefnyddio rhestr o'r fath, gellir erlyn unigolion am fethu cydymffurfio â'r Ddeddf a methu cofrestru fel rheolydd data, fel yn achos yr unigolyn yn TCA.

Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 

Ymhlith pethau eraill mae'r Ddeddf hon yn diffinio undebau llafur ac yn nodi eu bod yn ddarostyngedig i hawliau a dyletswyddau cyfreithiol. Mae'n diogelu hawliau gweithwyr i drefnu, ymuno neu adael undeb heb ddioddef gwahaniaethu neu niwed.

Yn ôl adran 137 o'r Ddeddf hon mae’n anghyfreithlon gwrthod cyflogaeth ar sail bod yn aelod o undeb llafur neu ar sail peidio â bod yn aelod o undeb llafur. Felly, gall cosbrestru gweithwyr arwain at achosion posibl yn y tribiwnlys cyflogaeth o dan Adran 137 o’r Ddeddf hon.

Rheoliadau Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (Cofrestrau) 2010

Ymhlith pethau eraill mae Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (Cofrestrau) 2010 yn gwneud y canlynol:

  • diffinio rhestr wahardd (e.e. cosbrestr) a gwahardd llunio, rhannu a defnyddio rhestrau gwahardd
  • ei gwneud yn anghyfreithlon i sefydliadau wrthod cyflogaeth, diswyddo cyflogai neu beri niwed i weithiwr mewn ffordd arall am reswm sy'n gysylltiedig â rhestr wahardd
  • ei gwneud yn anghyfreithlon i asiantaeth gyflogaeth wrthod gwasanaeth i weithiwr am reswm sy'n gysylltiedig â rhestr wahardd
  • darparu i'r tribiwnlys cyflogaeth glywed cwynion am achosion honedig o dorri'r rheoliadau
  • fel opsiwn arall, darparu i'r llysoedd glywed cwynion gan unrhyw bersonau eu bod wedi dioddef colled neu golled bosibl oherwydd bod y rheoliadau wedi cael eu torri.

Gellir cymryd camau yn y llysoedd sifil am dorri'r gwaharddiad cyffredinol ar lunio, defnyddio, gwerthu neu gyflenwi rhestr wahardd, a hynny am dorri dyletswydd statudol.

  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
  • Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020

6. Amserlen

Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn effeithiol o'r dyddiad cyhoeddi ar 19 Tachwedd 2021 nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru

Mae Nodyn Polisi Caffael hwn yn cyd-fynd ag Egwyddorion Canlynol Datganiad Polisi Caffael Cymru:

Egwyddor 3

Byddwn yn datblygu prosesau caffael cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor, sy'n adeiladu ar yr arferion gorau ac yn datblygu’r arferion hynny, ac yn gosod camau clir sy’n dangos sut mae caffael yn ategu’r gwaith o gyflawni amcanion llesiant y sefydliad.

Egwyddor 8

Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid i hyrwyddo cyfle cyfartal a gwaith teg yng Nghymru.

Egwyddor 10

yddwn yn hyrwyddo caffael sy'n seiliedig ar werth sy'n sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau posibl i Gymru.

8. Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhai o'r dogfennau canllaw polisi a'r offerynnau ategol sydd ar gael ichi i'w defnyddio yn eich gweithgareddau caffael (yn nhrefn yr wyddor) yn cynnwys:

9. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn Polisi Caffael hwn, neu os ydych wedi cael unrhyw brofiad o gosbrestru yn ystod eich gweithgareddau caffael, cysylltwch â’r:

Tîm Polisi Masnachol: CommercialPolicy@llyw.cymru

10. Cydnabyddiaethau

Defnyddiwyd y cyhoeddiadau canlynol wrth baratoi'r Nodyn Polisi Caffael hwn:

11. Cyfeiriadau