Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn ganllaw statudol ac ni fwriedir iddi fod yn gynhwysfawr. Nid oes bwriad ychwaith iddi ddisodli’r rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sydd ar Gyff sector cyhoeddus Cymru– dylai cyrff sy’n contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Hydref 2021.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru ac ar Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015  (“PCR 2015” - SI 2015/102) ac mae’n gyson â nhw. Nid yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2020 (SI 2020/1319), a ddaeth yn weithredol o 1 Ionawr 2021 ymlaen, yn effeithio ar y Datganiad nac ar Reoliadau 2015.
  • Mae'r WPPN hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Llyw.Cymru a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at CommercialPolicy@llyw.cymru neu drwy bwynt cyswllt cyntaf gwasanaethau cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

1. Diben

1.1 Mae WPPN */21 yn mabwysiadu Nodyn Polisi Caffael Llywodraeth y DU Procurement Policy Note PPN 06/21: Taking account of Carbon Reduction Plans in the procurement of major government contracts (“UKG PPN 06/21”) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hefyd yn mabwysiadu canllawiau cysylltiedig gan Swyddfa'r Cabinet.

1.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mabwysiadu PPN 06/21, gan ei wneud yn orfodol o 1 Ebrill 2021 ar gyfer contractau Llywodraeth Cymru sydd werth dros £5 miliwn, ac yn argymell bod gweddill Sector Cyhoeddus Cymru yn ei fabwysiadu fel arfer da. Mae'r Nodyn hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth sydd wedi’i hanelu’n benodol at Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yn SSC i'w helpu i gyrraedd targed 2030 ar gyfer sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru ac i roi gwybod iddynt am y diwygiadau a wnaed i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Dosbarthiad a chwmpas

2.1 Cyhoeddwyd y nodyn hwn er mwyn gynorthwyo pob Gyff Sector Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r Nodyn hwn yn ymdrin â chontractau am nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n cael eu darparu yng Nghymru.

2.2 Gofynnir ichi ddosbarthu’r Nodyn hwn ar draws eich sefydliad, ei anfon hefyd at sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, a’i ddwyn at sylw penodol pobl sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.

3. Y cefndir a chanllawiau

3.1 Diwygiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2021 drwy gyflwyno ymrwymiad Cymru i DU sero-net erbyn 2050. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy system o dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon. O dan Adran 39 o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol gan nodi eu polisïau a'u cynigion ar gyfer bodloni'r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw. Rydym hefyd wedi pennu targed dros dro yn Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru (Gorffennaf 2021) er mwyn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn sero-net.

3.2 Ar hyn o bryd, mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £7 biliwn ar gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n cael eu darparu drwy gyflenwyr, darparwyr gwasanaethau a chontractwyr. Felly, mae sut y mae'r partneriaid hyn yn y gadwyn gyflenwi yn mynd i'r afael â datgarboneiddio yn hanfodol i'r daith at gyrraedd statws sero-net.

3.3 Drwy gyflwyno gofyniad lle mae’n ofynnol i bawb sy’n cynnig am gontract cyhoeddus gwerth £5 miliwn neu fwy gynnwys Cynlluniau Lleihau Carbon yn eu tendrau, gall Gyff Sector Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod darpar bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i gyrraedd statws carbon sero-net.

4. Yr hyn y mae gofyn i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ei wneud

4.1 Yn ogystal â mabwysiadu PPN 06/21 Llywodraeth y DU o 30 Medi 2021 ymlaen, dylai Gyff Sector Cyhoeddus Cymru sicrhau bod Cynllun Lleihau Carbon yn un o’r gofynion yn ystod y cam dethol wrth gaffael contractau cyhoeddus sy’n werth £5 miliwn neu fwy. Drwy gyflwyno'r maen prawf dethol newydd hwn wrth asesu gallu technegol a phroffesiynol cyflenwr, gall Gyff Sector Cyhoeddus Cymru sicrhau bod cynigwyr yn ymrwymo i gyfrannu at sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru erbyn 2030 a sero-net yn y DU erbyn 2050.

4.2 I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch guidance on adopting and applying the PPN 06/21 - Selection Criteria stage.

4.3 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Nodyn arall ar ddatgarboneiddio drwy gaffael, a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth ac arweiniad i Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ar gaffael nwyddau a/neu wasanaethau a/neu waith lle disgwylir i werth y contract fod yn llai na £5 miliwn.

5. Deddfwriaeth

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhan 2 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 (12 Mawrth 2021)
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
  • Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020

6. Yr amserlen

Bydd y Nodyn hwn yn doid i rym  o'r dyddiad y’i cyhoeddir ar 01/10/2021 tan iddo gael ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Llywodraeth Cymru

Mae'r Nodyn hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion a ganlyn yn y Datganiad Polisi:

Egwyddor 6

Byddwn yn gweithredu i atal y pryderon cynyddol dros newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030.

8. Gwybodaeth ychwanegol

Yn ogystal â'r dolenni a grybwyllir yn PPN 06/21 Llywodraeth y DU ar sut i gyfrifo allyriadau carbon, mae’n bosibl yr hoffech ystyried y canllawiau a ganlyn sy’n rhai penodol i Gymru:

9. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn hwn, cysylltwch â:

Polisi Masnachol: CommercialPolicy@llyw.cymru.

10. Cydbnabyddiaeth

11. Cyfeiriadau