Rydym wedi diweddaru'r trothwyon ar gyfer gosod hysbysiadau dyfarnu contractau.
Rydym wedi diweddaru'r trothwyon ar gyfer gosod hysbysiadau dyfarnu contractau, a amlygwyd o dan WPPN 02/22, i gyd-fynd â'r Bil Caffael a gyflwynwyd ar 11 Mai.
Mae'r diwygiadau'n berthnasol i'r darn canlynol o'r WPPN:
Dylid cymhwyso’r canllawiau canlynol i brosesau caffael Llywodraeth Cymru a chânt eu hystyried yn arfer gorau ar gyfer awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru.
Argymhellir bod hysbysiadau dyfarnu contractau yn cael eu cyhoeddi fel y nodir isod:
Cyrff Llywodraeth Ganolog Cymru, gan gynnwys y rhai a restrir yn Atodlen 1 y PCR 2015
- Os yw gwerth y contract yn £12,000 o leiaf gan gynnwys TAW*
Cyrff Llywodraeth Is-ganolog Cymru, pob awdurdod contractio nac ydynt yn awdurdodau llywodraeth ganolog
- Os yw gwerth y contract yn £30,000 o leiaf gan gynnwys TAW
* Bydd Cyrff Llywodraeth Ganolog Cymru, gan gynnwys y rhai a restrir yn Atodlen 1 y PCR 2015, yn gweithredu'r trothwy fesul cam, gan ddechrau gyda'r cais i gontractau sy'n werth o leiaf £25,000 gan gynnwys TAW.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru