Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i’w nodi

  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Mae’r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau sydd wedi cychwyn cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), gweler WPPN 10/21.
  • Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
  • Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
  • Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
  • Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
  • Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".

1. Pwnc

Mae’r WPPN hwn yn mynd i’r afael â chamau caffael cyhoeddus i gefnogi’r sector dur sy’n strategol bwysig yn y DU.

2. Lledaenu a chwmpas

Mae’r WPPN hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob Awdurdod Cymreig Datganoledig os yw ei holl swyddogaethau, neu’r rhan fwyaf ohonynt, yn swyddogaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru, a bydd yn berthnasol i unrhyw brosiect caffael mawr ar ôl cyhoeddi’r Nodyn hwn lle mae dur yn ‘elfen hanfodol (ystyrir mai ‘elfen hanfodol’ yw cynnyrch (cynhyrchion) dur strwythurol fel fframiau dur; bariau atgyfnerthu).

Nid oes gwerth penodol ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel prosiect caffael mawr – bydd hyn yn amrywio o un Awdurdod Cymreig Datganoledig i’r llall. Felly, yr Awdurdodau Cymreig Datganoledig sydd i benderfynu pa rai o’u caffaeliadau sy’n brosiectau ‘mawr’. Gall prosiectau mawr lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol.

Gallai prosiectau mawr, lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol, gynnwys y canlynol ond heb gael eu cyfyngu iddynt:

  • Seilwaith – fel rheilffyrdd a ffyrdd
  • Adeiladu – fel adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion, ac
  • Amddiffynfeydd llifogydd.

Dylid lledaenu’r WPPN hwn (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan dynnu sylw’r rheini mewn rôl rheoli caffael neu gontractio ato’n benodol.

3. Cefndir

Mae diwydiant dur Prydain yn cyflogi dros 32,000 o bobl yn uniongyrchol mewn swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda ac mae’n cefnogi 40,000 o swyddi eraill yng nghadwyn gyflenwi’r DU (COVID-19 - Restart and recovery), gan barhau i fod yn strategol bwysig i economi’r DU fel cyflogwr mawr a chyflenwr cynnyrch dur o safon.

Nododd yr adroddiad Caffael Cyhoeddus o Ddur 2016 y cyfle i gefnogi’r sector dur drwy ymyriadau mewn prosesau caffael cyhoeddus; mae ei argymhellion yn parhau’n berthnasol ac yn 2019 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i Siarter Dur y DU, gan ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i ystyried sut y gall ein penderfyniadau dylunio o ran adeiladu, seilwaith a pheirianneg sifil a’r caffael sy’n deillio o hynny greu cyfleoedd ar gyfer diwydiant dur y DU (diffinnir UK Steel gan UK Steel, cymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant yn y DU, fel ‘unrhyw ddur wedi’i wneud mewn ffwrnais chwyth neu ffwrnais arc drydan yn y DU’).

4. Camau gweithredu sy’n ofynnol gan Awdurdodau Cymreig Datganoledig

Dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig ddefnyddio’r cylch oes caffael i nodi unrhyw gyfle i gefnogi diwydiant dur y DU i sicrhau bod y contract yn cael yr effaith economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol fwyaf bosibl.

4.1 Cynllunio cyn-caffael

Dylai cynlluniau cyn-caffael Awdurdodau Cymreig Datganoledig gynnwys asesiad ar gyfer pob prosiect lle bydd dur yn gydran hollbwysig a lle mae gan yr Awdurdod Cymreig Datganoledig gyfle i ddylanwadu ar y ffordd y mae’r gydran ddur yn cael ei chaffael.

Dylai’r galw am ddur yn y dyfodol fod yn rhan o’r biblinell gaffael a gyhoeddwyd gan Awdurdodau Cymreig Datganoledig; dylid cynnwys prosiectau cyn belled ymlaen llaw â phosibl er mwyn ysgogi’r farchnad. Mae’n bwysig ystyried sut a phryd y bydd mewnbynnau dur yn cael eu caffael drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae rhybudd ymlaen llaw o raglenni neu brosiectau unigol perthnasol yn caniatáu i’r sector dur baratoi a darparu’n well ar gyfer anghenion yn y dyfodol drwy sicrhau bod y galluoedd cywir yn eu lle. Yn ogystal, gall y sector dur helpu i gyflawni canlyniadau prosiect gwell drwy ddeialog gynnar a chanfod y potensial ar gyfer atebion arloesol.

Ystyriwch eich opsiynau dylunio a’u goblygiadau ar gyfer gofynion dur, gan nodi cynnyrch a meintiau dur penodol y bydd eu hangen yn erbyn y potensial i gael gafael ar y rhain o fewn y DU.

Mae ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad (PME) yn ddull defnyddiol o ymgysylltu â chyflenwyr yn y farchnad. O dan Ddeddf Caffael 2023 gellir ei defnyddio i gynorthwyo Awdurdodau Cymreig Datganoledig i ddatblygu eu gofynion dur a'u dull o gaffael. Gall helpu i gynllunio’r weithdrefn ac amodau cymryd rhan neu feini prawf dyfarnu a chynorthwyo Awdurdodau Cymreig Datganoledig i nodi cyflenwyr yn y farchnad, neu hyd yn oed feithrin capasiti ymhlith cyflenwyr yn y farchnad i gyflawni gofynion dur. Dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig gyfeirio at adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Caffael 2023 i gael gwybodaeth PME a hysbysiadau PME. Mae canllawiau ar PME hefyd ar gael ar dudalen ‘Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw’.

Gall cyrff masnach fel UK Steel roi cyngor ar sut i ymgysylltu’n effeithiol â’r sector domestig; mae cyfeiriadur dur y DU yn rhoi rhestr o sefydliadau a chynnyrch sydd ar gael yn y DU.

4.2 Caffael

Gallai Awdurdodau Cymreig Datganoledig ystyried gosod amodau cymryd rhan (yn unol ag adran 22 o'r Gyfundrefn Gaffael) fel ffordd o fynd i'r afael â phroblem dympio dur a diffyg cydymffurfio â safonau derbyniol o ran iechyd, diogelwch a lles a safonau amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth ar sut y dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig gasglu cwestiynau cyn-gymhwyso/dethol a setiau cwestiynau sydd ar gael, cyfeiriwch at Nodyn Polisi Caffael Cymru Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 001: holiadur dewis safonol ar gyfer contractau gweithiau.

Amod cymryd rhan

Mae natur cynhyrchu dur yn golygu bod cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, llafur ac amgylcheddol y tu allan i’r DU a’r UE yn fater o bwys; gall hyn fod yn wahaniaethydd defnyddiol wrth ddewis cyflenwyr.

Dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig ystyried pennu Safon y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), BES 6001 Sicrhau Cynnyrch Adeiladu’n Gyfrifol neu gyfatebol wrth gaffael prosiectau gyda chydrannau dur. Mae'r safon BES 6001 yn cwmpasu amrywiaeth o gynhyrchion sylfaen adeiladu, gan gynnwys barrau atgyfnerthu dur carbon.

Mae BES 6001 sydd wedi’i achredu gan drydydd parti yn rhoi sicrwydd i Awdurdodau Cymreig Datganoledig bod deunyddiau cyfansoddol o gynhyrchion sy’n dod dan y safon wedi cael eu caffael yn gyfrifol. Mae’r safon yn disgrifio fframwaith ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, rheoli’r gadwyn gyflenwi ac agweddau amgylcheddol a chymdeithasol i fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod cynhyrchion adeiladu’n cael eu cyrchu’n gyfrifol; mae’n darparu’r gallu i brofi bod system effeithiol ar gyfer sicrhau ffynonellau cyfrifol yn bodoli.

Er mwyn cefnogi tryloywder y gadwyn gyflenwi, dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig wneud y canlynol:

  1. Mynnu BES 6001 neu gyfatebol fel rhan o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cynigwyr
  2. Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gyflwyno cynlluniau cadwyn gyflenwi wrth wneud cais am gontractau sy’n cynnwys sut y bydd dur yn cael ei gaffael
  3. Cynnwys amod contract i sicrhau bod y contractwr Haen 1 a’i is-gontractwyr yn hysbysebu’n agored drwy gwerthwchigymru.llyw.cymru unrhyw gyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n weddill ar gyfer darparu dur (hy lle na chytunwyd ar unrhyw drefniadau contract erbyn dyddiad dyfarnu’r prif gontract).
  4. Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gofnodi tarddiad cydrannau dur hanfodol i’w defnyddio, gan barhau i wneud hyn drwy gydol y contract.

4.3 Dyfarnu’r contract

Mae'r Gyfundrefn Gaffael wedi cyflwyno dull newydd o asesu tendrau mewn gweithdrefn dendro gystadleuol ar gyfer contract cyhoeddus gan ddefnyddio “MAT”, “tendr mwyaf manteisiol” (adran 19 o'r Ddeddf Caffael), yn lle “MEAT” (tendr mwyaf manteisiol yn economaidd). Felly, ni ddylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig seilio eu penderfyniadau i ddyfarnu contractau ar y pris prynu isaf yn unig.

Er bod y gost i’r pwrs cyhoeddus yn bwysig, dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig y gallai prisiau anarferol o isel olygu nad yw’r contract yn debygol o gael ei gyflawni’n iawn; gallai codi pris is na darparwyr domestig yn annheg arwain at golli swyddi gydag effeithiau economaidd a chymdeithasol sylweddol ar y cymunedau yr effeithir arnynt.

5. Deddfwriaeth

  • Deddf Caffael 2023
  • Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

6. Amseriad

Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y gyfundrefn gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Gwybodaeth Ychwanegol

8. Manylion cyswllt

Polisi Masnachol - PolisiMasnachol@llyw.cymru

9. Cyfeiriadau

Cyfeiriwyd at y canlynol wrth baratoi’r WPPN hwn:

  • ‘Caffael Cyhoeddus o Ddur – Adroddiad i’r galw am ddur yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol a chapasiti a gallu’r sector dur’ (Llywodraeth Cymru 2016)
  • Nodyn Polisi Caffael – Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr
  • Nodyn Gweithredu 16/15 30 Hydref 2015 (Gwasanaeth Masnachol y Goron, 2015)
  • Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr – canllawiau diwygiedig. Nodyn Gweithredu 11/16 13 Rhagfyr 2016 (Gwasanaeth Masnachol y Goron, 2016)
  • Siarter Dur y DU 2019