Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 005: Caffael - asesiadau risg cynaliadwyedd
Canllawiau ar gaffael sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru: templedi asesu risg cynaliadwy (SRA) ar gyfer nwyddau a gwasanaethau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
Pwyntiau i'w nodi
- Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Mae’r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau sydd wedi cychwyn cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), gweler WPPN 01/23.
- Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
- Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
- Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
- Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
- Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".
1. Diben
Bwriad y Nodyn Polisi Caffael hwn yw helpu prynwyr i ddefnyddio templedi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus Caffael: Asesiadau Risg Cynaliadwyedd (SRA) ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau. Diben y SRA yw helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus i:
- Fodloni gofynion yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhaid i gyrff sy'n dod o dan y Ddeddf “... weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.” (DLlCD 2015)
- Gwneud y 5 Ffordd o Weithio a amlinellir yn y Ddeddf yn rhan annatod o’r broses cynllunio caffael a nodi pa allbynnau / ganlyniadau sy'n cyflawni’r saith Nod Llesiant yn y Ddeddf. Drwy ymgorffori'r 5 Ffordd o Weithio, mae templedi’r SRA yn helpu sefydliadau i wireddu’r Ddyletswydd Lles yn y Ddeddf ac i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at sicrhau canlyniadau sy'n cefnogi pob un o'r saith Nod llesiant.
- Caffael mewn ffordd gynaliadwy, sef:
y broses lle mae sefydliadau yn diwallu eu hanghenion o ran nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan a buddion i gymdeithas drwy greu canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a llesiant diwylliannol. (Canllawiau Craidd DLlCD)
- Sicrhau Gwerth am Arian, sef y cyfuniad gorau posibl o gostau oes gyfan o ran nid yn unig creu arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau o ansawdd da i'r sefydliad, ond hefyd i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.
- Ystyried y gylchred oes wrth gaffael, sef ystyried pob agwedd ar y broses, o’r deunyddiau crai a ddefnyddir, y problemau sy'n codi wrth weithgynhyrchu, y defnydd a wneir o’r (cynhyrchion) / y gwasanaethau a ddarperir, tan yr adeg y rhoddir y gorau i’w defnyddio / y’u gwaredir / y caiff gwastraff ei greu.

- Deunyddiau crai (difrod amgylcheddol)
- Gweithgynhyrchu (gwastraff a llygredd)
- Cludiant (llygredd)
- Gosod
- Defnyddio (ailddefnyddio a addasu at ddibenion eraill)
- Cynnal a chadw
- Gwaredu (tirlenwi/adfer ynni a ailgylchu)
2. Dosbarthiad a chwmpas
Cyhoeddwyd y Nodyn Caffael hwn er mwyn cynnig help llaw i’r holl Awdurdodau Cymreig Datganoledig, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae'r WPPN hwn yn ymdrin â chontractau am nwyddau a gwasanaethau, a gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer prif elfennau contractau gwaith.
Gofynnir ichi gylchredeg y WPPN hwn ar draws eich sefydliad a’i anfon at sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt ac, yn benodol, i’w ddwyn i sylw pobl sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.
Bydd y SRA yn dod yn rhan annatod o'r adnodd Blaenoriaethu Polisi sydd wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn rhan o'r Cynllun Gweithredu Digidol. Bydd y WPPN hwn yn cael ei ddiweddaru unwaith y bydd yr adnodd hwnnw wedi cael ei roi ar waith.
3. Y cefndir
Mae SRA yn helpu prynwyr i nodi ac i reoli'r risgiau a'r cyfleoedd o ran cynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â'r nwyddau neu'r gwasanaethau y maent yn eu caffael. Mae’r Asesiadau’n helpu i wneud hynny drwy sicrhau bod prynwyr yn gweithredu mewn ffordd sy’n gydnaws â'r Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy a thrwy lywio’r camau sy’n rhan o’r cylch caffael.

Yr Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy
- Ailfeddwl am yr angen: dileu gwastraff yn y tarddle (Peidio â phrynu / prynu gwasanaeth yn lle cynnyrch)
- Lleihau: defnyddio llai
- Ailddefnyddio: gan y cwsmer neu'r cyflenwr / contractwr
- Ailgylchu: Ailnegodi'r opsiynau gyda'r cyflenwr / contractwr
- Adfer ynni
- Diwedd oes

Asesiadau risg cynaliadwyedd (SRA) yn ystod y cylch caffael
SRA wedi'i gwblhau | Cynllunio |
Ar sail penderfyniadau a wnaed yn sgil y SRA | Diffinio'r gofynion |
Paratoi a hysbyebu'r tendr | |
Gwerthuso a dewis | |
Dyfarnu/dechrau'r contract | |
Rheoli'r contract | |
Yn dylanwadu ar gynlluniau/SRA yn y dyfodol | Diwedd y contract/y gwersi a ddysgwyd |
4. Arweiniad
4.1 Y broses SRA
Gellir defnyddio'r asesiad beth bynnag yw gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael, a dylai’r asesiad lywio’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth gaffael, y fanyleb, y cwestiynau tendro a phennu’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Dylai fod yn ddogfen fyw sy'n sicrhau nad yw prynwyr yn colli golwg ar y risgiau a/neu'r cyfleoedd i sicrhau canlyniadau cynaliadwy drwy gydol y cylch caffael, gan fod yn ddogfen i gyfeirio ati wrth reoli contractau er mwyn sicrhau bod buddion disgwyliedig y contract yn cael eu gwireddu'n llawn.
Ym mhob achos, dylid sicrhau nad dim ond un unigolyn sy’n paratoi’r SRA. Dylai'r ymdrech a wneir arno fod yn gymesur â gwerth yr hyn sy’n cael ei gaffael, ac yn achos prosiectau mwy, dylai'r SRA fod yn ddogfen hanfodol sy'n cael ei berchenogi gan fwrdd y prosiect o dan oruchwyliaeth Uwch-swyddog Cyfrifol (SRO) ac sy’n manteisio ar yr arbenigedd sydd ei angen ar y sefydliad / sydd ar gael yn y sefydliad ei hun ac oddi wrth asiantaethau allanol yn ôl yr angen.
Sylwer: i helpu prynwyr i lenwi’r SRA, cynhwyswyd nodiadau cyfarwyddyd yn yr adnodd ei hun ar ffurf 'sylwadau' mewn celloedd penodol sy’n cynnig arweiniad neu esboniad.
Mae 5 cam i’r broses o baratoi SRA (ymdrinnir â nhw mewn tabiau ar wahân yn yr adnodd).
Cam 1: Cofnodi manylion pennawd y contract
Dyma lle dylech nodi’r wybodaeth sylfaenol am hyd y lled y broses gaffael dan sylw. Dylai ategu’r asesiad o’r categori / farchnad a’r meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr, a dylai fod yn sail i’r strategaeth gaffael a sicrhau bod y camau a gymerir yn gymesur â gwerth a hyd y contract / fframwaith. Er enghraifft, a fydd gwerth a hyd y contract yn rhoi digon o ddylanwad i'r awdurdod contractio dros y farchnad er mwyn iddo fedru dyfarnu ei gontract ei hun, neu a fyddai caffael mewn cydweithrediad ag eraill i gydgrynhoi'r galw ac i ddylanwadu drwy fframwaith yn ffordd well o sicrhau gwerth am arian?
Yn unol â'r diffiniad o Gaffael Cynaliadwy, dylid ystyried mai ystyr 'gwerth am arian' yw'r cyfuniad gorau posibl o gostau oes gyfan o ran nid yn unig sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau o ansawdd da i'r sefydliad, ond hefyd ganlyniadau sydd o fudd i gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd, yn awr ac yn y dyfodol.
Cam 2: Cynllunio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Dyma lle cofnodir sut yr aed ati i ystyried y 5 Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle rhoddir crynodeb o ganlyniadau disgwyliedig y broses gaffael dan sylw, sut y bydd yn gwella llesiant Cymru, a sut y bwriedir adrodd am y canlyniadau neu’r buddion. Hefyd, yn ystod y cam hwn, atgoffir prynwyr y dylent, o gofio’r bygythiad sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd Sero Net (Sector Cyhoeddus Cymru yn Sero Net erbyn 2030 a’r DU yn Sero Net erbyn 2050), fynd ati ym mhob achos i ystyried datgarboneiddio a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Cam 3: Adolygiad o’r Galw
Eir ati yn ystod y cam hwn i herio'r angen ac i herio sut y bwriedir gweithredu, sef y camau cyntaf yn yr hierarchaeth caffael cynaliadwy. Ei nod yw ysgogi prynwyr i edrych o’r newydd ar y galw a ragwelir er mwyn osgoi ailbennu’r un gofynion ag o’r blaen a cholli cyfleoedd.
Cam 4: Effeithiau Allweddol yn ystod y Gylchred Oes
4 cam sy’n rhan o’r 'gylchred oes' er mwyn helpu prynwyr i gael darlun cyflawn o'r cynnyrch/cynhyrchion) neu'r gwasanaeth(au) dan sylw.
Yn ystod y cam hwn, dim ond datblygu dealltwriaeth eang o'r cynnyrch/cynhyrchion neu'r gwasanaeth(au) dan sylw a nodi'r prif broblemau y mae defnyddwyr y SRA – A yw'r cynnyrch yn drwm ar ynni? A yw’n creu gwastraff neu allyriadau? A oes pryderon amgylcheddol amlwg? A oes posibilrwydd o gamfanteisio ar y bobl dan sylw neu a fydd peryglon yn eu hwynebu?
Ar ôl ystyried sut i gynllunio’r broses gaffael ac edrych ar ei chyd-destun, eir ati yng Ngham 5, Asesu Risg a Chynllunio Gweithredu, i ymdrin â chamau i osgoi, i ddileu neu i reoli'r problemau hynny.
Cam 5: Asesu Risg a Chynllunio Gweithredu
Mae'r adran Cynllunio Gweithredu yn cynnig cyfres o faterion posibl sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd (amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd) y dylai prynwyr eu hystyried o ran pa mor berthnasol ydynt i’r broses gaffael dan sylw ac o ran rhoi sgôr i’r 'risg' sy'n gysylltiedig â'r materion hynny. Y cam cyntaf wrth ystyried pob un o’r materion hyn yw penderfynu a yw'n berthnasol ai peidio, gan gofnodi 'ydy', 'nac ydy' neu 'ansicr' yng ngholofn C y SRA. Os ydyw, dylid llenwi’r rhes yn y SRA. Os nad ydyw, dylid symud ymlaen i'r mater nesaf, ac os 'ansicr' yw’r ateb, dylid mynd ati i geisio eglurder yn ei gylch e.e. drwy gyfeirio’r mater at gydweithwyr y gallai fod ganddynt rywfaint o wybodaeth neu arbenigedd perthnasol; chwilio ar y rhyngrwyd neu gyfeirio at asiantaethau cymorth arbenigol e.e. yr Ymddiriedolaeth Garbon, WRAP (Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau), Llywodraeth Cymru etc. Er mwyn iddynt fod ar gael i gyfeirio atynt yn y dyfodol, rhowch fanylion byr am eich rhesymau dros ateb 'ydy', 'nac ydy' neu 'ansicr' yng ngholofn D yn y SRA. Os ydych wedi nodi nad ydych yn sicr, defnyddiwch golofn D i fanylu ar sut yr ydych yn bwriadu mynd ati i geisio eglurder am y mater.
Caiff risg ei mesur drwy asesu 'maint posibl / effaith bosibl' y risg a pha mor 'debygol' ydyw. Ar ôl rhoi sgôr i'r risg bosibl / y cyfle posibl sy’n gysylltiedig â phob un o’r materion, mae'r SRA yn awgrymu’r camau lleiaf y gall prynwyr eu hystyried a hefyd pryd y gallant ‘wthio'r ffiniau’.
Maint
maint yr effaith y bydd y nwyddau / cynhyrchion sydd o dan ystyriaeth yn ei chael dros oes y contract neu'r fframwaith, neu faint y budd a fydd yn deillio ohonynt. Dyma'ch asesiad goddrychol chi o 'faint' yr effaith neu’r budd sy’n gysylltiedig â’r mater allweddol. Dylech benderfynu a ddylid rhoi sgôr uchel, cymedrol neu isel i faint y risg drwy ystyried y materion a ganlyn:
- am ba hyd y bydd yr effaith yn parhau (tymor byr, canolig, hirdymor)
- pa mor bell y bydd yn effaith yn lledaenu neu pa mor bell y bydd ei dylanwad (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang)
- canran y rhanddeiliaid / y boblogaeth yr effeithir arnynt.
Tebygolrwydd
Dyma'ch asesiad goddrychol chi o ba mor debygol yw hi y bydd yr effaith sy'n gysylltiedig â'r nwyddau / cynhyrchion sydd o dan ystyriaeth yn cael ei gweld yn ystod oes y contract neu'r fframwaith dan sylw. Rhoddir sgôr uchel, ganolig neu isel i debygolrwydd:
- Uchel: mae’n debygol iawn y bydd y mater dan sylw yn codi’n gyson neu y bydd disgwyl iddo ddigwydd yn rheolaidd iawn.
- Cyfrwng: byddech yn disgwyl i'r mater dan sylw ddigwydd ar ryw adeg neu sawl gwaith neu’n ysbeidiol.
- Isel: nid yw’r mater dan sylw yn debygol o ddigwydd neu efallai mai dim ond ambell waith y bydd yn gwneud hynny.
Wrth asesu, rhoddir sgôr o 3 phwynt ar gyfer Maint a Thebygolrwydd os yw’r risg yn uchel, sgôr o 2 bwynt os yw’n gymedrol / ganolig, a sgôr o 1 pwynt os yw’n isel. Mae’r sgorau’n cael eu cyfrifo a'u dangos yn y golofn Arwyddocâd (Sgôr Risg) ar ffurf rhif, a rhoddir cod lliw i’r gell hefyd: coch – ‘risg uchel', oren – 'risg gymedrol / ganolig neu ‘wyrdd’ – risg isel. Mae'r codau lliw o gymorth i flaenoriaethu’r camau gweithredu unwaith y bydd pob mater wedi cael ei ystyried.
Awgrymiadau am y camau lleiaf y dylid eu cymryd, awgrymiadau am bryd i 'wthio'r ffiniau', ac am bryd i weithredu
Mae pob rhes yn y SRA yn awgrymu rhai o’r camau gweithredu lleiaf y dylai prynwyr eu hystyried wrth bwyso a mesur pob 'mater', a hefyd pryd y dylent ystyried ‘wthio’r ffiniau’. Mae lle yno hefyd i’r prynwyr fanylu ar yr adeg orau yn y cylch caffael i fynd i'r afael â'r camau hynny. Er enghraifft, gan ddibynnu ar gyd-destun y broses gaffael dan sylw, efallai y byddai'n fwyaf priodol defnyddio'r Fanyleb neu'r Amodau Cymryd Rhan i bennu gofynion clir o ran ansawdd ac o ran pwy sy’n gymwys. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny, byddai angen i’r prynwyr wybod yn union yr hyn y maen nhw ei eisiau o ran naill ai’r agweddau technegol / yr agweddau perfformiad, a gallu a chapasiti'r farchnad i gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau. Pan fo marchnad yn un ansicr neu’n un gyfyngedig, efallai y gellir mynd i'r afael â hyn yn well yn ystod cam rheoli’r contract er mwyn sicrhau bod y cyflenwad yn cael ei sicrhau, a bod safonau neu ganlyniadau gwell yn cael eu sbarduno drwy drafod gwelliant parhaus neu weithio mewn ffordd arloesol, gan ategu hynny drwy ddrafftio cymalau priodol yn y contract.
Y fanyleb
Ar yr amod nad ydych yn defnyddio manylebau i osgoi egwyddorion craidd cystadleuaeth deg, agored, tryloyw ac anwahaniaethol, manylebau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cynaliadwyedd, oherwydd y bydd yn rhaid i unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau sydd i'w cyflenwi o dan y contract fodloni'r safonau gofynnol o ran cynaliadwyedd. Wrth gwrs, mae'n bwysig profi manylebau ar y farchnad er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy a bod y farchnad yn gallu cwrdd â’r gofynion. Os nad yw'r farchnad yn barod ar gyfer eich uchelgais, yna gall cymalau yn y contract e.e. cymalau ynglŷn â gwelliant parhaus neu weithio mewn ffyrdd arloesol fodd yn ffordd i gyfiawnhau trafodaeth gyda'ch cyflenwyr / contractwyr er mwyn gwella’r hyn y byddant yn gallu ei gynnig yn ystod y contract. Er y gallai'r trafodaethau hynny arwain at arbedion o ran cost, yr hyn y dylid rhoi’r prif sylw iddo yw gwella cynaliadwyedd y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n cael eu caffael e.e. asesiad carbon o’r cynhyrchion, llai o ddeunyddiau crai, a deunyddiau crai o ffynonellau mwy cynaliadwy, rheoli dulliau cludo wrth ddosbarthu, etc.
Amodau cymryd rhan
O dan y Gyfundrefn Gaffael, gall “amodau cymryd rhan” gael eu gosod gan Awdurdodau Cymreig Datganoledig. Mae'r rhain yn amodau y mae'n rhaid i gyflenwr eu cyflawni er mwyn cael contract cyhoeddus yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol. Gall yr amodau hyn ymwneud â (1) capasiti cyfreithiol neu ariannol y cyflenwr neu (2) y gallu technegol i gyflawni'r contract yn unig. Rhaid i unrhyw amodau a bennir gan Awdurdod Cymreig Datganoledig fod yn ffordd gymesur o sicrhau capasiti neu allu'r cyflenwr (sy'n berthnasol i'r contract cyhoeddus penodol), gan roi sylw dyledus i natur, cymhlethdod a chost y contract cyhoeddus.
Mae’r cam hwn yn un hanfodol oherwydd dyma lle y gallwch bennu safonau ansawdd ac unrhyw feini prawf gofynnol y mae'n rhaid i gyflenwyr eu bodloni os ydynt yn dymuno gwneud cais am waith. O wneud hyn yn dda, dylai helpu darpar gynigwyr i weld yn gyflym a ydynt yn gallu neu’n dymuno cyflwyno tendr/cais. Dylai Awdurdodau Cymreig Datganoledig gyfeirio at y canllawiau sydd ar gael ar “amodau cymryd rhan” cyn gosod unrhyw amodau. Mae'r canllawiau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i), yr hyn y caiff amodau cymryd rhan ymwneud â hwy a'r hyn na all Awdurdod Cymreig Datganoledig ei wneud yn ofynnol fel rhan o amod cymryd rhan.
Gwerthuso
Cam Gwerthuso’r Tendr yw'r cyfle i ofyn cwestiynau am faterion cynaliadwyedd sy'n gysylltiedig â'r contract ac i weld sut mae cynigwyr yn bwriadu rheoli'r materion hynny wrth gyflawni'r contract. Dylai’r pwysoliad cymharol a roddir i’r meini prawf cynaliadwyedd fod cyn uched â phosibl fel y bo modd gwahaniaethu rhwng cynigion, yn enwedig mewn marchnadoedd lle mae prisiau'n gystadleuol, a lle mae ansawdd yn cael ei safoni’n weddol neu’n cael ei reoleiddio'n dda.
Rheoli’r contract
Os nad yw contract yn cael ei reoli’n dda, mae'r buddion a’r canlyniadau a ddisgwylir yn annhebygol o gael eu gwireddu. Gellir defnyddio'r cam hwn i nodi unrhyw gamau y gellid eu cymryd yn ystod oes y contract i annog y cyflenwr i fynd i'r afael ag agweddau lle mae risg o ran cynaliadwyedd ac i ddod o hyd i atebion arloesol. Dylid defnyddio mecanweithiau / dulliau adrodd i gasglu data rheoli yn gyson ac i olrhain y manteision a ragwelir, gan gynnwys allbynnau a chanlyniadau o ran cynaliadwyedd.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)
Ar ôl nodi’r risgiau a’r cyfleoedd penodol sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, mae'n bwysig monitro’r buddion a rheoli'r risgiau drwy ddefnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Gall DPA fod yn fwy defnyddiol na thargedau oherwydd eu bod yn nodi'n glir yr ymddygiadau allweddol sy’n ofynnol o ran perfformiad, heb eu bod o reidrwydd yn pennu terfynau. Gall targedau fod yn ddefnyddiol ond unwaith y bydd cyflenwyr wedi cyrraedd y targedau hynny, mae’n bosibl na fyddant yn cymryd camau pellach a allai fod wedi parhau i wella canlyniadau. Ar ôl pennu DPA a thargedau, mae'n hanfodol bod cleientiaid yn eu cynnwys yn y cyfarfodydd rheolaidd a gynhelir gyda’r cyflenwyr i reoli’r contract. Bydd hynny’n fodd i sicrhau bod cyflenwyr yn perchenogi’r materion ac y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau rheolaidd am y DPA/targedau. O wneud hynny, gellir sicrhau bod y materion o ran cynaliadwyedd a nodwyd ac a ymgorfforwyd yn y contract yn cael eu troi'n ganlyniadau go iawn. Bydd hefyd yn helpu i atal pryderon eraill sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac a fydd wedi’u nodi yn ystod y broses cynllunio caffael, rhag cael eu diraddio. Dylid defnyddio DPA i lywio contractau at y dyfodol ac i sicrhau bod yr holl fuddion sy'n deillio o gontract yn cael eu gwireddu, yn hytrach na dim ond y buddion hynny y mae’n hawdd rhoi gwerth ariannol arnynt.
5. Camau y mae'n ofynnol i Awdurdodau Cymreig Datganoledig eu cymryd
Cynghorir Awdurdodau Cymreig Datganoledig i fabwysiadu'r Asesiadau Risg Cynaliadwyedd (SRA), ac i’w defnyddio wrth gynllunio ymarferion caffael.
6. Deddfwriaeth
Yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
7. Amseru
Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y gyfundrefn gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.
8. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS)
Mae'r WPPN hwn yn cyd-fynd â'r Egwyddorion a ganlyn yn WPPS:
Egwyddor 3
Byddwn yn datblygu caffael cynaliadwy hirdymor, sy’n adeiladu ar arfer gorau ac yn ei raddio ac yn pennu camau clir sy’n dangos sut y mae caffael yn cefnogi’r broses o gyflawni amcanion llesiant sefydliadol.
Egwyddor 6
Byddwn yn gweithredu i atal y pryderon cynyddol dros newid hinsawdd drwy flaenoriaethu lleihau carbon ac allyriadau sero drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy er mwyn cyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru ar erbyn 2030.
9. Gwybodaeth ychwanegol
- Mae rhestr lawn o Nodiadau Polisi Caffael Cymru i’w gweld ar llyw.cymru.
- Templedi Asesiadau Risg Cynaliadwy (SRA)
- Canllawiau ar “amodau cymryd rhan”
- Canllawiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Asesiad risg cynaliadwyedd y sector cyhoeddus: templed nwyddau/cynhyrchion
- Asesiad risg cynaliadwyedd y sector cyhoeddus: templed gwasanaethau
10. Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y WPPN hwn, mae croeso ichi gysylltu â swyddogion Polisi Masnachol – Polisi Masnachol@llyw.cymru.
11. Cydnabyddiaeth
Cyfeiriwyd at y dogfennau isod wrth baratoi'r WPPN hwn:
- Datganiad Polisi Caffael Cymru (Llywodraeth Cymru 2021)
- Canllaw ar Hanfodion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Llywodraeth Cymru 2021)