Nodiadau Polisi Caffael Cymru WPPN 003: Cymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol drwy gaffael cyhoeddus
Cyngor ar amcanion polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ac adrodd ar ganlyniadau mewn perthynas â chymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Pwyntiau i’w nodi
- Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) hwn yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Mae’r Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn weithredol o ddyddiad cychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Ar gyfer caffaeliadau sydd wedi cychwyn cyn y dyddiad hwn (24 Chwefror 2025), gweler WPPN 01/20.
- Mae wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024, megis terminoleg newydd. Nid yw'n golygu newid mewn polisi.
- Dylid darllen unrhyw bolisi ar y cyd â Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael 2023, Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
- Ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio ofyn am eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo'n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol.
- Mae’r nodyn yn tybio bod gan y darllenydd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu at wasanaethau i gwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
- Bydd cyfeiriadau at 'Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024' yn cael eu mynegi yma fel "y gyfundrefn gaffael".
1. Diben
Pwrpas y Nodyn Polisi Caffael hwn ar gyfer Cymru (WPPN) yw rhoi cyngor i Awdurdodau Datganoledig Cymru ar amcanion polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ac adrodd ar ganlyniadau mewn perthynas â chymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol. Mae’r WPPN hwn yn ymdrin ag:
- Amcanion polisi cymalau gwerth cymdeithasol/buddion cymunedol - gweler adran 6 isod
- Adrodd ar ganlyniadau – gweler adran 7 isod.
2. Lledaenu a chwmpas
- Mae’r WPPN hwn at sylw pob Awdurdod Datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus ehangach. Gyda’i gilydd, cyfeirir at y rhain fel ‘Gyrff Sector Cyhoeddus Cyrmu’ yn y WPPN hwn. Mae’r WPPN hwn yn cynnwys contractau nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy’n cael eu darparu yng Nghymru.
- Cofiwch ddosbarthu’r WPPN hwn ar draws eich sefydliad ac i sefydliadau perthnasol eraill rydych chi’n gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw penodol y rheini sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid ato.
3. Amseru
Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn berthnasol i gaffaeliadau a gychwynnwyd o dan y Gyfundrefn Gaffael ac felly mae'n weithredol o gychwyn Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 hyd nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.
4. Y cefndir
Pan ystyrir y sector cyhoeddus yng Nghymru drwyddo draw, dyma ddefnyddiwr mwyaf nwyddau a gwasanaethau y sector preifat a’r sector gwirfoddol yng Nghymru – gwariodd y sector £10.730 biliwn yn 2022/23. Drwy ddarparu contractau cyhoeddus, mae gan y grym gwario hwn y potensial i ddylanwadu ar ddatblygiad y farchnad yn y tymor canolig i’r tymor hir a chreu cyfleoedd i gyflawni canlyniadau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach, gan ddiwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Lle bynnag y bo modd, dylid ystyried cynnwys gofynion gwerth cymdeithasol sy’n gymesur â gwerth ac sy’n ymwneud â chwmpas y contract mewn tendrau sector cyhoeddus.
Ym mhob achos lle y mae Awdurdodau Datganoledig Cymru yn penderfynu cynnwys gofynion gwerth cymdeithasol:
- Dylid nodi cysylltiadau rhwng gofynion gwerth cymdeithasol a Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“WBFG”). Dylid pennu nodau (pan fo Awdurdod Datganoledig yng Nghymru yn ddarostyngedig i WBFG), a
- Dylid rhoi pwysoliad o 10% o leiaf ar gyfanswm y meini prawf dyfarnu ar gyfer gwerth cymdeithasol yn y tendr, i sicrhau sgôr digon trwm i fod yn ffactor sy’n gwahaniaethu wrth werthuso cynigion.
Nid yw manteisio ar y cyfleoedd hyn erioed wedi bod yn bwysicach ac mae’n hanfodol er mwyn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol fel ‘pennu blaenoriaethau a gosod amcanion’, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol (fel y diffiniwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig: Cymru Fwy Cyfartal – Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol). Daeth y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol i rym ar 31 Mawrth 2021.
5. Beth yw gwerth cymdeithasol yng nghyd-destun caffael? - Diffiniadau
Gwerth Cymdeithasol
Mae ‘Gwerth Cymdeithasol’ yn derm eang a ddefnyddir i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd camau a gymerir gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion (fel y diffiniwyd yn Social Value for Commercial Success eLearning, Government Commercial College, 2020).
Cymalau Gwerth Cymdeithasol / Buddion Cymunedol
Mae ‘cymalau Gwerth Cymdeithasol / Buddion Cymunedol’ yn is-set o werth cymdeithasol sy’n cyfeirio at amodau contract neu amodau grant neu arian cyfatebol mewn gwariant sector cyhoeddus (grant neu arian cyfatebol) sydd wedi’i gynllunio i sicrhau canlyniadau gwerth ychwanegol cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol wrth dendro am waith (adeiladu / seilwaith), gwasanaeth neu gyflenwadau.
Caffael
Caffael yw’r:
broses lle mae sefydliadau yn diwallu eu hanghenion o ran nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan o ran creu buddion nid yn unig i'r sefydliad, ond hefyd i’r gymdeithas a’r economi, gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd.
(fel y diffiniwyd yn Procuring the Future - Tasglu Caffael Cynaliadwy y DU 2006 a Datganiadau Polisi Caffael Cymru 2012 a 2015)
Mae’r diffiniadau hyn yn bwysig gan eu bod yn gwahaniaethu rhwng y prif amcanion / dibenion / buddion a ragwelir o ymrwymo arian cyhoeddus i brosiectau neu gontractau a’r amcanion eilaidd gwerth ychwanegol y gellid eu cyflawni hefyd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â phroblemau / risgiau / cyfleoedd yw ar wahanol adegau yn y broses gaffael, yn dibynnu ar eu blaenoriaeth a’u cysylltiad â phwnc y contract.
Prif amcanion
– y buddion a ragwelir; y rheswm dros wario arian cyhoeddus; i, sicrhau’r nwyddau, y gwaith a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar sefydliadau a phobl Cymru, ... diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain...gan greu buddion nid yn unig i’r sefydliad, ond hefyd i’r gymdeithas a’r economi, gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd. Mae’r rhain yn debygol o fod yn ‘fuddion i’r gymuned’ ee adeiladu ysgolion o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r adeilad fel ysgol ac ased cymunedol i’r graddau mwyaf posibl.
Amcanion eilaidd
– ‘eilaidd’ dim ond yn yr ystyr na ellir eu cyflawni heb y prif bwrpas. Maent yn werth ychwanegol sy’n deillio o’r prif gyllid sy’n arwain at ‘fuddion cymunedol gwerth cymdeithasol - ee mentrau cadwyn gyflenwi - cyfle i fusnesau yng Nghymru; mentrau addysgol – defnyddio gweithgarwch y contract i gefnogi addysg STEM; ac ati.
6. Amcanion polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gymalau Gwerth Cymdeithasol / Buddion Cymunedol
Mae Tabl 1 isod yn nodi’r amcanion polisi ar gymalau Gwerth Cymdeithasol / Buddion Cymunedol y gellir eu teilwra yng nghyd-destun gofynion penodol contractau ac anghenion pobl a chymunedau Cymru.

Er enghraifft (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Hyfforddi a recriwtio pobl economaidd anweithgar
Creu cyfleoedd newydd fel prentisiaethau neu ddarparu wythnosau hyfforddiant ymarferol ar gyfer prentisiaid presennol; cyfleoedd profiad gwaith neu hyfforddiant canolradd fel Hyfforddeiaethau; Treialon Gwaith neu leoliadau ‘rhyngosod’ ar gyfer profiad gwaith wrth astudio.
Mentrau’r gadwyn gyflenwi a gweithio gyda’r 3ydd sector
Hyrwyddo cadwyni cyflenwi agored a hygyrch sy’n rhoi cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru – yn enwedig y rheini sy’n rhan o’n Heconomi Sylfaenol a busnesau bach a chanolig – wneud cais am waith; hyrwyddo ymgysylltu â mentrau cymdeithasol a busnesau a gynorthwyir; hyrwyddo gwaith teg a thelerau talu teg a phrydlon i lawr cadwyni cyflenwi.
Mentrau addysgol
Roedd cyfraniadau at addysg yng Nghymru drwy ymgysylltu â chwricwlwm ysgolion, colegau a phrifysgolion yn canolbwyntio ar gefnogi dysgu STEM.
Mentrau cymunedol a diwylliannol
Cyfraniadau at fentrau cymunedol gan gynnwys y rheini sy’n cefnogi mynd i’r afael â thlodi ledled Cymru ac sy’n cael effaith barhaol ar y gymuned; hyrwyddo presenoldeb a chyfranogiad mewn digwyddiadau cymunedol a diwylliannol a rhai sy’n gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol.
Mentrau amgylcheddol
Manteisio ar gyfleoedd i leihau effaith amgylcheddol y contract ymhellach a hyrwyddo buddion amgylcheddol, yn enwedig pan na ellir cynnwys yr amcanion hyn yn y fanyleb.
7. Camau i’w cymryd wrth gynllunio caffael
DS: Er mwyn gallu gwerthuso Gwerth Cymdeithasol, rhaid cyfeirio ato yn y fanyleb a’r meini prawf dyfarnu. Nodir isod camau proses gaffael a sut y gellir cynnwys Gwerth Cymdeithasol ym mhob cam:
Y cam cyn caffael
Dylai Awdurdodau Datganoledig Cymru:
- Ddeall y gofynion deddfwriaethol a / neu ymrwymiadau sefydliadol o ran Gwerth Cymdeithasol (ee Cynlluniau Llesiant lleol neu ranbarthol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus; a yw’r Awdurdod Datganoledig Cymru yn ddarostyngedig i WBFG, y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol neu lle nad yw’r Awdurdod Datganoledig Cymru yn ddarostyngedig i’r rhain a oes unrhyw amodau cyllid y mae angen rhoi sylw iddynt)
- Deall y problemau yn eu cymunedau a’u rhanbarthau a nodi sut y rhoddir sylw i’r rhain a’u mynegi fel amcanion Gwerth Cymdeithasol
- Ar ôl nodi’r problemau, mynd ati i’w blaenoriaethu, gan ystyried
- Beth sy’n rhesymol ei gynnwys yn y fanyleb
- A ellir eu cwestiynu a’u gwerthuso yn y tendr, neu
- Pan nad yw amodau’r farchnad yn caniatáu rhoi sylw i werth cymdeithasol ymhellach yn y broses gaffael, a oes modd rhoi sylw i werth cymdeithasol gyda chontractwyr wrth reoli contractau
- Cyfeirio at eich bwriad i roi sylw i’ch amcanion Gwerth Cymdeithasol drwy edrych ar gyfleoedd a thrwy ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad; Gall hyn gynnwys siarad â grwpiau cymunedol i ddeall eu hanghenion / diddordebau er mwyn targedu canlyniadau Gwerth Cymdeithasol yn well, yn ogystal â dulliau ymgysylltu cyn mynd i’r farchnad megis Hysbysiadau Dangosol Blaenoro; a digwyddiadau Cwrdd â’r prynwr. Cyfeiriwch at adran 16 (ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad) o Ddeddf Caffael 2023 a’r canllawiau cysylltiedig i ddeall yr hyn a ganiateir i Awdurdodau Datganoledig Cymru, a’r hyn nas caniateir mewn perthynas ag ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad.
- Nodi sut y bydd ymrwymiadau Gwerth Cymdeithasol yn cael eu monitro a’r canlyniadau’n cael eu hadrodd. (gweler adran 9, Adrodd ar Ganlyniadau, isod)
Y cam caffael
Er mwyn gwerthuso Gwerth Cymdeithasol, bydd angen i Awdurdodau Datganoledig Cymru sicrhau bod y gofynion yn gysylltiedig â chwmpas y contract, fel y nodwyd yn y dogfennau caffael, gan sicrhau nad yw’r meini prawf a ddewisir yn gosod rhyddid di-rwystr o ddewis ar yr Awdurdod Datganoledig yng Nghymru, a sicrhau bod y gofynion yn gymesur ac nad ydynt yn torri’r amcanion caffael a gwmpesir fel y maent wedi cael eu hamlinellu yn Rhan 1 o adran 12 o’r Gyfundrefn Gaffael.
Dylai Awdurdodau Datganoledig Cymru:
- Pennu amodau gwneud cynnig a meini prawf dyfarnu ar gyfer gofynion cost / pris, technegol / ansawdd (gan gynnwys y Gwerth Cymdeithasol a nodwyd yn y cam ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad)
- Sicrhau bod unrhyw gymalau Gwerth Cymdeithasol/Buddion Cymdeithasol y maent yn bwriadu eu cynnwys yn gysylltiedig â phwnc y contract a’r hyn a nodwyd yn nogfennau’r contract. Dylid hefyd ystyried sut y bydd gofyn i’r contractiwr/cyflenwr/darparwr gwasanaeth llwyddiannus eu llifo i lawr y gadwyn gyflenwi a sut y byddant yn cael eu monitro a sut yr adroddir ar ganlyniadau (gweler adran 8 Adrodd ar Ganlyniadau, isod), a
- Sicrhau bod Hysbysiad Tendro yn cyfeirio at y Gwerth Cymdeithasol i’w ddarparu. Dylai’r dogfennau caffael hefyd fanylu’r cysylltiadau rhwng yr amcanion Gwerth Cymdeithasol arfaethedig a Nod(au) WBFG perthnasol (pan fo’r Awdurdod Datganoledig Cymru yn ddarostyngedig i WBFG).
Y cam dyfarnu contract a rheoli contract
Dylai’r Awdurdod Datganoledig Cymru:
- Sicrhau bod rheolwyr contractau a’r contractwr / cyflenwr neu ddarparwr y gwasanaeth yn ymwybodol o ofynion Gwerth Cymdeithasol unrhyw Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cysylltiedig a’r dulliau adrodd a ddewiswyd
- Cadw golwg ar y ddarpariaeth yn erbyn y gofynion Gwerth Cymdeithasol, cyn belled i lawr y cadwyni cyflenwi ag sy’n rhesymol ymarferol, gan sicrhau bod hyn yn un o nodweddion cyfarfodydd rheoli contractau rheolaidd, a dilyn y trywydd cyflawni o ran y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a thrwy gyfeirio at y dull adrodd o’ch dewis, a
- Rhannu unrhyw wersi a ddysgwyd wrth baratoi ar gyfer contractau dilynol a hynny ar draws y sefydliad a'r tu allan iddo, er mwyn i eraill ddysgu o’u profiad.
Adrodd ar ganlyniadau
Mae nifer o ddulliau adrodd, sydd yn wasanaethau am ddim ac sydd ar gael yn fasnachol ac y codir tâl amdanynt, ar gyfer monitro ac adrodd yn erbyn canlyniadau Gwerth Cymdeithasol. Mater i Awdurdodau Datganoledig Cymru yw dewis yr adnodd adrodd, ar yr amod bod yr adnoddau neu’r prosesau a ddewisir yn caniatáu adrodd ar ganlyniadau Gwerth Cymdeithasol yn erbyn un neu ragor o Nodau WBFG (pan fo’r Awdurdod Datganoledig Cymru yn ddarostyngedig i WBFG).
8. Deddfwriaeth
Gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Deddf Caffael 2023
- Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
- Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
9. Cydnabyddiaeth/cyfeiriadau
10. Gwybodaeth ychwanegol
- Canllawiau ar Ymgysylltu Rhagarweiniol â’r Farchnad (Deddf Caffael 2023)
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion
- Deddf Caffael 2023: dogfennau canllaw (mae amryw ddogfennau canllaw ar gael ar y dudalen hon, gan gynnwys canllawiau ar bennu ‘amodau gwneud cynnig’ ac ati)