Bydd Julie James, Gweinidog Tai Cymru, yn treulio noson ar strydoedd Caerdydd heno fel rhan o ddiwrnod o weithredu byd-eang er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru ac ar draws y byd.
Fel rhan o'r World's Big Sleep Out, bydd y Gweinidog yn ymuno â hyd at 50,000 o bobl ar draws y byd mewn iardiau cefn a lleoliadau eiconig ledled y byd i gysgu allan am un noson er mwyn creu'r arwydd mwyaf o gefnogaeth ac undod â'r rheini sy’n profi digartrefedd a dadleoliad.
Bydd y Gweinidog yn defnyddio'r diwrnod hwn o weithredu byd-eang i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar gysgu allan a digartrefedd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n cymryd camau pendant i gyflawni'r nod hwn.
Ei phrif nod yw atal digartrefedd a, lle nad yw hynny'n bosibl, sicrhau ei fod yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd.
Mae'n canolbwyntio ar yr angen am ddull gweithredu ataliol cynharach a'r ymateb sydd ei angen gan y gwasanaethau cyhoeddus i roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae'n amlinellu tri nod:
- Ar unwaith: cefnogi'r rhai sydd mewn argyfwng ar hyn o bryd
- Tymor byr / canolig: symud ffocws tuag at atal go iawn ac ailgartrefu cyflym
- Hirdymor: cynnal system lle mae digartrefedd yn brin ac yn fyrhoedlog a lle nad yw'n digwydd eto
Mae'r Gweinidogion yn buddsoddi'r swm mwyaf erioed, sef £1.7 billiwn, mewn tai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn (2016-2022); ac mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld llawer mwy o gartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu a hynny'n gyflymach.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi dros £20 miliwn eleni (2019/20) i atal a lleddfu digartrefedd. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ystod o wasanaethau statudol ac anstatudol i helpu'r rheini nad oes ganddynt le diogel i fyw, ac mae'n cynnwys camau penodol i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai:
Drwy ymuno â digwyddiad World's Big Sleep Out heno, rwyf eisiau helpu i godi ymwybyddiaeth o realiti llym digartrefedd.
Nid wyf eisiau i unrhyw un yng Nghymru orfod cysgu allan ar y stryd gan nad oes ganddynt unrhyw le i fyw. Mae pawb yn haeddu cael cartref clyd a chynnes.
Felly, uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Rydym yn buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth a hefyd mewn tai newydd fforddiadwy er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon.