Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cyd-destun

Mae Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol yn cytuno bod llywodraeth leol gref yn hanfodol er mwyn sicrhau dull effeithiol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd uchel i gymunedau ledled Cymru. Maent yn cydnabod mai cryfder Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth leol yw'r atebolrwydd democrataidd sy'n adlewyrchu anghenion, dyheadau a diwylliannau Cymru. Maent hefyd yn cytuno bod angen i ni weld sefydliadau llwyddiannus ac effeithiol sy'n addas i'r diben ac yn cynrychioli'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl', cytunodd Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno cynhwysfawr fel yr amlinellwyd yn y Papur Gwyrdd, a byddai'r llywodraeth leol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni diwygiadau.

Mae Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth leol yn cydnabod nad yw'r un strwythur yn ddigyfnewid ac efallai na fydd 22 o gynghorau yn addas ar gyfer anghenion Cymru i'r dyfodol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw newid i'r strwythur hwnnw neu wrth ddatblygu trefniadau rhanbarthol a phartneriaeth ehangach yn fwy effeithiol na'r hyn y mae'n ei ddisodli - a bod unrhyw amharu neu fuddsoddi yn cael eu gorbwyso gan y buddiannau (ariannol neu anariannol) dros y tymor canolig a hir.

Mae ein ffocws ar y cyd yn ymwneud â symud ymlaen â diwygiadau sy'n helpu i wella gwydnwch gwasanaethau llywodraeth leol, ac sy'n gwella rôl llywodraeth leol wrth gynllunio ardaloedd a hyrwyddo uchelgeisiau ein cymunedau ymhellach. Drwy wneud hynny, rydym yn cydnabod bod gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru (a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) rolau arbennig i'w chwarae o ran llywodraethu Cymru. Bydd y broses hon yn ceisio datblygu dealltwriaeth ar y cyd o'r rolau arbennig hynny a'r hyn maent yn ei olygu i'w gilydd.

Tasg graidd

Tasg graidd y Gweithgor yw datblygu agenda a rennir ar gyfer diwygio sy'n sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth gwasanaethau lleol drwy:strwythurau a phrosesau priodol - boed hynny'n gydweithio, gwasanaethau a rennir neu uno gwirfoddol - pob un o fewn fframwaith atebolrwydd democrataidd ac wedi'u grymuso gan swyddogaethau, pwerau a dulliau hyblyg ychwanegol, y fframwaith ariannol priodol a chymorth neu ddulliau eraill sydd eu hangen ar gyfer newid.

Rhannau allweddol

Cydweithio a strwythurau

  • Edrych ar y trefniadau rhanbarthol presennol a nodi lle mae cyfle i symleiddio ac integreiddio gweithgaredd (gan awdurdodau a phartneriaid), cyfle i ddatblygu yn y dyfodol, a chyfle i ailgynllunio gwasanaethau, a sefydlu'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i waith rhanbarthol pellach.
  • Nodi meysydd lle mae awydd a digon o achos dros wasanaethau a rennir a'r camau gofynnol i wneud cynnydd.
  • Cynhyrchu prosbectws sy'n amlinellu'r materion allweddol y gallai awdurdodau posibl sy’n uno eu defnyddio i brofi'r achos dros newid o fewn eu cyd-destun.
  • Cynghori ar y camau gweithredu ymarferol ac unrhyw gymorth sydd ei angen i wneud cynnydd o ran pob un o'r uchod. Bydd hyn yn gymysgedd o faterion i lywodraeth leol arwain arnynt a materion i Lywodraeth Cymru roi sylw iddynt.

Pwerau a dulliau hyblyg

  • Nodi pwerau penodol, gan gynnwys pwerau a ariennir, a dulliau hyblyg a fyddai'n cefnogi'r llywodraeth leol i gyflawni ei dyheadau ar gyfer cymunedau a galluogi cymunedau i gyflawni eu rhai nhw.
  • Archwilio'r trefniadau presennol a ddefnyddir ar gyfer ffurfio, ymgynghori ar, a gweithredu newid mewn polisïau er mwyn sicrhau bod llais a buddiannau llywodraeth leol yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu'n gywir mewn penderfyniadau.

Dinasyddiaeth weithgar

  • Nodi'r ffyrdd y gellir grymuso cymunedau i gymryd rhan lawnach ac ystyrlon yn y gwaith o wneud penderfyniadau yn lleol.
  • Archwilio'r diwygiadau uniongyrchol y gellid eu gweithredu i sicrhau gwerth cyhoeddus cynyddol.
  • Cynghori ar sut y gellir cyflawni mwy o amrywiaeth o ran cynrychiolaeth llywodraeth
  • leol, ac ymysg uwch swyddogion.
  • Ystyried cynghorwyr, eu cyflog a'u rolau, a pha newidiadau, ar yr un lefel cyflog gyffredinol, allai sicrhau mwy o amrywiaeth a gallu ymysg aelodau etholedig.

Newid gwasanaeth a'r sefyllfa ariannol

  • Bydd y Gweithgor yn canolbwyntio ar ddatblygu'r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau llywodraeth leol oherwydd y gwerth maent yn ei greu i'r cyhoedd.
  • Nid y Gweithgor fydd y prif fforwm ar gyfer archwilio sefyllfa ariannol llywodraeth leol a'r achos dros ariannu; Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru fydd yn gyfrifol yn bennaf am hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd y Gweithgor yn ystyried y strwythur sy'n cefnogi gwaith yr Is-grŵp Cyllid ac yn ystyried sut y gellir cynyddu cyfraniad aelodau at y broses hon a chodeiddio mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli.
  • Penderfynu pa adnoddau sydd eu hangen i sefydlu gwelliant newydd a arweinir gan y sector a chefnogi trefniadau mewn llywodraeth leol, gan gynnwys trawsnewid digidol, asesu gan gymheiriaid a hunanasesu, a chymorth corfforaethol a gwasanaeth.

Parch gan y naill at y llall a rhannu cyfrifoldebau

  • Ystyried sut y gellir datblygu ac ymgorffori parch gan y naill at y llall rhwng cynrychiolwyr etholedig yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau mwy o gysondeb a dealltwriaeth well o'r rolau a'r cyfrifoldebau perthnasol.
  • Ystyried sut y gall y fframwaith llywodraethu yng Nghymru, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu codeiddio a'u tanategu gan egwyddorion a rennir ac ymrwymiad i oruchwyliaeth ddemocrataidd a sybsidiaredd, er enghraifft Siarter ar gyfer Hunanlywodraeth Leol

Dull o weithio

Bydd y Gweithgor yn gweithio ar y cyd i ddatblygu safbwynt a rennir ar ddiwygio, gyda ffocws ar y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r agenda honno a rennir.

Bydd y llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn agored i bob mater sy'n peri pryder, a'u blaenoriaethau gwirioneddol er mwyn galluogi ymgysylltu ystyrlon ar y materion sydd wirioneddol o bwys iddynt - ac i bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru.

Bydd y Gweithgor yn gallu tynnu ar y dystiolaeth sylweddol sydd wedi cael ei datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar ddiwygio a darparu effeithiol. Bydd y Gweithgor, felly, yn canolbwyntio ar benderfynu beth y dylid ei wneud wrth ymateb i'r dystiolaeth honno a pheidio â chreu tystiolaeth ychwanegol sylweddol ei hun.

Allbwn

Bydd yr allbwn yn gynllun ymarferol ar gyfer newid, wedi'i greu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth leol, a bydd yn cael ei weithredu ar y cyd.

Dylai'r broses fod yn ymarferol a chanolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth a rennir o ran yr hyn sydd angen ei wneud i roi newid ar waith. Mae'r allbwn a ddymunir ar y cyd yn agenda a rennir ar gyfer newid, nid adroddiad nac argymhellion i'w hystyried.

Amserlen

Bydd gwaith y Gweithgor yn para am flwyddyn, a bydd ei waith yn dod i ben yn haf 2019.

Bydd angen cadarnhau unrhyw faterion i'w cynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol erbyn diwedd Medi 2018 er mwyn sicrhau bod darpariaethau yn barod i'w cyflwyno yng Ngham 2. Bydd angen rhoi sylw i unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg yn hwyrach mewn deddfwriaeth ddilynol.

Cynllun gwaith

Bydd y Gweithgor yn cytuno ar gynllun gwaith a rhestr o gyfarfodydd i gwmpasu pum elfen allweddol y dasg.

Aelodaeth

Bydd y Gweithgor yn cynnwys aelodau llywodraeth leol yn bennaf, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Undebau Llafur, busnesau a'r trydydd sector:

  • Cadeirydd annibynnol
    • Derek Vaughan
  • Chwe arweinydd o Lywodraeth Leol Cymru
    • Y Cyng. Debbie Wilcox (Arweinydd CLlLC)
    • Y Cyng. Andrew Morgan (Llywydd CLlLC)
    • Y Cyng. Hugh Evans (Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC)
    • Y Cyng. Emlyn Dole (Arweinydd Plaid Cymru CLlLC)
    • Y Cyng. Peter Fox (Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr CLlLC)
    • Y Cyng. Rob Stewart (Dirprwy Arweinydd CLlLC)
  • Gweinidog Llywodraeth Cymru
    • Alun Davies (gall hyn amrywio yn dibynnu ar y pwnc)
  • Un cynrychiolydd undeb
    • Bethan Thomas (Unsain)
  • Un cynrychiolydd busnes
    • Michael Plaut (CBI Cymru)
  • Cynrychiolydd Trydydd Sector
    • Gaynor Richards (Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot)

Er bod mynychu'n barhaus yn bwysig, gall aelodau anfon dirprwy pan fo angen.

Ysgrifenyddiaeth a chymorth

  • Llywodraeth Cymru ar y cyd â CLlLC
  • Bydd y gweithgor yn gallu tynnu ar fewnbwn academaidd neu fewnbwn arbenigol arall yn ôl y gofyn
  • Bydd y gweithgor yn gallu gwahodd pobl sydd ag arbenigedd perthnasol i ymuno â'r drafodaeth ar bynciau allweddol